
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Cymru) (Diwygio) 2010 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2002 yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 3(1)(a)(i), yn lle “adran 509 o Ddeddf Addysg 1996” rhodder “adrannau 3, 4 a 6 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008”.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
2 Chwefror 2010