
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Compartmentau Dofednod (Ffioedd) (Cymru) 2010. Mae'n gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 30 Gorffennaf 2010.
2 
Yn y Gorchymyn hwn:—
 ystyr “safle cynhyrchu” (“production site”) yw mangre lle mae dofednod yn cael eu cadw at ddibenion bridio, magu, pesgi neu gynhyrchu wyau ac sy'n destun cais o dan Orchymyn Compartmentau Dofednod (Cymru) 2010; ac
 ystyr “safle gweinyddol” (“administrative site”) yw mangre lle mae dogfennau neu gofnodion sy'n ymwneud â safle cynhyrchu yn cael eu cadw.
3 
Mae'r ffioedd ar gyfer arolygiadau yn rhinwedd Gorchymyn Compartmentau Dofednod (Cymru) 2010 a osodir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn daladwy i Weinidogion Cymru gan y ceisydd o fewn 30 o ddiwrnodau o'r arolygiad.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru.
8 Gorffennaf 2010
YR ATODLEN
Erthygl 2



Gweithgaredd Ffi
Y diwrnod cyntaf neu ran o ddiwrnod arolygiad ar safle gweinyddol £1,400 + TAW
Pob diwrnod ychwanegol neu ran o ddiwrnod ar safle gweinyddol £1,000 + TAW
Arolygiad safle cynhyrchu £1,000 + TAW
