
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg a Sgiliau 2008 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2009.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw'r cyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi ac yn dod i ben ar y 31 Awst nesaf;
 ystyr “DSFfY 1998” (“the SSFA 1998”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg a Sgiliau 2008.
2 
Daw'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf i rym ar 31 Mawrth 2009—
(a) adran 162(1), (2), (3)(a), (3)(b) a (4) i (10).
3 
Daw'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf i rym, yn ddarostyngedig i erthygl 4, ar 31 Mawrth 2009—
(a) adrannau 150, 152 a 153;
(b) adran 169(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 1 a bennir isod;
(c) adran 169(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau yn Atodlen 2 a bennir isod;
(ch) yn Atodlen 1, paragraffau 54, 55, 59(7), 66 a 67, ac, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau hynny, paragraff 53;
(d) yn Atodlen 2, y diddymiadau i'r graddau y maent yn ymwneud ag adrannau 86 a 94 o DSFfY 1998.
4 
Er bod adran 150 yn dod i rym ac er gwaethaf y diwygiadau a'r diddymiadau i adrannau 86 a 94 o DSFfY 1998 a wneir gan adrannau 152 a 169 o'r Ddeddf ac Atodlenni 1 a 2 iddi, bydd adrannau 86 a 94 yn parhau i fod yn gymwys heb y diwygiadau a'r diddymiadau hynny o ran derbyn plant i'r flwyddyn ysgol 2009-2010.
5 
Daw'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf i rym ar 31 Hydref 2009—
(a) adran 162(3)(c).
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
24 Mawrth 2009