
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2010.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “Mesur 2010” (“the 2010 Measure”) yw Mesur Pant a Theuluoedd (Cymru) 2010.
2 

(1) Mae paragraff (2) o'r erthygl hon yn gymwys o ran yr ardaloedd awdurdod lleol a bennir yn erthygl 3.
(2) Daw'r darpariaethau hynny yn Rhan 3 o Fesur 2010 a nodir yn yr Atodlen i rym ar 1 Medi 2010.
3 
Ardaloedd yr awdurdodau lleol a bennir at ddibenion erthygl 2 yw —
(a) Merthyr Tudful;
(b) Casnewydd;
(c) Rhondda Cynon Taf; ac
(ch) Wrecsam.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Mehefin 2010
YR ATODLEN 1
Darpariaethau Rhan 3
1 
Adran 57 (sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd)
2 
Adran 58 ac eithrio is-baragraffau (b), (c) a (d) o is-adran (6) (swyddogaethau timau integredig cymorth i deuluoedd)
3 
Adran 59 (adnoddau ar gyfer timau integredig cymorth i deuluoedd)
4 
Adran 60 (cyfansoddiad timau integredig cymorth i deuluoedd)
5 
Adran 61 (sefydlu byrddau integredig cymorth i deuluoedd)
6 
Adran 62 (swyddogaethau byrddau integredig cymorth i deuluoedd)
7 
Adran 63 (rheoliadau ynghylch timau a byrddau integredig cymorth i deuluoedd)
8 
Adran 64 (adroddiadau blynyddol ar dimau integredig cymorth i deuluoedd)
9 
Adran 65 (canllawiau ynghylch timau integredig cymorth i deuluoedd).