
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Diwygio) 2010 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Diwygir Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2009 fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (3)(a) o erthygl 3 o flaen “10A” mewnosoder “6, 7, 9,”.
(3) Yn lle paragraff (4) o erthygl 3 rhodder—“
(4) Y diben y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yw bod awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru yn paratoi cynlluniau perfformio gwerth gorau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2009-2010 a bod Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cynnal arolygiadau ar y cynlluniau hynny, ac arolygiadau eraill, er mwyn penderfynu a yw awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru wedi cydymffurfio â gofynion Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 i'r graddau y mae'r gofynion hynny'n ymwneud â'r flwyddyn ariannol 2009-2010.”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
8 Medi 2010