
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Cyfnod Rhagnodedig a Swyddog Priodol) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 26 Gorffennaf 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006;
 ystyr “penadur” (“principal”) yw'r person a benodwyd yn benadur sefydliad addysg bellach;
 mae i “perchennog” yr ystyr a roddir i “proprietor” gan adran 579 o Ddeddf Addysg 1996;
 ystyr “prif swyddog addysg” (“chief education officer”) yw'r person a benodwyd yn unol ag adran 532 o Ddeddf Addysg 1996;
 ystyr “sefydliad addysg bellach” (“further education institution”) yw sefydliad yn y sector addysg bellach o fewn ystyr adran 91 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 ac sydd fel arall yn sefydliad addysgol o fewn ystyr adran 8(5) o Ddeddf 2006;
 ystyr “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”)—
(i) unigolyn a chanddo reolaeth gyffredinol dros reoli'r ysgol o ddydd i ddydd; neu
(ii) pan fo'r rheolaeth honno yn cael ei rhannu rhwng dau neu ragor o unigolion, yr un ohonynt a enwebir gan y perchennog i fod yn unigolyn cyfrifol;
 mae i “ysgol” yr ystyr a roddir i “school” gan adran 4 o Ddeddf Addysg 1996; ac
 ystyr “ysgol annibynnol” (“independent school”) yw ysgol nas cynhelir gan yr awdurdod lleol ac sydd fel arall yn sefydliad addysgol o fewn ystyr adran 8(5) o Ddeddf 2006.
3 
At ddibenion adran 13(1) o Ddeddf 2006 y cyfnod rhagnodedig yw cyfnod sydd o fewn pedwar mis i'r dyddiad y gwnaeth person a benodwyd i gorff llywodraethu sefydliad addysgol—
(a) cydsynio i'r swyddog priodol wneud gwiriad yn unol ag adran 15(2)(a) o Ddeddf 2006; a
(b) darparu unrhyw wybodaeth sy'n ofynnol i wneud y gwiriad hwnnw i'r swyddog priodol.
4 

(1) At ddibenion adran 13(5) o Ddeddf 2006, y swyddog priodol—
(a) mewn perthynas ag ysgol annibynnol, yw ei hunigolyn cyfrifol;
(b) mewn perthynas â sefydliad addysg bellach, yw ei benadur; ac
(c) mewn perthynas ag unrhyw sefydliadau addysgol eraill, yw prif swyddog addysg yr awdurdod lleol lle mae'r sefydliad addysgol wedi'i leoli.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
19 Ebrill 2010