
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dinas a Sir Caerdydd) 2010 a daw i rym ar 5 Gorffennaf 2010.
2 
Mae Gweinidogion Cymru'n dynodi'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn—
(a) ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio; a
(b) ardal gorfodi arbennig.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
19 Mai 2010
YR ATODLEN
Erthygl 2

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r cyfan o ddinas a sir Caerdydd ac eithrio—
(a) Traffordd yr M4 a'i slipffyrdd, gan gynnwys y slipffyrdd gogleddol a deheuol i Gyffordd 32 a'r gerbytffordd gylchdroi (A4054) o amgylch Cyffordd 32;
(b) yr A470, gan gynnwys ei slipffyrdd, o'r ffin â bwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, sydd oddeutu 240 metr i'r gogledd o gylchfan Ynys Bridge y B4262, hyd at ei chyffordd â Ffordd Pant-mawr;
(c) yr A48(M) a'r A48 o'r ffin â dinas Casnewydd, sydd oddeutu 800 metr i'r dwyrain o drosbont cyffordd Llaneirwg, hyd at drosbont Radyr Place, 470 metr i'r gorllewin o Gyfnewidfa Gabalfa, gan gynnwys yr holl slipffyrdd a'r cerbytffyrdd cylchredol yng nghyfnewidfa Ffordd Gyswllt Pentwyn (A4232) a chyfnewidfa Llanedern (A4161);
(ch) yr A4232 o Gyffordd 30 yr M4 gan gynnwys ei cherbytffordd gylchredol hyd at ei chyffordd â'r A48;
(d) yr A4161 o'i chyffordd â chyfnewidfa Pentwyn yr A48 hyd at ei chyffordd â'r A4232, gan gynnwys ei slipffyrdd i gylchfan Heol Casnewydd;
(dd) yr A4232 o'i chyffordd â'r A4161 hyd at ei chyffordd â chylchfan Lamby Way/ Rover Way;
(e) yr A4232, gan gynnwys ei slipffyrdd, o Gyffordd 33 yr M4 (gan gynnwys ei cherbytffordd gylchdroi) hyd at ei chyffordd â'r A4234, gan gynnwys cerbytffordd gylchredol Queen’s Gate a'r cyswllt â'r gylchfan yng Nghainc Neuadd y Sir;
(f) yr A4234 o'i chyffordd ag Adam Street hyd at ei chyffordd â chylchfan Neuadd y Sir, gan gynnwys y gyffordd ryngol â'r A4232 a Chainc Neuadd y Sir; ac
(ff) yr A4055 o, a chan gynnwys, cerbytffordd gylchredol cyfnewidfa Ferry Road y A4232 tua'r de a thua'r gorllewin am bellter o tua 575 metr, hyd at y ffin â bwrdeistref sirol Bro Morgannwg.
