
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Cyfnod Rhagnodedig a Swyddog Priodol) (Cymru) (Dirymu) 2010 a deuant i rym ar 25 Gorffennaf 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Dirymir Rheoliadau Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Cyfnod Rhagnodedig a Swyddog Priodol) (Cymru) 2010.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
30 Mehefin 2010