
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru, a deuant i rym ar 9 Awst 2010.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006 yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2(1) ac yn yr Atodlen disodler cyfeiriadau at “y ddeddfwriaeth Gymunedol” gyda chyfeiriadau at “deddfwriaeth yr UE”.
(3) Yn rheoliad 2(2) yn lle'r cyfeiriad at “offeryn Cymunedol” rhodder cyfeiriad at “offeryn UE”.
(4) Yn yr Atodlen ar ôl paragraff (12) ychwaneger—“
13 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1857/2006 dyddiedig 15 Rhagfyr 2006 ar gymhwysiad Erthyglau 87 ac 88 o'r Cytuniad at gymorth Gwladwriaethol i fentrau bychain a chanolig eu maint sy'n weithgar yn cynhyrchu cynnyrch amaethyddol ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 70/2001.
14 
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 dyddiedig 19 Ionawr 2009 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr.
15 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1120/2009 dyddiedig 29 Hydref 2009 yn gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu cynllun y taliad sengl y darperir ar ei gyfer yn Nheitl III o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr.
16 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1121/2009 dyddiedig 29 Hydref 2009 yn gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 parthed y cynlluniau cymorth i ffermwyr y darperir ar eu cyfer yn Nheitlau IV a V o'r Rheoliad hwnnw.
17 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1122/2009 dyddiedig 30 Tachwedd 2009 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 parthed traws-gydymffurfio, modiwleiddio a'r system integredig gweinyddu a rheoli, o dan y cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr a ddarperir ar gyfer y Rheoliad hwnnw, yn ogystal ag ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 parthed traws-gydymffurfio o dan y cynllun cymorth a ddarperir ar gyfer y sector win.”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
13 Gorffennaf 2010