
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 30 Gorffennaf 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “cyfarwyddyd” (“direction”) yw cyfarwyddyd a wnaed, neu sy'n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud, o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002 ar y seiliau a bennir yn is-adran (4)(a), (b) neu (d) o'r adran honno;
 ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000;
 mae i “gorchymyn perthnasol” a “llys uwch” yr ystyron a roddir, yn eu trefn, i “relevant order” a “senior court” yn adran 30(1) o Ddeddf 2000:
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 1989;
 ystyr “swyddfa briodol” (“appropriate office”) yw—
(a) os oes swyddfa wedi ei phennu o dan baragraff (2) mewn perthynas ag unrhyw berson, y swyddfa honno;
(b) mewn unrhyw achos arall, unrhyw swyddfa Llywodraeth Cynulliad Cymru;
 ystyr “wedi ei anghymhwyso”/ “wedi eu hanghymhwyso” (“disqualified”) yw wedi ei anghymhwyso, neu wedi eu hanghymhwyso, rhag cofrestru o dan Ran 10A o'r Ddeddf ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru bennu swyddfa a reolir ganddynt hwy fel y swyddfa briodol mewn perthynas ag unrhyw berson cofrestredig neu geisydd i gofrestru o dan Ran 10A o'r Ddeddf.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae person wedi ei “gael wedi cyflawni” tramgwydd os yw'r person hwnnw—
(a) wedi ei gollfarnu am dramgwydd;
(b) wedi ei gael yn ddieuog o dramgwydd oherwydd gwallgofrwydd;
(c) wedi ei gael yn anabl a'i fod wedi cyflawni'r weithred y'i cyhuddwyd ohoni mewn perthynas â thramgwydd o'r fath; neu
(ch) ar neu ar ôl 6 Ebrill 2007, wedi cael rhybudd mewn perthynas â thramgwydd gan swyddog o'r heddlu.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, mae person wedi ei gael wedi cyflawni tramgwydd sy'n “berthynol i” dramgwydd os yw'r person hwnnw wedi ei gael wedi cyflawni tramgwydd o—
(a) ceisio cyflawni, cynllwynio i gyflawni, neu annog cyflawni'r tramgwydd hwnnw; neu
(b) cynorthwyo, cefnogi, cynghori neu beri cyflawni'r tramgwydd hwnnw.
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (9) a rheoliad 9, mae person (“P”) wedi ei anghymhwyso os yw unrhyw un o'r paragraffau (2) i (8) yn gymwys.
(2) Gwnaed unrhyw un o'r gorchmynion neu benderfyniadau eraill a bennir yn Atodlen 1—
(a) mewn perthynas â P;
(b) sy'n rhwystro P rhag cael ei gofrestru mewn perthynas ag unrhyw gyfleuster lle y gofelir am blant neu rhag cyfranogi mewn rheoli, neu rhag ymwneud rywfodd arall â darparu unrhyw gyfleuster o'r fath; neu
(c) mewn perthynas â phlentyn a fu yng ngofal P.
(3) Gwnaed gorchymyn mewn perthynas â P o dan adran 104 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003.
(4) Mae P wedi ei gael wedi cyflawni tramgwydd yn erbyn plentyn o fewn ystyr “offence against a child” yn adran 26(1) o Ddeddf 2000.
(5) Mae P—
(a) wedi ei gael wedi cyflawni unrhyw dramgwydd a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 neu dramgwydd sy'n berthynol i dramgwydd o'r fath; neu
(b) yn dod o fewn paragraff 2 o'r Atodlen honno,
er gwaethaf y ffaith bod y tramgwyddau statudol yn yr Atodlen honno wedi eu diddymu.
(6) Mae P wedi ei gael wedi cyflawni unrhyw dramgwydd ac eithrio tramgwydd y cyfeirir ato ym mharagraff (4) neu (5), a oedd yn ymwneud ag anaf corfforol i blentyn neu farwolaeth plentyn.
(7) Mae P wedi ei gael wedi cyflawni unrhyw dramgwydd a bennir yn Atodlen 3 neu dramgwydd sy'n berthynol i dramgwydd o'r fath.
(8) Mae P wedi—
(a) ei gael wedi cyflawni unrhyw dramgwydd, a gyflawnwyd yn erbyn person sy'n 18 mlwydd oed neu'n hŷn ac a grybwyllir ym mharagraff 2 o Atodlen 4 i Ddeddf 2000, neu dramgwydd sy'n berthynol i dramgwydd o'r fath; neu
(b) wedi ei gyhuddo o unrhyw dramgwydd, a gyflawnwyd yn erbyn person sy'n 18 mlwydd oed neu'n hŷn, a grybwyllir ym mharagraff 2 o Atodlen 4 i Ddeddf 2000, neu dramgwydd sy'n berthynol i dramgwydd o'r fath, ac y gosodwyd gorchymyn perthnasol mewn perthynas ag ef gan lys uwch.
(9) Ni fydd P wedi ei anghymhwyso dan baragraffau (1) i (8) mewn perthynas ag unrhyw orchymyn, penderfyniad neu gollfarn—
(a) os yw P wedi apelio'n llwyddiannus yn erbyn y gorchymyn, penderfyniad neu gollfarn;
(b) os yw rhybudd mewn perthynas â'r tramgwydd hwnnw wedi ei dynnu'n ôl neu ei roi o'r neilltu;
(c) os yw cyfarwyddyd a seiliwyd yn gyfan gwbl neu'n rhannol ar y tramgwydd wedi ei ddirymu; neu
(ch) os gwnaed gorchymyn o dan adran 12 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 yn rhyddhau P yn ddiamod neu'n amodol o'r tramgwydd hwnnw.
4 

(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 9, bydd person (“P”) wedi ei anghymhwyso os ceir bod P wedi cyflawni gweithred—
(a) a oedd yn dramgwydd o dan y gyfraith a oedd mewn grym mewn gwlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig; a
(b) a fyddai wedi bod yn dramgwydd a wnâi'n ofynnol anghymhwyso rhag cofrestru o dan y Rheoliadau hyn, pe bai'r weithred wedi ei chyflawni mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.
(2) Ym mharagraff (1) ceir bod P “wedi cyflawni gweithred a oedd yn dramgwydd” os, o dan y gyfraith a oedd mewn grym mewn gwlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig—
(a) collfarnwyd P am dramgwydd (pa un a gosbwyd P am y tramgwydd ai peidio);
(b) rhybuddiwyd P mewn perthynas â thramgwydd;
(c) gwnaeth llys, sy'n arfer awdurdodaeth o dan y gyfraith honno, mewn perthynas â thramgwydd, ganfyddiad sy'n gyfwerth â chanfod P yn ddieuog oherwydd gorffwylledd; neu
(ch) os gwnaeth llys o'r fath, mewn perthynas â thramgwydd, ganfyddiad sy'n gyfwerth â chanfod bod P yn anabl ac wedi cyflawni'r weithred y'i cyhuddwyd ohoni.
(3) Ni fydd person wedi ei anghymhwyso o dan baragraff (1) mewn perthynas ag unrhyw ganfyddiad os, o dan y gyfraith sydd mewn grym yn y wlad dan sylw, gwrthdrowyd y cyfryw ganfyddiad.
(4) Mae gweithred sy'n gosbadwy o dan y gyfraith sydd mewn grym mewn gwlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig yn gyfystyr â thramgwydd o dan y gyfraith honno at ddibenion y rheoliad hwn, sut bynnag y disgrifir y weithred yn y gyfraith honno.
5 
Mae person sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Diogelu Plant 1999 (rhestr o'r rhai a ystyrir gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn anaddas i weithio gyda phlant) wedi ei anghymhwyso.
6 

(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 9, mae person (“P”) wedi ei anghymhwyso os yw unrhyw un o ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn yn gymwys i P.
(2) Mae P yn destun cyfarwyddyd.
(3) Mae enw P ar unrhyw restr a gedwir at ddibenion rheoliadau a wnaed o dan erthygl 70(2)(e) neu 88A(1) a (2)(b) o Orchymyn Addysg a Llyfrgelloedd (Gogledd Iwerddon) 1986.
7 
Mae person a waharddwyd o weithgarwch a reoleiddir mewn perthynas â phlant o fewn yr ystyr a roddir i “regulated activity relating to children” yn adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 wedi ei anghymhwyso.
8 
Yn ddarostyngedig i reoliad 9, mae person sy'n byw—
(a) ar yr un aelwyd â pherson arall sydd wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru; neu
(b) ar aelwyd lle y cyflogir unrhyw berson arall o'r fath,wedi ei anghymhwyso.
9 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pe bai person (“P”) wedi ei anghymhwyso yn rhinwedd rheoliad 3, 4, 6(1) a 6(3) neu 8, ond wedi datgelu i Weinidogion Cymru y ffeithiau a fyddai wedi peri, fel arall, iddo gael ei anghymhwyso, a Gweinidogion Cymru wedi rhoi eu cydsyniad ysgrifenedig, a heb dynnu'r cydsyniad hwnnw yn ôl, yna rhaid peidio ag ystyried bod y person hwnnw, oherwydd y ffeithiau a ddatgelwyd felly, wedi ei anghymhwyso at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(2) Mewn perthynas â pherson a fyddai wedi ei anghymhwyso yn rhinwedd rheoliad 3(4), ni fydd y rheoliad hwn yn gymwys pan fo llys wedi gwneud gorchymyn o dan adran 28(4), 29(4) neu 29A(2) o Ddeddf 2000.
(3) Nid yw person wedi ei anghymhwyso os yw'r person hwnnw, cyn 1 Ebrill 2002—
(a) wedi datgelu'r ffeithiau, i awdurdod lleol priodol o dan baragraff 2 o Atodlen 9 i'r Ddeddf, a fyddai wedi anghymhwyso'r person o dan y Rheoliadau hyn; a
(b) wedi cael cydsyniad ysgrifenedig yr awdurdod lleol hwnnw.
10 
At ddibenion adran 79M(1)(c) o'r Ddeddf (apelau i'r Tribiwnlys), mae penderfyniad mewn perthynas ag anghymhwyso person rhag cofrestru i warchod plant neu ddarparu gofal dydd o dan Atodlen 9A o'r Ddeddf yn benderfyniad rhagnodedig.
11 

(1) Rhaid i berson sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 10A o'r Ddeddf (“person cofrestredig”) ddarparu'r wybodaeth ganlynol i Weinidogion Cymru—
(a) manylion unrhyw orchymyn, penderfyniad, collfarn neu sail arall dros anghymhwyso rhag cofrestru, a wnaed neu sy'n gymwys mewn perthynas â pherson a restrir ym mharagraff (2), sy'n peri bod y person hwnnw wedi ei anghymhwyso o dan y Rheoliadau hyn;
(b) y dyddiad pan wnaed y gorchymyn, penderfyniad neu gollfarn, neu pan ddigwyddodd unrhyw sail arall dros anghymhwyso;
(c) y corff neu'r llys a wnaeth y gorchymyn, penderfyniad neu gollfarn a'r ddedfryd a osodwyd os gosodwyd un;
(ch) mewn perthynas â gorchymyn neu gollfarn, copi o'r gorchymyn perthnasol neu orchymyn llys, wedi ei ardystio gan y corff neu'r llys a'i dyroddodd.
(2) Y personau y mae'n rhaid darparu'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) mewn perthynas â hwy yw—
(a) y person cofrestredig; a
(b) unrhyw berson sy'n byw ar yr un aelwyd â'r person cofrestredig, neu a gyflogir ar yr aelwyd honno.
(3) Rhaid darparu'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, ond beth bynnag o fewn 14 diwrnod ar ôl yr adeg y daeth y person cofrestredig yn ymwybodol o'r wybodaeth honno, neu y dylai yn rhesymol fod wedi bod yn ymwybodol ohoni pe bai'r person cofrestredig wedi gwneud ymholiadau rhesymol.
(4) Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.
(5) Mae person a geir yn euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn atebol, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
12 

(1) Diwygir Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004 fel a ganlyn.
(2) Hepgorer rheoliadau 5 i 8.
Huw Lewis
Y Dirprwy Weinidog dros Blant o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Ysgolion a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
28 Mehefin 2010
ATODLEN 1
Rheoliad 3(2)
1 
Gorchymyn o dan adran 31(1)(a) o'r Ddeddf (gorchymyn gofal).
2 
Gorchymyn o dan adran 31(1)(b) o'r Ddeddf (gorchymyn goruchwylio).
3 
Gorchymyn o dan erthygl 50(1)(a) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (gorchymyn gofal).
4 
Gorchymyn o dan adran 3(3) o Gyfraith Plant a Phobl Ifanc (Guernsey) 1967 (gorchymyn person cymwys neu orchymyn gofal arbennig).
5 
Gorchymyn a wneir yn dilyn cais fel a ganiateir o dan adran 48(3) o Gyfraith Plant (Guernsey ac Alderney) 2009 (gorchymyn rhianta cymunedol).
6 
Gorchymyn o dan adran 31(1)(a) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald).
7 
Gorchymyn neu benderfyniad a bennir yn Atodlen 4 i Gyfraith Plant (Jersey) 2002.
8 
Unrhyw orchymyn y byddid wedi ei ystyried yn orchymyn gofal yn rhinwedd paragraff 15 o Atodlen 14 i'r Ddeddf (darpariaethau trosiannol ar gyfer plant mewn gofal gorfodol) pe bai wedi bod mewn grym yn union cyn y diwrnod y daeth Rhan 4 o'r Ddeddf i rym.
9 
Gorchymyn goruchwylio sy'n gosod gofyniad preswylio o dan baragraff 5 o Atodlen 6 i Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 neu adran 12AA o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1969 (gofyniad i fyw mewn llety awdurdod lleol).
10 
Gorchymyn person cymwys, gorchymyn hawliau rhiant neu orchymyn ysgol hyfforddi o dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968.
11 
Gorchymyn amddiffyn plant o dan adran 57 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.
12 
Gorchymyn gwahardd o dan adran 76 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.
13 
Gorchymyn goruchwylio sy'n gosod gofyniad preswylio o dan baragraff 5 o Atodlen 9 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (gofyniad i fyw mewn llety a ddarperir gan yr Adran Iechyd a Nawdd Cymdeithasol).
14 
Gorchymyn, a wneir ar unrhyw adeg, sy'n gosod gofyniad goruchwylio mewn perthynas â phlentyn er mwyn symud y plentyn hwnnw o ofal P, o dan—
(a) adran 44 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968; neu
(b) adran 70 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.
15 
Gorchymyn, a wneir ar unrhyw adeg, sy'n breinio hawliau a phwerau P mewn perthynas â phlentyn mewn awdurdod lleol yn yr Alban—
(a) o dan adran 16 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968; neu
(b) yn unol â gorchymyn cyfrifoldebau rhiant o dan adran 86 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.
16 
Mewn perthynas â chofrestru cartref i blant—
(a) gwrthod cais gan P i gofrestru o dan adran 13 o Ddeddf Safonau Gofal 2000;
(b) diddymu cofrestriad P o dan adran 14 neu 20(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000;
(c) diddymu cofrestriad unrhyw berson o dan adran 14 neu 20(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 mewn perthynas â chartref plant y bu P yn ymwneud â'i reoli neu y bu gan P fuddiant ariannol ynddo; neu
(ch) gwrthod cais gan P i gofrestru neu ddiddymu cofrestriad P o dan Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 2003.
17 
Gwrthod, ar unrhyw adeg, cais gan P i gofrestru mewn perthynas â chartref gwirfoddol neu gartref plant, neu ddiddymu cofrestriad cartref gwirfoddol neu gartref plant a fu'n cael ei redeg gan P, neu y bu P rywfodd arall yn ymwneud â'i reoli, neu y bu gan P fuddiant ariannol ynddo, o dan, yn ôl fel y digwydd–
(a) paragraff 1 o Atodlen 5 i'r Ddeddf;
(b) paragraff 1 neu 4 o Atodlen 6 i'r Ddeddf;
(c) adran 127 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968;
(ch) erthygl 80, 82, 96 neu 98 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995;
(d) Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 (gwasanaethau cartrefi gofal); neu
(dd) paragraff 2 neu 4 o Atodlen 2 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald).
18 
Gwaharddiad a osodwyd ar unrhyw adeg o dan—
(a) adran 69 o Ddeddf 1989, adran 10 o Ddeddf Plant Maeth 1980 neu adran 4 o Ddeddf Plant 1958 (pŵer i wahardd maethu preifat);
(b) erthygl 110 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (pŵer i wahardd maethu preifat);
(c) adran 10 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (pŵer i wahardd cadw plant maeth); neu
(ch) adran 59 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (pŵer i wahardd neu osod cyfyngiadau ar faethu preifat).
19 
Hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan Fwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan adran 1(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (atal caniatâd i berson ymgymryd â gofalu am y plentyn a'i gynnal).
20 
Gwrthod, ar unrhyw adeg, cofrestriad mewn perthynas â darparu meithrinfeydd, gofal dydd, gwarchod plant neu ddarpariaeth gofal plant arall, anghymhwyso rhag cofrestru felly, neu ddiddymu unrhyw gofrestriad o'r fath o dan—
(a) adran 1 neu adran 5 o Ddeddf Rheoleiddio Meithrinfeydd a Gwarchodwyr Plant 1948;
(b) Rhan 10 neu Ran 10A o'r Ddeddf;
(c) Pennod 2, 3 neu 4 o Ran 3 o Ddeddf Gofal Plant 2006;
(ch) Rhan XI o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995;
(d) adran 11(5) neu adran 15 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968;
(dd) Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001;
(e) adran 1 o Ddeddf Rheoleiddio Meithrinfeydd a Gwarchodwyr Plant 1974 (Deddf Tynwald);
(f) adran 65 neu 66 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald), neu Atodlen 7 i'r Ddeddf honno; neu
(ff) Rhan III o Gyfraith Amddiffyn Plant (Guernsey) 1972.
21 
Anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant ar unrhyw adeg o dan Ddeddf Amddiffyn Plant (Yr Alban) 2003.
22 
Gwrthod, ar unrhyw adeg, cais gan P i gofrestru, neu ddiddymu cofrestriad P o dan adran 62 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 (cofrestru sefydliadau preswyl ac eraill).
23 
Gwrthod, ar unrhyw adeg, cais gan P i gofrestru fel darparwr asiantaeth gofal plant o dan adran 7 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 neu ddiddymu unrhyw gofrestriad o'r fath o dan adran 12 neu 18 o'r Ddeddf honno.
24 
Cynnwys enw P, ar unrhyw adeg, ar restr o bersonau anaddas i weithio gyda phlant o dan erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant ac Oedolion Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 2003, neu anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant o dan Bennod II o Ran II o'r Gorchymyn hwnnw.
ATODLEN 2
Rheoliad 3(5)
1 

(1) Tramgwydd o dan unrhyw un o'r adrannau canlynol o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1956—
(a) adran 1 (treisio);
(b) adran 2 neu 3 (caffael benyw drwy fygythiadau neu haeriadau anwir);
(c) adran 4 (gweini cyffuriau i gael neu hwyluso cyfathrach rywiol);
(ch) adran 5 (cyfathrach rywiol gyda geneth o dan 13);
(d) adran 6 (cyfathrach rywiol gyda geneth o dan 16);
(dd) adran 14 neu 15 (ymosod yn anweddus);
(e) adran 16 (ymosod gyda bwriad o gyflawni sodomiaeth);
(f) adran 17 (cipio benyw drwy rym neu er mwyn ei heiddo);
(ff) adran 19 neu 20 (cipio geneth o dan 18 neu 16);
(g) adran 24 (cadw benyw yn gaeth mewn puteindy neu fangre arall);
(ng) adran 25 neu 26 (caniatáu i eneth o dan 13, neu rhwng 13 ac 16, ddefnyddio mangre ar gyfer cyfathrach rywiol);
(h) adran 28 (peri neu annog puteinio geneth o dan 16 oed, neu gyfathrach rywiol gyda hi, neu ymosod yn anweddus arni).
(2) Tramgwydd o dan adran 1 o Ddeddf Anwedduster gyda Phlant 1960 (ymddygiad anweddus tuag at blentyn ifanc).
(3) Tramgwydd o dan adran 54 o Ddeddf Cyfraith Droseddol 1977 (annog geneth o dan 16 i gyflawni llosgach).
(4) Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (camfanteisio ar ymddiriedaeth).
(5) Tramgwydd o dan adran 70 o Ddeddf 1989, adran 16 o Ddeddf Plant Maeth 1980 neu adran 14 o Ddeddf Plant 1958 (tramgwyddau mewn perthynas â maethu preifat).
(6) Tramgwydd o dan adran 63(10) o Ddeddf 1989, paragraff 1(5) o Atodlen 5, neu baragraff 2(3) o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno (tramgwyddau mewn perthynas â chartrefi gwirfoddol a chartrefi plant).
2 
Mae P yn dod o fewn y paragraff hwn os ceir bod P wedi cyflawni tramgwydd o dan unrhyw un o'r darpariaethau canlynol, yn erbyn plentyn neu'n ymwneud â phlentyn—
(a) adran 7 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1956 (cyfathrach rywiol â pherson diffygiol);
(b) adran 9 o'r Ddeddf honno (caffael person diffygiol);
(c) adran 10 o'r Ddeddf honno (llosgach gan ddyn);
(ch) adran 11 o'r Ddeddf honno (llosgach gan fenyw);
(d) adran 12 o'r Ddeddf honno (sodomiaeth) ac eithrio pan oedd y parti arall yn y weithred o sodomiaeth yn 16 oed neu'n hŷn ac wedi cydsynio i'r weithred;
(dd) adran 13 o'r Ddeddf honno (anwedduster rhwng dynion) ac eithrio pan oedd y parti arall yn y weithred o anwedduster garw yn 16 oed neu'n hŷn ac wedi cydsynio i'r weithred;
(e) adran 21 o'r Ddeddf honno (cipio person diffygiol oddi ar riant neu warcheidwad);
(f) adran 22 o'r Ddeddf honno (peri puteinio benywod);
(ff) adran 23 o'r Ddeddf honno (caffael geneth o dan 21);
(g) adran 27 o'r Ddeddf honno (caniatáu i berson diffygiol ddefnyddio mangre ar gyfer cyfathrach rywiol);
(ng) adran 29 o'r Ddeddf honno (peri neu annog puteinio person diffygiol);
(h) adran 30 o'r Ddeddf honno (dyn yn byw ar enillion puteindra);
(i) adran 31 o'r Ddeddf honno (benyw yn arfer rheolaeth ar butain);
(j) adran 128 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1959 (cyfathrach rywiol â chleifion);
(l) adran 4 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1967 (caffael eraill i gyflawni gweithredoedd cyfunrywiol);
(ll) adran 5 o'r Ddeddf honno (byw ar enillion puteindra gwryw);
(m) adran 9(1)(a) o Ddeddf Lladrata 1968 (bwrgleriaeth); neu
(n) tramgwydd sy'n berthynol i dramgwydd a bennir yn is-baragraffau (a) i (m).
ATODLEN 3
Rheoliad 3(7)
1 

(1) Tramgwydd o dan adran 49 neu 50(9) o'r Ddeddf (tramgwyddau mewn perthynas â chipio plentyn mewn gofal).
(2) Tramgwydd o dan adran 79C, 79D, 79E neu 79F o'r Ddeddf (tramgwyddau mewn perthynas â gwarchod plant neu ofal dydd).
(3) Tramgwydd o dan unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Deddf Tramgwyddau Rhywiol 2003—
(a) adran 62 neu 63 (cyflawni tramgwydd neu dresmasu gyda bwriad o gyflawni tramgwydd rhywiol);
(b) adran 64 neu 65 (rhyw gyda pherthynas sy'n oedolyn);
(c) adran 69 (cyfathrach rywiol ag anifail); neu
(ch) adran 70 (treiddio'n rhywiol i gorff marw).
(4) Tramgwydd mewn perthynas â chartref plant, o dan neu yn rhinwedd unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Deddf Safonau Gofal 2000—
(a) adran 11(1) (methu â chofrestru);
(b) adran 24 (methu â chydymffurfio ag amodau);
(c) adran 25 (mynd yn groes i reoliadau);
(ch) adran 26 (disgrifiadau ffug o sefydliadau ac asiantaethau); neu
(d) adran 27 (datganiadau ffug mewn ceisiadau).
2 

(1) Tramgwydd o dreisio.
(2) Tramgwydd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995.
(3) Y tramgwydd cyfraith gyffredin plagiwm (lladrata plentyn sydd o dan oed aeddfedrwydd).
(4) Tramgwydd o dan adran 52 neu 52A o Ddeddf Llywodraeth Ddinesig (Yr Alban) 1982 (tramgwyddau mewn perthynas â ffotograffau anweddus o blant).
(5) Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (camfanteisio ar ymddiriedaeth).
(6) Tramgwydd o dan unrhyw un o'r canlynol—
(a) adran 81, 83 neu 89 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995 neu adran 17(8) neu 71 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 (tramgwyddau llochesu);
(b) adran 6 o Ddeddf Cipio Plant 1984 (cymryd neu anfon plentyn allan o'r Deyrnas Unedig); neu
(c) adran 15 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (tramgwyddau mewn perthynas â maethu preifat).
(7) Tramgwydd o dan neu yn rhinwedd adran 60(3), 61(3) neu 62(6) o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 (tramgwyddau mewn perthynas â sefydliadau preswyl ac eraill).
(8) Tramgwydd mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, gwarchod plant neu ofal dydd i blant o dan neu yn rhinwedd unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Deddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001—
(a) adran 21 (tramgwyddau mewn perthynas â chofrestru);
(b) adran 22 (datganiadau ffug mewn ceisiadau); neu
(c) adran 29(10) (tramgwyddau o dan reoliadau).
3 

(1) Tramgwydd o dreisio.
(2) Tramgwydd o dan adran 66, 69 neu 70 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003.
(3) Tramgwydd o dan erthygl 70, 73 neu 74 o Orchymyn Tramgwyddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 2008.
(4) Tramgwydd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968.
(5) Tramgwydd o dan erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1978 (ffotograffau anweddus).
(6) Tramgwydd yn groes i erthygl 9 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Gogledd Iwerddon) 1980 (annog geneth o dan 16 i gael cyfathrach rywiol losgachol).
(7) Tramgwydd yn groes i erthygl 15 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Tystiolaeth etc) (Gogledd Iwerddon) 1988 (meddu ar ffotograffau anweddus o blant).
(8) Tramgwydd o dan adrannau 16 i 19 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003 (camfanteisio ar safle o ymddiriedaeth).
(9) Tramgwydd o dan Ran 3 o Orchymyn Tramgwyddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 2008 (tramgwyddau rhywiol yn erbyn plant).
(10) Tramgwydd o dan unrhyw un o'r canlynol—
(a) erthygl 68 neu 69(9) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (tramgwyddau mewn perthynas â chipio plentyn mewn gofal);
(b) erthygl 132 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995, neu adran 14 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (tramgwyddau mewn perthynas â gwarchod plant a gofal dydd);
(c) erthygl 117 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995, neu adran 9(1) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (tramgwyddau mewn perthynas â maethu preifat); neu
(ch) erthygl 79(3), 81(4), 95(3) neu 97(4) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995, neu adran 127(5) neu 129(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (tramgwyddau mewn perthynas â chartrefi gwirfoddol a chartrefi plant).
4 
Tramgwydd yn groes i—
(a) Rhan 7 o Gyfraith Plant (Jersey) 1969;
(b) Atodlen 4 i Gyfraith Plant (Jersey) 2002; neu
(c) Cyfraith Gofal Dydd i Blant (Jersey) 2002.
5 
Tramgwydd yn groes i—
(a) y “Loi pour la Punition d'Inceste” (Cyfraith ar gyfer Cosbi Llosgach) 1909;
(b) y “Loi relative à la protection des Femmes et des Filles Mineures” (Cyfraith ar gyfer Amddiffyn Benywod a Genethod Ifanc) 1914;
(c) y “Loi relative à la Sodomie” (Cyfraith mewn perthynas â Sodomiaeth) 1929;
(ch) erthygl 7, 9, 10, 11 neu 12, adran 1 o erthygl 41 neu adran 1, 2, 3 neu 4 o erthygl 51 o'r “Loi ayant rapport à la Protection des Enfants et des Jeunes Personnes” (Cyfraith mewn perthynas ag Amddiffyn Plant a Phobl Ifanc) 1917;
(d) Cyfraith Plant a Phobl Ifanc (Guernsey) 1967;
(dd) Cyfraith Amddiffyn Plant (Beilïaeth Guernsey) 1985.
6 
Tramgwydd a bennir yn Atodlen 8 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald).
7 

(1) Tramgwydd yn groes i adran 170 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979 mewn perthynas â nwyddau y gwaherddir eu mewnforio o dan adran 42 o Ddeddf Cydgrynhoi Tollau 1876 (gwaharddiadau a chyfyngiadau) pan fo'r nwyddau gwaharddedig yn cynnwys ffotograffau anweddus o blentyn.
(2) Tramgwydd yn rhinwedd—
(a) adran 72 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003 (tramgwyddau y tu allan i'r Deyrnas Unedig); neu
(b) adran 16B o Ddeddf Cyfraith Droseddol (Cydgrynhoi) (Yr Alban) 1995 (cyflawni tramgwyddau rhywiol penodol y tu allan i'r Deyrnas Unedig).
(3) Tramgwydd yn groes i adran 32(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1969 (caethiwo absenolwyr).