
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2010.
(2) Yn y Gorchymyn hwn:
 ystyr “Atodlen 12” (“Schedule 12”) yw Atodlen 12 i Ddeddf 2009 ac ystyr “Atodlen 16” (“Schedule 16”) yw Atodlen 16 i Ddeddf 2009;
 ystyr “Deddf 1997” (“the 1997 Act”) yw Deddf Addysg 1997;
 ystyr “Deddf 2009” (“the 2009 Act”) yw Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009;
 ystyr “y diwrnod penodedig” (“the appointed day”) yw 1 Tachwedd 2010 ac eithrio mewn perthynas ag erthygl 2(c) ac (ch) pan mai 1 Hydref 2010 yw ei ystyr.
2 
Daw'r darpariaethau canlynol i rym ar y dyddiad penodedig—
(a) adrannau 174 a 192 o Ddeddf 2009 i'r graddau y maent yn ymwneud â pharagraffau 11, 13 a 27 o Atodlen 12 (i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru); paragraffau 14 i 19 a 29 o Atodlen 12; a'r cofnodion cysylltiedig yn Atodlen 16;
(b) adran 266 o Ddeddf 2009 i'r graddau y mae'n ymwneud—
(i) â'r diddymiadau canlynol a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 16:(a2) adran 30(1C), (1D), (2) a (6) o Ddeddf 1997;(b2) adran 32(4A) o Ddeddf 1997;(c2) adran 32A(6) o Ddeddf 1997;(ch2) paragraff 5(6) o Atodlen 17 i Ddeddf Addysg 2002;(d2) adran 162(2) i (5) o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008;
(ii) â'r diddymiadau neu'r dirymiadau canlynol a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 16 i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru:(a2) adrannau 21 i 26A o Ddeddf 1997;(b2) paragraff 214 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;(c2) adran 103(2) a (3) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 a pharagraff 69 o Atodlen 9 iddi;(ch2) yn adran 216(2) o Ddeddf Addysg 2002, y geiriau “paragraphs 1 to 4 and 9 of Schedule 17, and section 189 so far as relating to those paragraphs,”;(d2) paragraffau 1 i 4 a'r pennawd mewn sgript italig o flaen paragraff 1 o Atodlen 17 i Ddeddf Addysg 2002;(dd2) paragraff 69 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002;(e2) paragraff 7 o Atodlen 1 i Orchymyn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Awdurdod) 2005;(f2) paragraff 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Gofal Plant 2006 a'r pennawd mewn sgript italig sy'n dod o'i flaen;(ff2) paragraff 21 o Atodlen 14 i Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006;(g2) adrannau 161 ac 163 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008;
(c) adran 259 o Ddeddf 2009;
(ch) y diddymiad a bennir yn Atodlen 16 yn adran 76(1)(b) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 sef diddymu'r geiriau “in England”.
3 

(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys os cydnabyddir person (neu os caiff ei drin fel pe cydnabyddir ef), yn union cyn y diwrnod penodedig, gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(cb) o Ddeddf 1997, a'i fod yn dyfarnu neu'n dilysu cymhwyster sy'n cael ei achredu gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997.
(2) Yn effeithiol o'r diwrnod penodedig ymlaen, bernir bod y person yn cael ei gydnabod gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997 mewn cysylltiad â dyfarnu neu ddilysu'r cymhwyster hwnnw neu'r disgrifiad hwnnw o gymhwyster.
4 

(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys os achredir cymhwyster (“y cymhwyster”), yn union cyn y diwrnod penodedig, gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997.
(2) Yn effeithiol o'r diwrnod penodedig ymlaen, mae'r cymhwyster i'w drin fel pe bai'n ddarostyngedig i ofyniad am achredu yn unol â dyfarniad a wneir o dan adran 30(1)(f) o Ddeddf 1997.
5 

(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys os achredir ffurf ar gymhwyster (“y ffurf ar gymhwyster”), yn union cyn y diwrnod penodedig, gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997 ac y bernir, yn rhinwedd erthygl 4, ei bod yn ddarostyngedig i ofyniad am achredu.
(2) Yn effeithiol o'r diwrnod penodedig ymlaen, caiff y ffurf ar y cymhwyster ei thrin fel pe bai wedi ei hachredu gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(h) o Ddeddf 1997.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru.
30 Medi 2010