
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Pwerau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 26 Gorffennaf 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni mewn perthynas â phlentyn (C)—
(a) bod C, neu y gall fod C, wedi ei heintio neu wedi ei halogi;
(b) bod yr heintiad neu'r halogiad yn un sy'n cyflwyno neu a allai gyflwyno niwed o bwys i iechyd dynol;
(c) bod risg y gallai C heintio neu halogi eraill;
(ch) ei bod yn angenrheidiol cadw C i ffwrdd o'r ysgol er mwyn dileu neu leihau'r risg honno; a
(d) bod cadw C i ffwrdd o'r ysgol yn ymateb cymesur i'r risg y mae C yn ei chyflwyno i eraill.
(2) Caiff yr awdurdod lleol, drwy gyflwyno hysbysiad i riant C (PT), ei gwneud yn ofynnol i PT gadw C i ffwrdd o'r ysgol.
(3) Rhaid i'r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth ganlynol—
(a) o ba ddyddiad y mae'r gofyniad yn dechrau;
(b) hyd y gofyniad (hyd at uchafswm o 28 o ddiwrnodau);
(c) pam y credir bod y gofyniad yn fesur angenrheidiol a chymesur;
(ch) y gosb am fethu â chydymffurfio â'r hysbysiad; a
(d) y manylion cyswllt am swyddog awdurdod lleol sy'n gallu trafod yr hysbysiad.
(4) Rhaid i'r awdurdod lleol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cyflwyno hysbysiad o dan baragraff (2), hysbysu pennaeth ysgol C—
(a) ei fod wedi cyflwyno hysbysiad o'r fath mewn perthynas ag C; a
(b) o gynnwys yr hysbysiad hwnnw.
(5) Caiff PT ofyn i'r awdurdod lleol adolygu'r hysbysiad ar unrhyw bryd cyn i'r gofyniad fynd yn ddi-rym.
(6) O ran yr awdurdod lleol—
(a) rhaid iddo adolygu'r hysbysiad o fewn 5 niwrnod gwaith gan ddechrau ar y diwrnod y gwnaed y cais pan fo PT yn gofyn am adolygiad ynglŷn â'r hysbysiad hwnnw am y tro cyntaf; neu
(b) caiff adolygu'r hysbysiad yn achos pob cais arall.
(7) Rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu PT a phennaeth ysgol C o ganlyniad unrhyw adolygiad y mae'n ei gynnal cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r adolygiad gael ei gwblhau.
(8) Caiff awdurdod lleol amrywio neu ddirymu hysbysiad.
(9) Rhaid i awdurdod lleol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl amrywio neu ddirymu hysbysiad o dan baragraff (8) hysbysu PT a phennaeth ysgol C o'r ffaith bod yr hysbysiad wedi ei amrywio neu ei ddirymu ac, os yw wedi ei amrywio, o natur yr amrywiad.
(10) Caiff awdurdod lleol gyflwyno hysbysiadau olynol o dan baragraff (2).
(11) Rhaid i awdurdod lleol hysbysu PT a phennaeth ysgol C cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol pan fo hysbysiad wedi dirwyn i ben ac nad oes unrhyw hysbysiad pellach i'w gyflwyno.
(12) Mae'n dramgwydd i PT fethu, a hynny heb esgus rhesymol, â chydymffurfio â hysbysiad sydd wedi ei ddyroddi o dan baragraff (2) neu wedi ei gyflwyno o dan baragraff (8).
(13) Mae unrhyw berson sy'n cyflawni tramgwydd o dan y rheoliad hwn yn atebol, o'i gollfarnu'r ddiannod, i un neu'r ddau o'r canlynol—
(a) dirwy heb fod yn fwy na lefel 2 ar y raddfa safonol;
(b) dirwy bellach nad yw'n fwy na swm sy'n hafal i 50% o lefel 1 ar y raddfa safonol am bob diwrnod y mae'r diffyg yn parhau ar ôl y gollfarn.
(14) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn ŵyl banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971;
 ystyr “pennaeth” (“headteacher”) yw'r pennaeth neu, os yw'r pennaeth yn absennol, y person sy'n dirprwyo yn ei le;
 ystyr “plentyn” (“child”) yw person sydd o dan 18 mlwydd oed;
 mae i “rhiant” yr ystyr a roddir i (“parent”) gan adran 576 o Ddeddf Addysg 1996; ac
 mae i “ysgol” yr ystyr a roddir i (“school”) gan adran 4 o Ddeddf Addysg 1996.
3 

(1) Caiff awdurdod lleol, drwy gyflwyno hysbysiad i bennaeth ysgol yn ardal yr awdurdod, ei gwneud yn ofynnol i'r pennaeth hwnnw roi iddo restr o'r enwau, cyfeiriadau a rhifau ffôn cyswllt ar gyfer holl ddisgyblion yr ysgol honno, neu unrhyw grŵp o ddisgyblion sy'n mynychu'r ysgol honno y bydd yn ei bennu, pan fo'r amod ym mharagraff (2) wedi ei fodloni.
(2) Yr amod yw bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(a) bod person (P) sydd, neu sydd wedi bod yn ddiweddar, ar fangre'r ysgol wedi ei heintio neu wedi ei halogi neu y gallai fod wedi ei heintio neu wedi ei halogi;
(b) bod yr heintiad neu'r halogiad yn un sy'n cyflwyno neu a allai gyflwyno niwed o bwys i iechyd dynol;
(c) bod risg y gallai P fod wedi heintio neu wedi halogi disgyblion yn yr ysgol;
(ch) ei bod yn angenrheidiol i'r awdurdod lleol gael y rhestr er mwyn cysylltu â'r disgyblion hynny gyda golwg ar ganfod a ydynt, neu a allent fod, wedi eu heintio neu wedi eu halogi; a
(d) bod ei gwneud yn ofynnol i gael y rhestr (a chysylltu â'r disgyblion hynny a allai fod wedi eu heintio neu wedi eu halogi) yn ymateb cymesur i'r risg sy'n cael ei chyflwyno gan P.
(3) Rhaid i'r hysbysiad—
(a) pennu terfyn amser ar gyfer bodloni'r gofyniad;
(b) pennu cyfeiriad y mae'r rhestr i'w hanfon iddo; ac
(c) darparu manylion cyswllt ar gyfer swyddog awdurdod lleol sy'n gallu trafod yr hysbysiad.
(4) Mae'n dramgwydd i bennaeth fethu, a hynny heb esgus rhesymol, â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff (1).
(5) Mae unrhyw berson sy'n cyflawni tramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol.
(6) Yn y rheoliad hwn, mae i “pennaeth” ac “ysgol” yr un ystyr â'r un a roddwyd iddynt yn rheoliad 2.
4 

(1) Caiff awdurdod lleol ddiheintio neu ddadhalogi peth, neu beri iddo gael ei ddiheintio neu ei ddadhalogi pan ofynnir iddo wneud hynny gan berchennog y peth.
(2) Caiff yr awdurdod lleol godi tâl ar y perchennog am ddiheintio neu ddadhalogi'r peth os rhoddir gwybod i'r perchennog am y tâl cyn i'r diheintio neu'r dadhalogi gael ei wneud a bod y perchennog yn cytuno i'w dalu.
(3) Rhaid i'r tâl a godir gan yr awdurdod lleol beidio â bod yn fwy na'r gost a dynnir gan yr awdurdod lleol wrth wneud y diheintio neu'r dadhalogi.
5 

(1) Caiff awdurdod lleol ddiheintio neu ddadhalogi peth, neu beri iddo gael ei ddiheintio neu ei ddadhalogi, pan ofynnir iddo wneud hynny gan berson (A) y mae'r peth dan ei gadwad neu ei reolaeth os yw'r awdurdod lleol yn rhesymol fodlon na chaiff gwerth ariannol y peth ei leihau o ganlyniad i ddiheintio neu ddadhalogi.
(2) Caiff yr awdurdod lleol godi tâl ar A am ddiheintio neu ddadhalogi'r peth os rhoddir gwybod i A am y tâl cyn i'r diheintio neu'r dadhalogi gael ei wneud a bod yntau'n cytuno i'w dalu.
(3) Rhaid i'r tâl a godir gan yr awdurdod lleol beidio â bod yn fwy na'r gost a dynnir gan yr awdurdod lleol wrth wneud y diheintio neu'r dadhalogi.
6 

(1) Caiff awdurdod lleol ddiheintio neu ddadhalogi mangre, neu beri iddi gael ei diheintio neu ei dadhalogi pan ofynnir iddo wneud hynny gan berchennog y fangre.
(2) Caiff yr awdurdod lleol godi tâl ar y perchennog am ddiheintio neu ddadhalogi'r fangre os rhoddir gwybod i'r perchennog am y tâl cyn i'r diheintio neu'r dadhalogi gael ei wneud a bod yntau'n cytuno i'w dalu.
(3) Rhaid i'r tâl a godir gan yr awdurdod lleol beidio â bod yn fwy na'r gost a dynnir gan yr awdurdod lleol wrth wneud y diheintio neu'r dadhalogi.
7 

(1) Caiff awdurdod lleol ddiheintio neu ddadhalogi mangre, neu beri iddi gael ei diheintio neu ei dadhalogi, pan ofynnir iddo wneud hynny gan denant y fangre os yw'r awdurdod lleol yn rhesymol fodlon na chaiff gwerth ariannol y fangre ei leihau o ganlyniad i'r diheintio neu'r dadhalogi.
(2) Caiff yr awdurdod lleol godi tâl ar y tenant am ddiheintio neu ddadhalogi'r fangre os rhoddir gwybod i'r tenant am y tâl cyn i'r diheintio neu'r dadhalogi gael ei wneud a bod yntau'n cytuno i'w dalu.
(3) Rhaid i'r tâl a godir gan yr awdurdod lleol beidio â bod yn fwy na'r gost a dynnir gan yr awdurdod lleol wrth wneud y diheintio neu'r dadhalogi.
8 

(1) Caiff awdurdod lleol drwy gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson neu grŵp o bersonau ofyn i'r person neu'r grŵp o bersonau wneud, neu ymatal rhag gwneud, unrhyw beth at ddibenion atal heintiad neu halogiad, sy'n cyflwyno neu a allai gyflwyno niwed o bwys i iechyd dynol, rhag brigo neu ymledu, neu at ddibenion diogelu rhag brigiad neu ymlediad heintiad neu halogiad o'r fath, ei reoli neu ddarparu ymateb iechyd cyhoeddus iddo.
(2) Rhaid i'r hysbysiad ddarparu manylion cyswllt ar gyfer swyddog awdurdod lleol sy'n gallu trafod yr hysbysiad.
(3) Caiff yr awdurdod lleol gynnig iawndal neu dreuliau mewn cysylltiad â'i gais.
9 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(a) bod corff marw wedi ei heintio neu wedi ei halogi neu y gall fod wedi ei heintio neu wedi ei halogi;
(b) bod yr heintiad neu'r halogiad yn un sy'n cyflwyno neu a allai gyflwyno niwed o bwys i iechyd dynol;
(c) bod risg y gallai'r corff marw heintio neu halogi pobl;
(ch) ei bod yn angenrheidiol cyfyngu ar ddod i gysylltiad â'r corff marw er mwyn dileu neu leihau'r risg honno; a
(d) bod gwahardd unrhyw berson rhag dod i gysylltiad â'r corff marw yn ymateb cymesur i'r risg sy'n cael ei chyflwyno gan y corff marw hwnnw.
(2) Caiff yr awdurdod lleol gyflwyno i'r person (M), sydd â gofal neu reolaeth dros y fangre lle y mae'r corff marw, hysbysiad sy'n gwahardd unrhyw berson rhag dod i gysylltiad â'r corff marw.
(3) Ar ôl cael hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff (2), rhaid i M drefnu bod copi o'r hysbysiad yn cael ei arddangos yn amlwg wrth ymyl y corff marw yn ddi–oed.
(4) Rhaid i'r hysbysiad gynnwys—
(a) datganiad i'r perwyl bod dod i gysylltiad â'r corff y mae'r hysbysiad wedi ei arddangos wrth ei ymyl wedi ei wahardd;
(b) datganiad i'r perwyl bod toriad ar y gwaharddiad yn dramgwydd troseddol;
(c) manylion cyswllt ar gyfer swyddog awdurdod lleol sy'n gallu trafod yr hysbysiad; ac
(ch) yr awdurdod cyfreithiol dros y gwaharddiad.
(5) Bydd tramgwydd wedi ei gyflawni os bydd unrhyw un o'r canlynol yn digwydd heb esgus rhesymol—
(a) bod M yn methu â threfnu i gopi o'r hysbysiad gael ei arddangos yn unol â pharagraff (3);
(b) bod unrhyw berson yn symud ymaith neu'n difwyno hysbysiad sy'n cael ei arddangos o dan baragraff (3); neu
(c) bod unrhyw berson yn methu â chydymffurfio â hysbysiad sy'n cael ei arddangos o dan baragraff (3).
(6) Ni fydd tramgwydd wedi ei gyflawni o dan baragraff (5)(c)—
(a) os oes gan y person gydsyniad yr awdurdod lleol i gael dod i gysylltiad â'r corff marw; neu
(b) os yw'r person yn arfer swyddogaethau crwner neu'n gweithredu o dan awdurdod crwner.
(7) Mae unrhyw berson sy'n cyflawni tramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
10 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(a) bod corff marw wedi ei heintio neu wedi ei halogi neu y gall fod wedi ei heintio neu wedi ei halogi;
(b) bod yr heintiad neu'r halogiad yn un sy'n cyflwyno neu a allai gyflwyno niwed o bwys i iechyd dynol;
(c) bod risg y gallai'r corff marw heintio neu halogi pobl;
(ch) ei bod yn angenrheidiol cyfyngu mynediad i'r ystafell lle y mae'r corff marw er mwyn dileu neu leihau'r risg honno; a
(d) bod gwahardd unrhyw berson rhag mynd i mewn i'r ystafell lle y mae'r corff marw yn ymateb cymesur i'r risg y mae'r corff marw hwnnw'n ei chyflwyno.
(2) Caiff yr awdurdod lleol gyflwyno i'r person (M) sydd â gofal neu reolaeth dros y fangre lle y mae'r corff marw hysbysiad sy'n gwahardd unrhyw berson rhag mynd i mewn i'r ystafell lle y mae'r corff marw.
(3) Ar ôl cael hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff (2), rhaid i M drefnu bod copi o'r hysbysiad yn cael ei arddangos ym mhob un o'r mynedfeydd i'r ystafell yn ddi-oed.
(4) Rhaid i'r hysbysiad gynnwys—
(a) datganiad i'r perwyl bod mynd i mewn i'r ystafell lle y mae'r corff marw wedi ei wahardd;
(b) datganiad i'r perwyl bod toriad ar y gwaharddiad yn dramgwydd troseddol;
(c) manylion cyswllt ar gyfer swyddog awdurdod lleol sy'n gallu trafod yr hysbysiad; ac
(d) yr awdurdod cyfreithiol dros y gwaharddiad.
(5) Bydd tramgwydd wedi ei gyflawni os bydd unrhyw un o'r canlynol yn digwydd heb esgus rhesymol—
(a) bod M yn methu â threfnu bod copi o'r hysbysiad yn cael ei arddangos ym mhob un o'r mynedfeydd i'r ystafell yn unol â pharagraff (3);
(b) bod unrhyw berson yn symud ymaith neu'n difwyno hysbysiad sy'n cael ei arddangos o dan baragraff (3); neu
(c) bod unrhyw berson yn methu â chydymffurfio â hysbysiad sy'n cael ei arddangos o dan baragraff (3).
(6) Ni fydd tramgwydd wedi ei gyflawni o dan baragraff (5)(c)—
(a) os oes gan y person gydsyniad yr awdurdod lleol i fynd i mewn i'r ystafell lle y mae'r corff marw; neu
(b) os yw'r person yn arfer swyddogaethau crwner neu'n gweithredu o dan awdurdod crwner.
(7) Mae unrhyw berson sy'n cyflawni tramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
11 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(a) bod corff marw wedi ei heintio neu wedi ei halogi neu y gall fod wedi ei heintio neu wedi ei halogi;
(b) bod yr heintiad neu'r halogiad yn un sy'n cyflwyno neu a allai gyflwyno niwed o bwys i iechyd dynol;
(c) bod risg y gallai'r corff marw heintio neu halogi pobl;
(ch) ei bod yn angenrheidiol symud y corff i fan arall er mwyn dileu neu leihau'r risg honno;
(d) bod symud y corff i fan arall yn ymateb cymesur i'r risg i bobl y mae'r corff marw yn ei chyflwyno yn ei leoliad presennol.
(2) Caiff yr awdurdod lleol symud y corff marw, neu beri iddo gael ei symud, i fan lle y mae'n credu y câi'r risg y byddai'r corff marw yn heintio neu'n halogi pobl ei leihau neu ei ddileu yn ddarostyngedig i baragraff (3).
(3) Ni chaiff yr awdurdod lleol symud y corff marw, na pheri iddo gael ei symud, i fan arall—
(a) os oes gan grwner awdurdodaeth dros y corff marw; neu
(b)  os yw wedi methu â chymryd camau rhesymol i hysbysu'r person sydd â gofal neu reolaeth dros y fangre lle y mae'r corff marw o'i fwriad i gymryd camau o dan baragraff (2).
(4) Rhaid i unrhyw berson sydd â gofal neu reolaeth dros y fangre lle y mae corff marw gydweithredu ag awdurdod lleol sy'n bwriadu cymryd camau o dan baragraff (2).
(5) Mae'n dramgwydd i unrhyw berson fethu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â pharagraff (4).
(6) Mae unrhyw berson sy'n cyflawni tramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
8 Mehefin 2010