
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sy'n Addas i Bobl ag Anoddefiad tuag at Glwten (Cymru) 2010, a deuant i rym ar 1 Ionawr 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr y mae “food authority” yn ei ddwyn yn rhinwedd adran 5(1A) o'r Ddeddf;
 ystyr “darpariaeth benodedig” (“specified provision”) yw unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad y Comisiwn sydd wedi'i phennu yng Ngholofn 1 o'r Atodlen ac y mae pwnc y ddarpariaeth honno wedi'i ddisgrifio yng Ngholofn 2 o'r Atodlen;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990; ac
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 41/2009 sy'n ymwneud â chyfansoddiad a labelu deunyddiau bwyd sy'n addas i bobl ag anoddefiad tuag at glwten .
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio un a ddiffinnir ym mharagraff (1), ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Ddeddf.
(3) Mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad y Comisiwn yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad y Comisiwn.
(4) Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf yn cael eu neilltuo—
(a) drwy orchymyn o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 i awdurdod iechyd porthladd; neu
(b) drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936, i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig;
rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y neilltuoliwyd hwy iddo.
3 

(1) Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth benodedig yn euog o dramgwydd.
(2) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(3) Rhaid i bob awdurdod bwyd weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
4 
At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae'r darpariaethau penodedig yn gymwys i ddeunyddiau bwyd i bobl ag anoddefiad tuag at glwten a osodir ar y farchnad fanwerthu p'un ai a fyddant wedi'u pecynnu'n barod ai peidio.
5 
Mae'r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
(a) adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir i fwyd gael ei fwyta gan bobl);
(b) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(c) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy), gyda'r addasiadau bod is-adrannau (2) i (4) yn gymwys o ran tramgwydd o dan reoliad 3(1) fel y maent yn gymwys o ran tramgwydd o dan adran 14 neu 15 ac y bernir bod y cyfeiriadau yn is-adran (4)(b) at “sale or intended sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “labelling, advertising or presentation”;
(ch) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(d) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(dd) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan baragraff (d);
(e) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (d);
(f) adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (dd);
(ff) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
(g) adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd); ac
(ng) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
23 Hydref 2010
YR ATODLEN
Rheoliadau 2(1) a 3(1)



Y Ddarpariaeth yn Rheoliad y Comisiwn Y pwnc
Erthygl 3(1), fel y'i darllenir gydag Erthygl 3(5) Gofyniad bod rhaid i ddeunyddiau bwyd i bobl ag anoddefiad at glwten—
(a) a gyfansoddir o neu sy'n cynnwys un neu fwy o gynhwysion sydd wedi'u gwneud o wenith, rhyg, haidd, ceirch neu o'u hamrywiaethau trawsfridiol a broseswyd yn arbennig er mwyn lleihau glwten; neu
(b) sy'n cynnwys cynhwysion sy'n disodli gwenith, rhyg, haidd, ceirch neu eu hamrywiaethau trawsfridiol a hefyd gynhwysion sydd wedi'u gwneud o wenith, rhyg, haidd, ceirch neu o'u hamrywiaethau trawsfridiol a broseswyd yn arbennig er mwyn lleihau glwten,beidio bod â lefel glwten sy'n uwch na 100 mg/kg yn y bwyd fel y'i gwerthir i'r defnyddiwr terfynol.
Erthygl 3(2), fel y'i darllenir gydag Erthygl 3(5) Gofyniad bod rhaid i labelu, hysbysebu a chyflwyno deunyddiau bwyd i bobl ag anoddefiad at glwten—
(a) a gyfansoddir o neu sy'n cynnwys un neu fwy o gynhwysion sydd wedi'u gwneud o wenith, rhyg, haidd, ceirch neu o'u hamrywiaethau trawsfridiol a broseswyd yn arbennig er mwyn lleihau glwten; neu
(b) sy'n cynnwys cynhwysion sy'n disodli gwenith, rhyg, haidd, ceirch neu eu hamrywiaethau trawsfridiol a hefyd gynhwysion sydd wedi'u gwneud o wenith, rhyg, haidd, ceirch neu o'u hamrywiaethau trawsfridiol a broseswyd yn arbennig er mwyn lleihau glwten,fod yn dwyn y term “very low gluten”, er y dichon labelu, hysbysebu a chyflwyno'r deunyddiau bwyd hynny fodd bynnag ddwyn y term “gluten-free” cyhyd ag nad yw'r cynnwys glwten yn uwch na 20 mg/kg yn y bwyd fel y'i gwerthir i'r defnyddiwr terfynol.
Erthygl 3(3), fel y'i darllenir gydag Erthygl 3(5) 
— Gofyniad bod rhaid i geirch a gynhwysir mewn deunyddiau bwyd i bobl ag anoddefiad at glwten (gan gynnwys deunyddiau bwyd i bobl ag anoddefiad at glwten sy'n cynnwys cynhwysion sy'n disodli gwenith, rhyg, haidd, ceirch neu eu hamrywiaethau trawsfridiol a hefyd gynhwysion sydd wedi'u gwneud o wenith, rhyg, haidd, ceirch neu o'u hamrywiaethau trawsfridiol a broseswyd yn arbennig er mwyn lleihau glwten) fod wedi cael eu cynhyrchu, eu paratoi a/neu eu prosesu'n arbennig mewn ffordd sy'n osgoi bod gwenith, rhyg, haidd neu eu hamrywiaethau trawsfridiol yn eu llygru.
— Gofyniad bod rhaid i gynnwys glwten ceirch o'r fath beidio â bod yn uwch na 20 mg/kg.
Erthygl 3(4) 
— Gofyniad bod rhaid i ddeunyddiau bwyd i bobl ag anoddefiad at glwten a gyfansoddir o neu sy'n cynnwys un neu fwy o gynhwysion sy'n disodli gwenith, rhyg, haidd, ceirch neu eu hamrywiaethau trawsfridiol beidio bod â lefel glwten uwch na 20 mg/kg yn y bwyd fel y'i gwerthir i'r defnyddiwr terfynol.
— Gofyniad bod rhaid i labelu, cyflwyno a hysbysebu'r cynhyrchion hynny ddwyn y term “gluten-free”.
Erthygl 3(6) Gofyniad bod rhaid i'r termau “very low gluten” a “gluten-free” y cyfeirir atynt yn Erthygl 3(2) a (4) ymddangos wrth ymyl yr enw y gwerthir y deunydd bwyd perthnasol i bobl ag anoddefiad at glwten oddi tano.
Erthygl 4 a Gwaharddiad ar labelu, hysbysebu a chyflwyno—
(a) deunyddiau bwyd i'w bwyta'n arferol; neu
(b) deunyddiau bwyd at ddibenion maethol penodol sydd wedi cael eu fformiwleiddio, eu prosesu neu eu paratoi'n arbennig i gyfarfod anghenion dietegol arbennig heblaw rhai'r bobl hynny sydd ag anoddefiad tuag at glwten ond sydd fodd bynnag yn addas, yn rhinwedd eu cyfansoddiad, i gyfarfod anghenion dietegol arbennig pobl sydd ag anoddefiad tuag at glwten,sy'n dwyn y term “very low gluten”, er y dichon labelu, hysbysebu chyflwyno'r deunyddiau bwyd hynny fodd bynnag ddwyn y term “gluten-free” cyhyd ag nad yw'r cynnwys glwten yn uwch na 20 mg/kg yn y bwyd fel y'i gwerthir i'r defnyddiwr terfynol.
