
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Gorseinion a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Abertawe (Diddymu) 2010 a daw i rym ar 20 Awst 2010.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992; ac
 ystyr “yr Hen Gorfforaethau” (“the Old Corporations”) yw Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Gorseinion (“Gorseinion College Further Education Corporation”) a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Abertawe (“Swansea College Further Education Corporation”).
3 
Ar 20 Awst 2010 diddymir pob un o'r Hen Gorfforaethau a throsglwyddir eu holl eiddo, eu hawliau a'u rhwymedigaethau yn unol ag adran 27(2) o'r Ddeddf i Gorfforaeth Addysg Bell ach Coleg Gŵyr Abertawe (“Gower College Swansea Further Education Corporation”), sy'n gorff corfforaethol a sefydlwyd at ddibenion sy'n cynnwys darparu cyfleusterau a gwasanaethau addysgol.
4 

(1) Mae unrhyw berson sy'n cael ei gyflogi gan y naill neu'r llall o'r Hen Gorfforaethau yn union cyn 20 Awst 2010 wedi ei ddynodi at ddibenion paragraff (2) yn unol ag adran 26(1)(b) a (5) o'r Ddeddf (“personau dynodedig”).
(2) Mae adran 26 o'r Ddeddf yn gymwys i'r personau dynodedig fel petai'r cyfeiriadau yn is-adrannau (2), (3) a (4)—
(a) at berson y mae'r adran honno yn gymwys iddo yn gyfeiriadau at berson dynodedig;
(b) at y dyddiad gweithredol yn gyfeiriadau at 20 Awst 2010;
(c) at y trosglwyddwr yn gyfeiriadau at yr Hen Gorfforaeth sy'n cyflogi'r person dynodedig yn union cyn 20 Awst 2010; ac
(ch) at y gorfforaeth yn gyfeiriadau at Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Gŵyr Abertawe (“Gower College Swansea Further Education Corporation”).
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
21 Gorffennaf 2010