
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2010, a deuant i rym ar 3 Mawrth 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Diwygir Atodlen 2 i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 1 o Ran 1 o'r Atodlen—
(a) Yn yr is-baragraff sydd â'r pennawd “Rateable Value”—
(i) yn lle “2005”, rhodder “2010”;
(ii) yn lle “2003”, rhodder “2008”; a
(iii) hepgorer y geiriau o “Thus” i “offices”.
(b) Yn yr is-baragraff sydd â'r pennawd “Small Business Rate Relief”—
(i) ym mharagraff (a), yn lle “£2,000” rhodder “£2,400”;
(ii) ym mharagraff (b), yn lle “£2,001 and £6,500”, rhodder “£2,401 and £7,800”; a
(iii) ym mharagraff (e) yn lle “£6,501 and £9,000”, rhodder “£7,801 and £11,000”.
3 
Ym mharagraff 1 o Ran 2 o'r Atodlen—
(a) Yn yr is-baragraff sydd â'r pennawd “Gwerth Ardrethol”—
(i) yn lle “2005”, rhodder “2010”;
(ii) yn lle “2003”, rhodder “2008”; a
(iii) hepgorer y geiriau o “Felly” i “awdurdod”.
(b) Yn yr is-baragraff sydd â'r pennawd “Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach”—
(i) ym mharagraff (a) yn lle “£2,000” rhodder “£2,400”;
(ii) ym mharagraff (b) yn lle “£2,001 a £6,500”, rhodder “£2,401 a £7,800”; a
(iii) ym mharagraff (d) yn lle “£6,501 a £9,000”, rhodder “£7,801 a £11,000”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
6 Chwefror 2010