
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â'r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 1 Medi 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 1999 fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 4, rhodder—“
4 

(1) The Chief Inspector must secure that relevant nursery education is inspected under paragraph 6B(1)(a) of Schedule 26 to the Act—
(a) where there has been no previous inspection under that paragraph, within six years of the date on which relevant nursery education was first provided at the premises concerned, and
(b) in all other cases within six years of the date on which the last inspection was completed.
(2) For the purposes of this regulation the date on which the last inspection was completed is the date of the report of the last inspection under paragraph 6B of Schedule 26 to the Act.”.
3 

(1) Diwygir Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001 fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 2, rhodder—“
2 

(1) Rhaid cynnal arolygiadau—
(a) os nad oes arolygiad blaenorol wedi ei gynnal, o fewn chwe blynedd i ddyddiad sefydlu'r sefydliad sy'n darparu addysg a hyfforddiant ac sydd i'w arolygu, a
(b) ym mhob achos arall, o fewn chwe blynedd i'r dyddiad y cwblhawyd yr arolygiad diwethaf.
(2) At ddiben y rheoliad hwn dyddiad yr adroddiad arolygu diwethaf yw'r dyddiad y cwblhawyd yr arolygiad diwethaf.”.
4 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006 fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 6, rhodder—“
6 

(1) Rhaid i'r Prif Arolygydd sicrhau bod pob ysgol y mae adran 28 o Ddeddf 2005 yn gymwys iddi yn cael ei harolygu—
(a) yn achos ysgol nad yw wedi ei harolygu'n flaenorol, o fewn chwe blynedd i'r dyddiad y derbyniwyd disgyblion gyntaf i'r ysgol, a
(b) ym mhob achos arall, o fewn chwe blynedd i'r dyddiad y cwblhawyd yr arolygiad diwethaf.
(2) At ddiben y rheoliad hwn dyddiad yr arolygiad diwethaf o dan adran 28 o Ddeddf 2005 yw'r dyddiad y cwblhawyd yr arolygiad diwethaf.”.
5 

(1) Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006 fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 3, rhodder—“
3 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys yn achos darparydd gwasanaeth neu ddarparydd perthnasol na chafodd ei arolygu o'r blaen o dan adrannau 55 neu 56 o Ddeddf 2005.
(2) Rhaid i'r Prif Arolygydd arolygu'r darparydd gwasanaeth neu'r darparydd perthnasol o dan adrannau 55 neu 56 o Ddeddf 2005 (yn ôl y digwydd), o fewn chwe blynedd i'r dyddiad pryd y daeth y darparydd gwasanaeth neu'r darparydd perthnasol yn ddarparydd o'r fath am y tro cyntaf.”.
(3) Yn lle rheoliad 4, rhodder—“
4 

(1) Ac eithrio pan fo rheoliad 3 yn gymwys, rhaid i'r Prif Arolygydd arolygu pob darparydd gwasanaeth o dan adran 55 o Ddeddf 2005 a phob darparydd perthnasol o dan adran 56 o Ddeddf 2005 o fewn chwe blynedd i'r dyddiad y cwblhawyd yr arolygiad diwethaf.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn dyddiad yr adroddiad o'r arolygiad diwethaf yw'r dyddiad y cwblhawyd yr arolygiad diwethaf.”.
Carwyn Jones
Prif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru
17 Mai 2010