
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Consesiynau Teithio (Gwasanaethau Cymwys) (Diwygio) 2010 a daw i rym ar 1 Ebrill 2010.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Diwygir Gorchymyn Consesiynau Teithio (Gwasanaethau Cymwys) 2002 yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn erthygl 3(1)(a)(i), yn lle “adran 509 o Ddeddf Addysg 1996” rhodder “adrannau 3, 4 a 6 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008”.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
2 Chwefror 2010