
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2010 ac maent yn dod i rym ar 1 Tachwedd 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Diwygir Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994 fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 2(1) mewnosoder ar ôl y diffiniad o “approval”—“
 “approved relevant qualification” is a relevant qualification within the meaning of section 30(5) of the Education Act 1997;”; a
(b) ym mharagraff 12(2)(c)(vi) a pharagraff 12(2)(c)(vii) o Atodlen 2, yn lle “external” rhodder “approved relevant”.
3 
Diwygir Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig) 1994 fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 2(1) mewnosoder ar ôl y diffiniad o “the 1993 Act”—“
 “approved relevant qualification” is a relevant qualification within the meaning of section 30(5) of the Education Act 1997;”;
(b) ym mharagraff 5 o Ran 3 o'r Atodlen, yn lle is-baragraff (2)(a) rhodder—“
(a) a list of the approved relevant qualifications for which courses of study are provided for pupils of compulsory school age at the school;”; ac
(c) ym mharagraff 5(2)(c) o Ran 3 o'r Atodlen, yn lle “external” rhodder “approved relevant”.
4 
Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgol) (Cymru) 1999 fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 3—
(i) yn lle'r diffiniad o “approved external qualification”, rhodder—“
 “approved relevant qualification” is a relevant qualification within the meaning of section 30(5) of the Education Act 1997;”;
(ii) hepgorer y diffiniadau o “AVCE” ac “ASVCE”;
(iii) hepgorer y diffiniad o “GNVQ”; a
(iv) yn y diffiniad o “NQF”, yn lle “qualifications accredited by” hyd at y diwedd rhodder “relevant qualifications within the meaning of section 30(5) of the Education Act 1997 which is awarded or authenticated by a body which is recognised by the Welsh Ministers under section 30(1)(e) of that Act in respect of the qualification and “NQF level” means the level or levels set out in the NQF in relation to a relevant qualification;”; a
(b) Yn Atodlen 4—
(i) ym mharagraff 5 o Ran 1 hepgorer is-baragraffau (c) a (d);
(ii) ym mharagraffau 7 a 10 o Ran 2, yn lle “external” rhodder “relevant”;
(iii) ym mharagraff 16(a) o Ran 2 hepgorer “or AVCE”; a
(iv) ym mharagraff 16(b) o Ran 2 hepgorer “or ASVCE”.
5 
Diwygir Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) 2001 fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 2—
(i) yn lle'r diffiniad o “cymhwyster allanol a gymeradwywyd” rhodder—“
 “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” (“approved relevant qualification”) yw cymhwyster perthnasol o fewn ystyr adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997;”;
(ii) hepgorer y diffiniadau o “TAAU” a “TAAUG”;
(iii) hepgorer y diffiniad o “GNVQ”; a
(iv) yn y diffiniad o “NQF”, yn lle “cymwysterau achrededig gan” hyd at y diwedd rhodder “cymwysterau perthnasol o fewn ystyr adran 30(5) o Deddf Addysg 1997 a ddyfarnwyd neu a ddilyswyd gan gorff sy'n cael ei gydnabod gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(e) o'r Ddeddf honno o ran y cymhwyster ac ystyr “lefel NQF” yw'r lefel neu'r lefelau a osodir yn yr NQF o ran cymhwyster perthnasol;”; a
(b) yn Atodlen 2—
(i) ym mharagraffau 7 a 10 o Ran 2, yn lle “allanol” rhodder “perthnasol”;
(ii) ym mharagraff 16(a) o Ran 2 hepgorer “neu TAAU”; a
(iii) ym mharagraff 16(b) o Ran 2 hepgorer “neu TAAUG”.
6 
Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004 fel a ganlyn—
(a) yn lle'r diffiniad o “cymhwyster allanol a gymeradwywyd” yn rheoliad 2(1) rhodder—“
 “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” (“approved relevant qualification”) yw cymhwyster perthnasol o fewn ystyr adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997;”;
(b) yn y diffiniad o “NQF”, yn rheoliad 2(1) yn lle “cymwysterau achrededig gan” hyd at y diwedd rhodder “cymwysterau perthnasol o fewn ystyr adran 30(5) o Deddf Addysg 1997 a ddyfarnwyd neu a ddilyswyd gan gorff sy'n cael ei gydnabod gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(e) o'r Ddeddf honno o ran y cymhwyster ac ystyr “lefel NQF” yw'r lefel neu'r lefelau a osodir yn yr NQF o ran cymhwyster perthnasol;”;
(c) yn y darpariaethau canlynol, yn lle “cymhwyster allanol a gymeradwywyd” ym mhob man lle y mae'r geiriau'n ymddangos rhodder “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” gan dreiglo yn ôl yr angen—
(i) rheoliad 2(4);
(ii)  paragraff 3 o Ran 1 o Atodlen 2; a
(iii)  paragraff 6 o Ran 2 o Atodlen 2;
(ch) yn y darpariaethau canlynol, yn lle “cymwysterau allanol a gymeradwywyd” ym mhob man lle y mae'r geiriau'n ymddangos rhodder “cymwysterau perthnasol a gymeradwywyd” gan dreiglo yn ôl yr angen—
(i) rheoliad 2(2)(b);
(ii) y pennawd i Atodlen 2;
(iii)  paragraff 2 o Ran 1 o Atodlen 2; a
(iv)  paragraff 4 o Ran 2 o Atodlen 2;
(d) ym mhennawd rheoliad 8, yn lle “cymwysterau allanol a gymeradwywyd” rhodder “cymwysterau perthnasol a gymeradwywyd” ac yn y rheoliad, yn lle “cymwysterau” rhodder “cymwysterau perthnasol a gymeradwywyd”.
7 
Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004 fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 2(1)—
(i) yn lle'r diffiniad o “cymhwyster allanol a gymeradwywyd” rhodder—“
 “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” (“approved relevant qualification”) yw cymhwyster perthnasol o fewn ystyr adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997;”;
(ii) hepgorer y diffiniad o “TAAU”;
(iii) yn y diffiniad o “y Gronfa Ddata Genedlaethol o Gymwysterau Achrededig”, yn lle “yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm” rhodder “y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau”;
(iv) yn y diffiniad o “NQF”, yn lle “gymwysterau achrededig gan” hyd at y diwedd rhodder “gymwysterau perthnasol o fewn ystyr adran 30(5) o Deddf Addysg 1997 a ddyfarnwyd neu a ddilyswyd gan gorff sy'n cael ei gydnabod gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(e) o'r Ddeddf honno o ran y cymhwyster ac ystyr “lefel NQF” yw'r lefel neu'r lefelau a osodir yn yr NQF o ran cymhwyster perthnasol;”;
(v) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—“
 ystyr “y gofrestr” (“the register”) yw'r gofrestr a gynhelir ac a gyhoeddir gan y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau yn unol ag adran 148 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009;”; a
(b) yn rheoliad 7(3)(c), yn lle “gymhwyster allanol a gymeradwywyd” rhodder “gymwysterau perthnasol a gymeradwywyd”; ac
(c) yn rheoliad 7(10)(a), yn lle “cymwysterau allanol a gymeradwywyd” rhodder “cymwysterau perthnasol a gymeradwywyd”;
(ch) yn y darpariaethau canlynol, yn lle “cymhwyster allanol a gymeradwywyd” ym mhob man lle y mae'r geiriau'n ymddangos rhodder “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” gan dreiglo yn ôl yr angen—
(i) rheoliad 9(2)(c) ac (ch);
(ii) paragraff 4(3) o Ran 1 o Atodlen 2;
(iii) y pennawd i baragraff 6 o Ran 3 o Atodlen 2;
(iv) paragraff 6(1) a (3) o Atodlen 2; a
(v) paragraff 8(3) o Ran 4 o Atodlen 2;
(d) ym mharagraff 4(1) o Ran 1 o Atodlen 2, yn lle “cymhwyster allanol” rhodder “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd”;
(dd) ym mharagraff 4(3) o Ran 1 a pharagraff 6(3) o Ran 3 o Atodlen 2 yn lle “â'r Gronfa Ddata Genedlaethol o Gymwysterau Achrededig” rhodder “â naill ai'r Gronfa Ddata Genedlaethol o Gymwysterau Achrededig neu'r gofrestr”.
8 
Diwygir Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009 fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 2—
(i) yn y diffiniad o “NQF”, yn lle “cymwysterau wedi'u hachredu gan” hyd at y diwedd rhodder “cymwysterau perthnasol o fewn ystyr adran 30(5) o Deddf Addysg 1997 a ddyfarnwyd neu a ddilyswyd gan gorff sy'n cael ei gydnabod gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(e) o'r Ddeddf honno o ran y cymhwyster;”;
(ii) yn lle'r diffiniad o “lefel NQF” rhodder–“
 ystyr “lefel NQF” (“NQF level”) yw'r lefel neu'r lefelau a osodir yn yr NQF o ran cymhwyster perthnasol;”; a
(iii) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—“
 ystyr “QCF” (“QCF”) yw'r Fframwaith Cymwysterau a Chredydau sef cymwysterau perthnasol o fewn ystyr adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997 a ddyfarnwyd neu a ddilyswyd gan gorff sy'n cael ei gydnabod gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(e) o'r Ddeddf honno o ran y cymhwyster;
 ystyr “lefel QCF” (“QCF level”) yw'r lefel neu'r lefelau a osodir yn y QCF o ran cymhwyster perthnasol;”; a
(b) yn rheoliad 4 ar ôl y geiriau “NQF” ym mhob man lle y maent yn ymddangos mewnosoder “neu QCF”.
9 
Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant sy'n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Cymru) 2009, fel a ganlyn—
(a) yn lle'r diffiniad o “cymhwyster allanol a gymeradwywyd” yn rheoliad 2 rhodder—“
 “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” (“approved relevant qualification”) yw cymhwyster perthnasol o fewn ystyr adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997;”; a
(b) ym mharagraff 6 o Atodlen 2 yn lle “chymhwyster allanol a gymeradwywyd” rhodder “chymhwyster perthnasol a gymeradwywyd”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
4 Hydref 2010