
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plismona a Throsedd 2009 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2010 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Deddf 2009” (“the 2009 Act”) yw Deddf Plismona a Throsedd 2009,
 ystyr “Deddf 2003” (“the 2003 Act”) yw Deddf Trwyddedu 2003,
 ystyr “Deddf 1982” (“the 1982 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982.
2 
1 Mai 2010 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol Deddf 2009 at ddibenion gwneud gorchmynion o dan baragraff 3 o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno:
(a) adran 27(11) (darpariaeth ar gyfer Atodlen 3 i Ddeddf 2009 i gael effaith);
(b) paragraffau 3 a 5 o Atodlen 3 (pŵer i wneud darpariaeth drosiannol wrth fabwysiadu Atodlen 3 i Ddeddf 1982 fel y'i diwygiwyd).
3 
8 Mai 2010 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol Deddf 2009:
(a) adran 27 (rheoli lleoliadau dawnsio glin ac adloniant rhywiol arall etc) i'r graddau nad ydyw eisoes mewn grym;
(b) Atodlen 3 (lleoliadau dawnsio glin ac adloniant rhywiol arall etc: darpariaeth drosiannol) i'r graddau nad ydyw eisoes mewn grym;
(c) paragraff 23 o Atodlen 7 (diwygio Deddf 2003).
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
27 Ebrill 2010