
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llaeth Yfed (Cymru) 2010. Maent yn dod i rym ar 18 Mehefin 2010 ac yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “yr Atodiad” (“the Annex”) yw Atodiad XIII i Reoliad y Cyngor;
 ystyr “awdurdod bwyd” (“food authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;
 ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
 ystyr “Erthygl 114(2)” (“Article 114(2)”) yw Erthygl 114(2) o Reoliad y Cyngor;
 mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys meddu ar rywbeth i'w werthu, a chynnig rhywbeth, ei roi ar ddangos neu ei hysbysebu i'w werthu;
 mae i “llaeth” yr ystyr a roddir i “milk” ym mhwynt I(a) o'r Atodiad;
 mae i “llaeth yfed” yr ystyr a roddir i “drinking milk” ym mhwynt I(b) o'r Atodiad; ac
 ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu cyd-drefniadaeth o farchnadoedd amaethyddol ac sy'n ymdrin â darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodedig (Rheoliad CMO Sengl).
(2) Mae i ymadroddion eraill, sy'n cael eu defnyddio yn y Rheoliadau hyn ond sydd heb eu diffinio ynddynt, ac y mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn ymddangos yn Rheoliad y Cyngor, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadroddion Saesneg hynny yn Rheoliad y Cyngor.
(3) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at Erthygl 114(2) a'r Atodiad yn gyfeiriadau at Erthygl 114(2) a'r Atodiad fel y'u diwygir o dro i dro.
3 
Ni chaiff neb—
(a) gwerthu neu ddanfon llaeth; na
(b) defnyddio neu esgeuluso defnyddio disgrifiad gwerthu ar gyfer unrhyw gynnyrch,yn groes i Erthygl 114(2) neu bwynt II(1) a (2) o'r Atodiad fel y'u darllenir ynghyd â phwynt III o'r Atodiad.
4 
Ni chaiff neb fewnforio i Gymru o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd unrhyw gynnyrch i'w werthu fel llaeth yfed yn groes i bwynt IV o'r Atodiad.
5 

(1) Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
(2) Rhaid i bob awdurdod bwyd roi i unrhyw awdurdod bwyd arall ym Mhrydain Fawr unrhyw gymorth a gwybodaeth y mae angen rhesymol eu cael ar yr awdurdod bwyd arall hwnnw er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau o dan y Rheoliadau hyn neu ddarpariaeth gyfatebol.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “darpariaeth gyfatebol” (“equivalent provision”) yw darpariaeth mewn Rheoliadau a wnaed yn Lloegr neu'r Alban er mwyn gweithredu Erthygl 114(2) neu'r Atodiad.
6 
Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â rheoliad 3 neu 4—
(a) yn euog o dramgwydd; a
(b) yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
7 

(1) Mae darpariaethau Deddf 1990 a nodwyd ym mharagraff (3) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid i unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at Ddeddf 1990 neu at Ran o Ddeddf 1990 gael ei ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn.
(3) Dyma'r darpariaethau—
(a) adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);
(b) adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi ei fwriadu i bobl ei fwyta);
(c) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(ch) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy);
(d) is-adran (8) o adran 30 (dadansoddi etc. samplau);
(dd) adran 33 (rhwystro etc. swyddogion);
(e) is-adrannau (1) i (3) o adran 35 (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'r is-adrannau'n ymwneud â thramgwyddau o dan is-adrannau (1) a (2) o adran 33;
(f) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac
(ff) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
8 
Mae Rheoliadau Llaeth Yfed 1998 wedi eu dirymu o ran Cymru.
9 

(1) Mae rheoliad 2(1) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 wedi ei ddiwygio'n unol â pharagraffau (2) i (4).
(2) Ar ôl y diffiniad o “confectionery product”, mewnosoder—“
 “Council Regulation 1234/2007” means Council Regulation (EC) No 1234/2007 establishing a common organisation of agricultural markets and on specific provisions for certain agricultural products (Single CMO Regulation);”.
(3) Yn y diffiniad o “raw milk”, yn lle'r geiriau “Article 3(1) of Council Regulation (EC) No 2597/97 laying down additional rules on the common organisation of the market in milk and milk products for drinking milk”, rhodder “point III(1) of Annex XIII to Council Regulation 1234/2007”.
(4) Yn y diffiniadau o “semi-skimmed milk”, “skimmed milk” a “whole milk”, yn lle'r geiriau “Article 3(1) of Council Regulation (EC) No 2597/97”, rhodder “point III(1) of Annex XIII to Council Regulation 1234/2007”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
25 Mai 2010