
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) 2010. Deuant i rym ar 17 Awst 2010 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006 fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff 4 o Atodlen 1, rhodder—“
4 

(1) Ni cheir dyroddi tystysgrif cnwd sy'n tyfu sy'n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd cyn-sylfaenol o unrhyw ddosbarth oni fydd y swyddog awdurdodedig wedi'i fodloni bod y tir y tyfir, neu y tyfwyd, y tatws hadyd arno yn dir—
(a) y canfuwyd, o ganlyniad i brawf pridd a wnaed gan Weinidogion Cymru cyn plannu'r cnwd, nad yw wedi ei halogi â'r Llyngyr Tatws (rhywogaeth Globodera sy'n heintio tatws);
(b) nad yw wedi ei ddynodi o dan Atodlen 15 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 fel tir wedi ei halogi â phoblogaeth Ewropeaidd o Lyngyr Tatws; ac
(c) nas defnyddiwyd ar gyfer tyfu tatws ar unrhyw adeg yn ystod y 7 mlynedd yn union cyn plannu'r cnwd.
(2) Ond nid yw is-baragraff (1)(a) yn gymwys yn achos tatws hadyd a dyfir mewn cyfrwng di-bridd.”.
(3) Yn lle paragraff 7 o Atodlen 1, rhodder—“
7 

(1) Ni cheir dyroddi tystysgrif cnwd sy'n tyfu sy'n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd sylfaenol o unrhyw ddosbarth, oni fydd y swyddog awdurdodedig wedi'i fodloni bod y tir y tyfir, neu y tyfwyd, y tatws hadyd arno yn dir—
(a) y canfuwyd, o ganlyniad i brawf pridd a wnaed gan Weinidogion Cymru cyn plannu'r cnwd, nad yw wedi ei halogi â'r Llyngyr Tatws (rhywogaeth Globodera sy'n heintio tatws);
(b) nad yw wedi ei ddynodi o dan Atodlen 15 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 fel tir wedi ei halogi â phoblogaeth Ewropeaidd o Lyngyr Tatws; ac
(c) nas defnyddiwyd ar gyfer tyfu tatws ar unrhyw adeg yn ystod y 5 mlynedd yn union cyn plannu'r cnwd.
(2) Ond nid yw is-baragraff (1)(a) yn gymwys yn achos tatws hadyd a dyfir mewn cyfrwng di-bridd.”.
(4) Yn lle paragraff 10 o Atodlen 1, rhodder—“
10 

(1) Ni cheir dyroddi tystysgrif cnwd sy'n tyfu sy'n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd ardystiedig oni fydd y swyddog awdurdodedig wedi'i fodloni bod y tir y tyfir, neu y tyfwyd, y tatws hadyd arno yn dir–
(a) y canfuwyd, o ganlyniad i brawf pridd a wnaed gan Weinidogion Cymru cyn plannu'r cnwd, nad yw wedi ei halogi â'r Llyngyr Tatws (rhywogaeth Globodera sy'n heintio tatws);
(b) nad yw wedi ei ddynodi o dan Atodlen 15 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 fel tir wedi ei halogi â phoblogaeth Ewropeaidd o Lyngyr Tatws; ac
(c) nas defnyddiwyd ar gyfer tyfu tatws ar unrhyw adeg yn ystod y 4 mlynedd yn union cyn plannu'r cnwd.
(2) Ond nid yw is-baragraff (1)(a) yn gymwys yn achos tatws hadyd a dyfir mewn cyfrwng di-bridd.”.
(5) Yn Atodlen 3, Rhan II—
(a) yng ngholofnau 3 a 4, yn lle'r symbol “–” gyferbyn ag “Y Clwy Tatws (Phytophthora infestans (Mont.) de Bary)”, rhodder y symbol “)”;
(b) yng ngholofn 3, yn lle “3.0%” mewn perthynas â Grwpiau III, IV a V yng ngholofn 1, rhodder “5.0%”; ac
(c) yng ngholofn 4, yn lle “4.0%” mewn perthynas â Grwpiau II, III, IV a V yng ngholofn 1, rhodder “5.0%”.
(6) Yn Atodlen 3, Rhan III—
(a) yng ngholofn 3, yn lle “4.0%” mewn perthynas â Grwpiau III a IV yng ngholofn 1, rhodder “5.0%”; a
(b) yng ngholofn 4, yn lle “4.0%” mewn perthynas â Grwpiau II, III, IV a V yng ngholofn 1, rhodder “5.0%”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
12 Gorffennaf 2010