
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2010.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2010.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Diwygir Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008 fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 11, cyn “Y swm o E”, mewnosoder “Ac eithrio pan fo erthygl 11A(2) yn gymwys,”.
(3) Ar ôl erthygl 11, ychwaneger—“
11A 

(1) Mae erthyglau blaenorol y Gorchymyn hwn yn ddarostyngedig i'r erthygl hon.
(2) Mae'r erthygl hon yn gymwys pan ddigwydd y dydd y codir y tâl arno ar ddyddiad yn y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Hydref 2010 ac sy'n gorffen ar 30 Medi 2011.
(3) Mae erthygl 7(ch) yn cael ei heffaith megis pe gosodid yn ei lle—“
(ch) bod gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £10,499 ond nid yn fwy na £11,000;”.
(4) Nid oes i erthygl 9 unrhyw effaith.
(5) Y swm o E a ragnodir at ddibenion is-adran 44(9) o'r Ddeddf, pan fo'r amodau gwerth ardrethol diwygiedig neu'r amodau mangre gofal plant diwygiedig wedi'u bodloni a phan fo gwerth ardrethol yr hereditament—
(a) heb fod yn fwy na £6,000, yw 5,000,000;
(b) yn fwy na £6,000 a heb fod yn fwy na £12,000, yw, yn ddarostyngedig i baragraff (7), y swm a geir wrth rannu 6000 gyda'r ffigwr y deuir ato drwy dynnu 6000 o werth ardrethol yr hereditament a ddangosir yn y rhestr ardrethu annomestig leol am y diwrnod hwnnw.
(6) Mae symiau a gyfrifir o dan baragraff (5)(b) i'w cyfrifo hyd at dri phwynt degol yn unig—
(a) gan ychwanegu'r filfed ran pan fyddai yna (ar wahân i'r is-baragraff hwn) fwy na phump o ddeg-milfedi; a
(b) gan anwybyddu'r deg-milfedi pan fyddai yna (ar wahân i'r is-baragraff hwn) bump, neu lai na phump o ddeg-milfedi.
(7) Yn yr erthygl hon—
(a) yr amodau gwerth ardrethol diwygiedig yw–
(i) nad yw gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £12,000;
(ii) nad yw'r hereditament yn hereditament a eithrir; a
(iii) bod yr hereditament yn cael ei feddiannu'n gyfan gwbl;
(b) yr amodau gofal plant diwygiedig yw—
(i) bod yr hereditament yn cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl at ddibenion gwarchod plant neu i ddarparu gofal dydd gan berson wedi ei gofrestru o dan Ran XA o Ddeddf Plant 1989;
(ii) nad yw'r hereditament yn hereditament a eithrir;
(iii) bod yr hereditament yn cael ei feddiannu'n gyfan gwbl;
(iv) nad yw gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £9,000; a
(v) bod y trethdalwr wedi rhoi hysbysiad i'r awdurdod bilio mewn cysylltiad â'r hereditament yn unol ag erthygl 10.”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
4 Medi 2010