
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Jeli Cwpanau Bach) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Diwygio) 2010 a deuant i rym ar 21 Mai 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Bwyd (Jeli Cwpan Fach) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2009 fel a ganlyn.
(2) Yn yr enw ac yn rheoliad 1 (enwi, cychwyn a chymhwyso) yn y testun Cymraeg yn lle “(Jeli Cwpan Fach)” rhodder “(Jeli Cwpanau Bach)”.
(3) Yn rheoliad 2 (dehongli) yn y testun Saesneg–
(a) ar ddiwedd paragraff (3)(a) mewnosoder “or”;
(b) ym mharagraff (3)(b) dileer “; or” ac yn ei le rhodder “,”; ac
(c) ym mharagraff (3) dileer is-baragraff (c).
(4) Yn rheoliad 2 (dehongli) yn y testun Cymraeg—
(a) ar ddiwedd paragraff 3(a) mewnosoder “neu”;
(b) ym mharagraff (3)(b) dileer “; neu” ac yn ei le rhodder “,”; ac
(c) ym mharagraff (3) dileer is-baragraff (c).
(5) Ym mharagraff (5) o reoliad 3 (gwaharddiadau) yn y testun Cymraeg ar ôl y gair “gyfnod” mewnosoder y gair “nad”.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Ebrill 2010