
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 12 Ebrill 2010.
2 
Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007.
3 

(1) Mae Rheoliadau 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yng Ngholofn 2 o Dabl A yn Atodlen 1 (addasiadau i Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987), yn lle'r addasiad i baragraff (1A) o reoliad 53 (cyfrifo incwm tariff o gyfalaf) o'r Rheoliadau hynny rhodder “Hepgorer paragraff 1A”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
9 Ebrill 2010