
RHAN 1
1 

(1) Enw'r Cynllun hwn yw Cynllun Cychod Pysgota (Darlledu Data Gweithgareddau Pysgota yn Electronig) (Cymru) 2010 a daw i rym ar 20 Hydref 2010.
(2) Mae'r Cynllun hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Yn y Cynllun hwn—
 ystyr “cais” (“application”) yw cais am grant o dan y Cynllun hwn ac mae “ceisydd” (“applicant”) i'w ddehongli'n unol â hynny;
 ystyr “cwch pysgota Cymreig cymwys” (“eligible Welsh fishing boat”) yw cwch pysgota—
(a) sydd wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran 2 o Ddeddf Llongau Masnach 1995;
(b) sydd â'i borthladd gweinyddu yng Nghymru ar ddyddiad gwneud y cais am grant; ac
(c) sy'n mesur 15 o fetrau neu fwy o hyd yn gyfan gwbl;
 ystyr “cyflenwr a gymeradwywyd” (“approved supplier”) yw cyflenwr a bennir mewn rhestr a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 3(1) mewn cysylltiad â'r feddalwedd a gymeradwywyd;
 mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
 ystyr “data gweithgareddau pysgota” (“fishing activities data”) yw data'r llyfr log, data'r datganiad trawslwytho a data'r datganiad glanio y mae'n ofynnol o dan y Rheoliad UE ei gofnodi a'i ddarlledu drwy ddull electronig;
 ystyr “y dyddiad cau” (“the closing date”) yw'r dyddiad hwnnw y dichon Gweinidogion Cymru ei bennu a'i gyhoeddi o bryd i'w gilydd fel y dyddiad y mae'n rhaid cyflwyno cais am grant arno neu o'i flaen;
 ystyr “grant” (“grant”) yw grant o dan y Cynllun hwn;
 ystyr “meddalwedd a gymeradwywyd” (“approved software”) yw meddalwedd a bennir mewn rhestr a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 3(1);
 ystyr “porthladd gweinyddu” (“port of administration”) yw'r porthladd y dyroddir ohono'r drwydded a roddir mewn cysylltiad â chwch pysgota o dan adran 4 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967; ac
 ystyr “y Rheoliad UE” (“the EU Regulation”) yw—
(a) tan 31 Rhagfyr 2010, y darpariaethau sy'n ymwneud â chofnodi a darlledu data gweithgareddau pysgota a osodir yn—
(i) Erthyglau 1 i 3 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1966/2006 ar 21 Rhagfyr 2006 ar gofnodi ac adrodd yn electronig am weithgareddau pysgota ac ar ddulliau synhwyro o bel); a
(ii) Pennod 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1077/2008 ar 3 Tachwedd 2008 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1966/2006 ar gofnodi ac adrodd yn electronig am weithgareddau pysgota ac ar ddulliau synhwyro o bell ac sy'n diddymu Rheoliad (EC) Rhif 1566/2007;
(b) ar 1 Ionawr 2011 ac wedi hynny, y darpariaethau sy'n ymwneud â chofnodi a darlledu data gweithgareddau pysgota a osodir yn Adran 1 o Bennod 1 o Deitl 4 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 ar 20 Tachwedd 2009 sy'n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau'r polisi pysgodfeydd cyffredin, ac sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 847/96, (EC) Rhif 2371/2002, (EC) Rhif 811/2004, (EC) Rhif 768/2005, (EC) Rhif 2115/2005, (EC) Rhif 2166/2005, (EC) Rhif 388/2006, (EC) Rhif 509/2007, (EC) Rhif 676/2007, (EC) Rhif 1098/2007, (EC) Rhif 1300/2008, (EC) Rhif 1342/2008 ac yn diddymu Rheoliadau (EEC) Rhif 2847/93, (EC) Rhif 1627/94 ac (EC) Rhif 1966/2006.
(2) Ystyr unrhyw rwymedigaeth ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi deunydd o dan y Cynllun hwn yw rhwymedigaeth i beri bod y deunydd hwnnw ar gael mewn modd a fydd yn sicrhau ei bod yn weddol debygol y bydd y rheini sy'n gymwys am grant yn ei weld.
RHAN 2
3 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi rhestr sy'n pennu—
(a) meddalwedd sy'n gallu—
(i) cofnodi data gweithgareddau pysgota'n electronig; a
(ii) darlledu data gweithgareddau pysgota'n electronig yn y ffurf ofynnol; a
(b) cyflenwyr y feddalwedd honno.
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “y ffurf ofynnol” (“required format”) yw ffurf a bennir ac a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliad UE.
4 

(1) Caiff person wneud cais, yn unol â darpariaethau'r Cynllun hwn, i Weinidogion Cymru am grant, os yw'r person hwnnw—
(a) yn feistr, yn berchennog neu'n siartrwr cwch pysgota Cymreig cymwys; a
(b) wedi prynu meddalwedd a gymeradwywyd gan gyflenwr a gymeradwywyd, neu wedi comisiynu cyflenwr a gymeradwywyd i gyflenwi meddalwedd a gymeradwywyd, i'w defnyddio ar y cwch hwnnw.
(2) Yn y paragraff hwn, mae “meistr” (“master”) yn cynnwys y person y mae'r cwch pysgota dan ei ofal am y tro.
5 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru dalu unrhyw grant, neu unrhyw ran ohono, wedi i'r cais gael ei gymeradwyo o dan baragraff 9(1) a bod Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni—
(a) bod y cyflenwr a gymeradwywyd wedi cyflenwi'r feddalwedd a gymeradwywyd i'r ceisydd a bod y feddalwedd wedi'i gosod yn y cwch pysgota Cymreig cymwys;
(b) bod y ceisydd wedi defnyddio'r feddalwedd a gymeradwywyd i gofnodi ac i ddarlledu'n electronig ddata gweithgareddau pysgota yn unol â'r Rheoliad UE; ac
(c) bod cydymffurfio wedi bod ag unrhyw amod ar gyfer talu'r grant neu unrhyw ran ohono.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru—
(a) talu'r grant i'r ceisydd neu'n uniongyrchol i'r cyflenwr a gymeradwywyd ar ran y ceisydd;
(b) talu'r grant ar y fath adeg, neu drwy'r fath randaliadau ar y fath ysbeidiau neu adegau, ag y dichon Gweinidogion Cymru bennu; ac
(c) rhoi un grant yn unig mewn cysylltiad ag unrhyw gwch pysgota Cymreig cymwys.
6 
O ran swm y grant—
(a) rhaid iddo beidio â bod yn fwy na chost prynu neu gyflenwi'r feddalwedd a gymeradwywyd; a
(b) caiff fod yn swm llai o faint bynnag a bennir gan Weinidogion Cymru.
RHAN 3
7 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru o bryd i'w gilydd gyhoeddi gwahoddiad i wneud ceisiadau am grant.
(2) Rhaid i wahoddiad gynnwys—
(a) manylion meddalwedd a gymeradwywyd a chyflenwyr a gymeradwywyd;
(b) manylion yr amodau cymhwystra am grant;
(c) gofynion ffurf y cais a'r dull o'i wneud;
(ch) unrhyw ofynion ar gyfer darparu dogfennau, gwybodaeth ac ymgymeriadau i gefnogi'r cais; a
(d) y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais.
8 

(1) Rhaid i gais am grant gael ei wneud yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru yn unol â gofynion y gwahoddiad a wnaed o dan baragraff 7(1).
(2) Ac eithrio fel y darperir yn is-baragraff (3), rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi cael cais ar y dyddiad cau neu cyn hynny.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru dderbyn cais ar ôl y dyddiad cau os ydynt wedi'u bodloni—
(a) bod amodau penodol y ceisydd yn peri ei bod yn afresymol disgwyl i'r cais gael ei wneud erbyn y dyddiad cau; a
(b) bod y dyddiad erbyn pryd y gwneir y cais mor fuan ag y gellir yn rhesymol ei ddisgwyl.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru, cyn dyfarnu ar unrhyw gais, ei gwneud yn ofynnol i'r ceisydd ddarparu gwybodaeth ychwanegol.
9 

(1) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad cau, neu ar ôl cael unrhyw wybodaeth bellach y gofynnwyd amdani yn unol â pharagraff 8(4), rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) nodi a chymeradwyo, yn ddarostyngedig i'r fath amodau ag a ystyrir yn briodol ganddynt, y ceisiadau hynny a wnaed yn unol â gwahoddiad a wnaed o dan baragraff 7(1) sy'n bodloni darpariaethau'r Cynllun hwn; a
(b) gwrthod unrhyw geisiadau eraill.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru wrthod cais os ydynt o'r farn bod porthladd gweinyddu'r cwch pysgota wedi cael ei newid i borthladd yng Nghymru gyda'r prif bwrpas o sicrhau bod y cwch pysgota yn gwch pysgota Cymreig cymwys at ddibenion y Cynllun hwn.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo cais o dan is-baragraff (1)(a), rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd yn ysgrifenedig o'r gymeradwyaeth honno ac o unrhyw amodau y mae'n ddarostyngedig iddynt.
(4) Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais o dan is-baragraffau (1)(b) neu (2), neu'n cymeradwyo cais yn ddarostyngedig i unrhyw amod o dan is-baragraff (1)(a), rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd yn ysgrifenedig—
(a) o'r rhesymau dros y gwrthodiad hwnnw neu dros osod yr amod; a
(b) o'r hawl i wneud cais am adolygiad o dan baragraff 10.
10 

(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais o dan baragraffau 9(1)(b) neu 9(2), neu'n cymeradwyo cais yn ddarostyngedig i unrhyw amod o dan is-baragraff 9(1)(a), caiff y person a ymgeisiodd am y grant wneud cais i Weinidogion Cymru, yn unol â darpariaethau'r paragraff hwn, am adolygiad o'r dyfarniad hwnnw.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi cael cais am adolygiad o dan y paragraff hwn ar ddyddiad heb fod yn ddiweddarach na 6 mis o ddyddiad y dyfarniad perthnasol o dan baragraffau 9(1) neu 9(2).
(3) Rhaid i gais am adolygiad o dan y paragraff hwn fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo nodi—
(a) enw a chyfeiriad y person sy'n gwneud y cais am yr adolygiad, ac os nad y person hwnnw yw'r person a enwir yn y dyfarniad, enw a chyfeiriad y person a enwir yn y dyfarniad ac ar ba sail y mae'r person yn ceisio adolygiad;
(b) pa ddyfarniad o eiddo Gweinidogion Cymru sydd i'w adolygu a dyddiad y dyfarniad hwnnw;
(c) manylion y sail y ceisir yr adolygiad arno; ac
(ch) y newid a geisir i'r dyfarniad.
(4) Caniateir gwneud cais o dan y paragraff hwn drwy'r post neu drwy ffacs neu ddull arall o gyfathrebiad electronig y mae modd ei atgynhyrchu.
(5) Pan wneir cais o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu'r dyfarniad a nodir ynddo a dod i benderfyniad terfynol arno a hysbysu'n ysgrifenedig y person sy'n gwneud y cais am yr adolygiad o'r penderfyniad hwnnw a'r rhesymau drosto.
(6) Wrth adolygu dyfarniad caiff Gweinidogion Cymru—
(a) ystyried unrhyw ddogfen neu dystiolaeth arall a gyflwynwyd gan y ceisydd (p'un ai a oedd y ddogfen neu'r dystiolaeth honno ar gael ar yr adeg y gwnaed y dyfarniad ai peidio);
(b) gwahodd y ceisydd i ddarparu'r fath wybodaeth bellach sy'n berthnasol i'r adolygiad a ystyrir ganddynt ei fod yn briodol; ac
(c) rhoi cyfle i'r ceisydd roi tystiolaeth a gwneud sylwadau yn bersonol neu drwy gynrychiolydd.
RHAN 4
11 

(1) Os ymddengys i Weinidogion Cymru, ar unrhyw adeg wedi iddynt gymeradwyo cais o dan baragraff 9(1)(a)—
(a) bod unrhyw amod a osodwyd o dan y paragraff hwnnw wedi cael ei dorri neu bod diffyg cydymffurfiad ag ef; neu
(b) bod y ceisydd wedi cyflawni tramgwydd o dan adran 17 o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 neu y dichon ei fod wedi gwneud hynny,
cânt ddirymu'r gymeradwyaeth i'r cais hwnnw, neu ddal y grant yn ôl, neu ddal unrhyw ran ohono'n ôl, mewn perthynas â'r cais ac os gwnaed unrhyw daliad grant, cânt adennill oddi wrth y ceisydd ar hawliad, swm sy'n cyfateb i'r cyfan neu unrhyw ran o'r taliad a wnaed felly, heb ystyried a wnaed y taliad grant yn uniongyrchol i'r ceisydd neu i'r cyflenwr a gymeradwywyd ar ran y ceisydd yn rhinwedd paragraff 5(2)(a).
(2) Cyn dirymu cymeradwyaeth neu ddal yn ôl unrhyw grant neu wneud hawliad yn rhinwedd is-baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) roi eglurhad ysgrifenedig i'r ceisydd o'r rhesymau dros y cam y bwriedir ei gymryd;
(b) rhoi cyfle i'r ceisydd wneud sylwadau ysgrifenedig o fewn unrhyw amser y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried yn rhesymol; ac
(c) ystyried unrhyw sylwadau o'r fath.
12 

(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu adennill swm ar gais yn unol â pharagraff 11(1), cânt, yn ychwanegol, adennill llog ar y swm hwnnw ar gyfradd o 1% uwchben LIBOR wedi'i gyfrifo yn ddyddiol am y cyfnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod ar ôl hwnnw y talwyd y swm arno ac sy'n gorffen ar y diwrnod yr adenillir y swm arno.
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “LIBOR” (“LIBOR”), mewn cysylltiad ag unrhyw ddiwrnod, yw cyfradd sterling dri-misol Llundain a gynigir rhwng banciau sydd mewn grym ar y diwrnod hwnnw wedi'i dalgrynnu os oes angen at ddau bwynt degol.
(3) Mewn unrhyw achos ar gyfer adennill o dan y Cynllun hwn, bydd tystysgrif a ddyroddir gan Weinidogion Cymru yn datgan beth yw'r LIBOR sy'n gymwys ar gyfer unrhyw ddiwrnod yn dystiolaeth ddiwrthbrawf o'r LIBOR o dan sylw os yw'r dystysgrif hefyd yn datgan bod Banc Lloegr wedi hysbysu Gweinidogion Cymru o'r LIBOR o dan sylw.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
28 Medi 2010