
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plismona a Throsedd 2009 (Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) (Cymru) 2010 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Yn y Gorchymyn hwn—
 mae i “adloniant perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant entertainment” ym mharagraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf 1982,
 ystyr “yr ail ddiwrnod penodedig” (“the second appointed day”) o ran ardal awdurdod lleol, yw'r diwrnod cyntaf ar ôl diwedd cyfnod o 6 mis sy'n dechrau ar y diwrnod sef y diwrnod penodedig cyntaf o ran yr ardal honno,
 mae i “awdurdod lleol” yr ystyr a roddir i “local authority” gan adran 2(5) o Ddeddf 1982,
 ystyr “Deddf 2009” (“the 2009 Act”) yw Deddf Plismona a Throsedd 2009,
 ystyr “Deddf 2003” (“the 2003 Act”) yw Deddf Trwyddedu 2003,
 ystyr “Deddf 1982” (“the 1982 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982,
 ystyr “y diwrnod penodedig cyntaf” (“the first appointed day”) o ran ardal awdurdod lleol, yw'r diwrnod y mae Atodlen 3 i Ddeddf 1982, fel y'i diwygiwyd gan adran 27 o Ddeddf 2009, yn dod i rym yn yr ardal honno o ganlyniad i benderfyniad yr awdurdod lleol o dan adran 2 o Ddeddf 1982 neu baragraff 2(2) o Atodlen 3 i Ddeddf 2009,
 mae i “lleoliad adloniant rhywiol” (a chyfeiriadau at ddefnydd o'r fangre fel lleoliad o'r fath) yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” ym mharagraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf 1982,
 mae i “mangre” (ar wahân i'r ymadroddion “trwydded i fangre” a “tystysgrif mangre clwb”) yr ystyr a roddir i “premises” gan baragraff 2A(14) o Atodlen 3 i Ddeddf 1982,
 mae i “sinema ryw” yr ystyr a roddir i “sex cinema” ym mharagraff 3 o Atodlen 3 i Ddeddf 1982,
 mae i “siop ryw” yr ystyr a roddir i “sex shop” ym mharagraff 4 o Atodlen 3 i Ddeddf 1982,
 mae i “trwydded i fangre” (a “tystysgrif mangre clwb”) yr ystyr a roddir i “premises licence” (a “club premises certificate”) yn Neddf 2003,
 ystyr “y trydydd diwrnod penodedig” (“the third appointed day”), o ran ardal awdurdod lleol, yw'r diwrnod cyntaf ar ôl diwedd cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar y diwrnod sef y diwrnod penodedig cyntaf o ran yr ardal honno.
(2) Mae'r cyfeiriadau yn erthyglau 6(1), 7(1) ac 8(1) at gais i gael trwydded o dan Atodlen 3 i Ddeddf 1982 o ran lleoliad adloniant rhywiol yn cynnwys cyfeiriadau at gais i amrywio neu adnewyddu trwydded o dan Atodlen 3 i Ddeddf 1982 am siop ryw neu sinema ryw er mwyn galluogi defnyddio'r fangre o dan sylw fel lleoliad adloniant rhywiol.
(3) Nid yw'r cyfeiriadau yn erthyglau 6 i 8 at benderfynu cais yn cynnwys cyfeiriadau at benderfynu unrhyw apêl yn erbyn gwrthod caniatáu cais o'r fath.
3 
Mae erthyglau 4 i 11 yn gymwys os bydd Atodlen 3 i Ddeddf 1982, fel y'i diwygiwyd gan adran 27 o Ddeddf 2009, yn dod i rym yn ardal awdurdod lleol o ganlyniad i benderfyniad gan yr awdurdod o dan adran 2 o Ddeddf 1982 neu baragraff 2(2) o Atodlen 3 i Ddeddf 2009.
4 
Nid yw paragraffau 28 a 29 o Atodlen 3 i Ddeddf 1982 (darpariaeth drosiannol bresennol) yn gymwys o ran lleoliadau adloniant rhywiol.
5 

(1) Mae'n gyfreithlon i unrhyw berson y mae ganddo yn union cyn y diwrnod penodedig cyntaf drwydded Deddf 2003 o ran unrhyw fangre ac sy'n defnyddio'r fangre fel lleoliad adloniant rhywiol o dan drwydded Deddf 2003, neu sy'n gwneud gwaith paratoi i ddefnyddio'r fangre fel lleoliad o'r fath o dan y drwydded honno, ddefnyddio'r fangre fel lleoliad adloniant rhywiol o dan drwydded Deddf 2003 tan y trydydd diwrnod penodedig, neu benderfynu cais y mae erthygl 6 neu 7 yn gymwys iddo ac sy'n cael ei wneud gan y person hwnnw (gan gynnwys penderfynu unrhyw apêl yn erbyn gwrthod caniatáu'r cais), p'un bynnag yw'r diweddaraf.
(2) Ym mharagraff (1) ystyr “trwydded Deddf 2003”, o ran unrhyw fangre, yw trwydded i fangre neu dystysgrif mangre clwb y mae'n gyfreithlon darparu odani adloniant perthnasol yn y fangre honno.
(3) Mae paragraff (1) yn gymwys er gwaethaf Atodlen 3 i Ddeddf 1982 (ac o'r herwydd nid yw unrhyw ddefnydd a awdurdodir gan y paragraff hwnnw yn groes i baragraff 6 o'r Atodlen honno) ond fel arall nid yw'n rhagfarnu unrhyw ddeddfiad arall.
6 

(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i gais a wnaed o dan Atodlen 3 i Ddeddf 1982 ar neu ar ôl y diwrnod penodedig cyntaf ond ar neu cyn yr ail ddiwrnod penodedig, am gael trwydded o dan yr Atodlen honno o ran lleoliad adloniant rhywiol.
(2) Rhaid i'r awdurdod lleol o dan sylw beidio â phenderfynu unrhyw gais y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo hyd nes ei fod wedi ystyried pob cais o'r fath.
(3) Pan fo'r awdurdod lleol yn caniatáu cais o'r fath cyn y trydydd diwrnod penodedig o ran mangre y mae erthygl 5(1) yn gymwys iddi, nid yw'r drwydded yn effeithiol tan y trydydd diwrnod penodedig.
(4) Nid yw paragraff (3) yn rhwystro unrhyw drwydded arall a roddir drwy gais y mae'r erthygl hon yn gymwys iddi rhag cael effaith ar unwaith.
7 

(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i gais a wnaed o dan Atodlen 3 i Ddeddf 1982 ar ôl yr ail ddiwrnod penodedig ond cyn y trydydd diwrnod penodedig, i gael trwydded o dan yr Atodlen honno o ran lleoliad adloniant rhywiol.
(2) Rhaid i'r awdurdod lleol o dan sylw beidio â phenderfynu unrhyw gais y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo hyd nes ei fod wedi penderfynu pob cais y mae erthygl 6 yn gymwys iddynt.
(3) Pan fo'r awdurdod lleol yn caniatáu cais y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo cyn y trydydd diwrnod penodedig o ran mangre y mae erthygl 5(1) yn gymwys iddi, nid yw'r drwydded yn effeithiol tan y trydydd diwrnod penodedig.
(4) Nid yw paragraff (3) yn rhwystro unrhyw drwydded arall a roddir drwy gais y mae'r erthygl hon yn gymwys iddi rhag cael effaith ar unwaith.
8 

(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i gais a wnaed o dan Atodlen 3 i Ddeddf 1982 ar neu ar ôl y trydydd diwrnod penodedig, i gael trwydded o dan yr Atodlen honno o ran lleoliad adloniant rhywiol.
(2) Rhaid i'r awdurdod lleol o dan sylw beidio â phenderfynu unrhyw gais y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo hyd nes ei fod wedi penderfynu pob cais y mae erthygl 7 yn gymwys iddynt.
9 

(1) Nid yw'r diwygiad a wneir i Atodlen 3 i Ddeddf 1982 gan adran 27(5) o Ddeddf 2009 (seiliau dros wrthod trwyddedau) yn gymwys i unrhyw gais a wnaed o dan yr Atodlen honno cyn y diwrnod penodedig cyntaf am gael neu adnewyddu trwydded ar gyfer siop ryw neu sinema ryw.
(2) Nid yw'r diwygiad a wneir i Atodlen 3 i Ddeddf 1982 gan adran 27(7) o Ddeddf 2009 (ffioedd) yn gymwys i unrhyw gais a wnaed o dan yr Atodlen honno cyn y diwrnod penodedig cyntaf am gael amrywio trwydded ar gyfer siop ryw neu sinema ryw.
(3) Nid yw'r diwygiad a wneir i Atodlen 3 i Ddeddf 1982 gan adran 27(8) o Ddeddf 2009 (pwerau cwnstabliaid a swyddogion awdurdod lleol) yn gymwys pan fo cwnstabl neu swyddog awdurdodedig awdurdod lleol yn gweithredu o ran siop ryw neu sinema ryw o dan awdurdod gwarant a roddwyd o dan yr Atodlen honno cyn y diwrnod penodedig cyntaf.
(4) Nid yw'r diwygiad a wneir i Atodlen 3 i Ddeddf 1982 gan adran 27(9) o Ddeddf 2009 (apelau) yn gymwys i unrhyw gais a wnaed o dan yr Atodlen honno cyn y diwrnod penodedig cyntaf am adnewyddu trwydded ar gyfer siop ryw neu sinema ryw.
10 
Nid yw'r diwygiad a wneir gan baragraff 23 o Atodlen 7 i Ddeddf 2009 yn gymwys o ran mangre y mae erthygl 5(1) yn gymwys iddi hyd nes bod yr awdurdod a roddwyd gan yr erthygl honno i ddefnyddio'r fangre honno'n dod i ben.
11 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys os bydd person, pan geir cais y mae erthygl 6 neu 7 yn gymwys iddo o ran mangre y mae erthygl 5(1) yn gymwys iddi, yn cael trwydded o dan Atodlen 3 i Ddeddf 1982 i ddefnyddio'r fangre yn lleoliad adloniant rhywiol.
(2) Mae unrhyw amodau yn y drwydded i fangre neu dystysgrif mangre clwb o dan sylw—
(a) sy'n ymwneud yn ddatganedig ac yn unig â rheoleiddio adloniant perthnasol yn y fangre, neu
(b) sy'n anghyson â'r amod yn y drwydded a roddwyd o dan Atodlen 3 i Ddeddf 1982 ac yn llai beichus nag ef,
i'w trin fel pe baent wedi'u dileu o'r drwydded i fangre neu'r dystysgrif mangre clwb o dan sylw o'r diwrnod y mae'r drwydded a roddwyd o dan Atodlen 3 i Ddeddf 1982 yn effeithiol.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
4 Mai 2010