
1 

(1) Enw'r Rheolau hyn yw Rheolau Pridiannau Tir Lleol (Diwygio) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 31 Awst 2010.
(2) Mae'r Rheolau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn Atodlen 3 (Ffioedd) i Reolau Pridiannau Tir Lleol 1977, hepgorir eitem 5 (chwiliad personol yn y gofrestr gyfan neu mewn rhan ohoni).
Jane E. Hutt
Y Gweinidog dros Fusnes a'r Gyllideb, un o Weinidogion Cymru
8 Awst 2010