
RHAN 1
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Galluedd Meddyliol (Amddifadu o Ryddid: Asesiadau, Awdurdodiadau Safonol ac Anghydfodau ynghylch Preswyliaeth) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “asesydd cymhwystra” (“eligibility assessor”) yw person a ddetholwyd i wneud yr asesiad cymhwystra o dan baragraff 46 o Atodlen A1 i'r Ddeddf.
 ystyr “asesydd lles pennaf” (“best interests assessor”) yw person a detholwyd i wneud asesiad lles pennaf o dan baragraff 38 o Atodlen A1 i'r Ddeddf;
 mae i “Cyngor Gofal Cymru” yr ystyr a roddir i “Care Council for Wales” gan adran 54(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Galluedd Meddyliol 2005;
 ystyr “gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl a gymeradwywyd” (“approved mental health professional”) yw person a gymeradwywyd o dan adran 114(1) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn mae “corff goruchwylio” (“supervisory body”) yn cynnwys Bwrdd Iechyd Lleol sy'n arfer swyddogaethau goruchwylio yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau Galluedd Meddyliol (Amddifadu o Ryddid: Penodi Cynrychiolydd Perthnasol) (Cymru) 2009.
RHAN 2
3 

(1) Yn ddarostyngedig i ofynion ychwanegol yn rheoliadau 4 i 8 nid yw person yn gymwys i wneud asesiad, ac eithrio asesiad oedran, ond pan fo'r corff goruchwylio wedi'i fodloni fod y person hwnnw—
(a) wedi'i yswirio mewn perthynas ag unrhyw atebolrwydd a ddichon godi mewn cysylltiad â gwneud yr asesiad; a
(b) yn meddu ar y sgiliau a'r profiad perthnasol ar gyfer yr asesiad y mae i'w wneud, sy'n gorfod cynnwys y sgiliau canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt—
(i) y gallu i gyfathrebu'n effeithiol gyda golwg ar ganfod nodweddion a phriodweddau person sy'n berthnasol i anghenion y person hwnnw, a
(ii) y gallu i weithredu'n annibynnol ar unrhyw berson sy'n ei benodi i wneud asesiad ac ar unrhyw berson sy'n darparu gofal neu driniaeth i'r person y mae i'w asesu.
(2) Rhaid i'r corff goruchwylio fod wedi'i fodloni bod yna mewn perthynas â'r person—
(a) tystysgrif cofnod troseddol fanwl wedi'i dyroddi o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997; neu
(b) os nad yw'r diben y mae'r dystysgrif yn ofynnol amdano yn un a ragnodir o dan adran (2) o'r adran honno, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd yn unol ag adran 113A o'r Ddeddf honno.
4 
Mae person yn gymwys i gynnal asesiad iechyd meddwl os yw'r person hwnnw—
(a) wedi'i gymeradwyo o dan adran 12 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983; neu
(b) yn ymarferydd meddygol cofrestredig y mae'r corff goruchwylio yn fodlon fod ganddo brofiad perthnasol mewn diagnosio neu drin anhwylder meddyliol.
5 

(1) Mae person yn gymwys i gynnal asesiad lles pennaf os yw'r person hwnnw—
(a) yn weithiwr proffesiynol iechyd meddwl a gymeradwywyd;
(b) yn weithiwr cymdeithasol a gofrestrwyd gyda Chyngor Gofal Cymru;
(c) yn nyrs lefel gyntaf, a gofrestrwyd yn Is-Ran 1 o Ran y Nyrsys yn y Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o'r Gorchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001;
(ch) yn therapydd galwedigaethol a gofrestrwyd yn Rhan 6 o'r gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001; neu
(d) yn seicolegydd siartredig a restrir yng Nghofrestr Seicolegwyr Siartredig Cymdeithas Seicolegol Prydain ac sy'n dal tystysgrif ymarfer a ddyroddwyd gan y Gymdeithas honno.
(2) Rhaid i'r corff goruchwylio fod wedi'i fodloni hefyd fod gan y person y gallu i gymryd i ystyriaeth sylwadau unrhyw berson sydd â buddiant yn lles y person sydd i'w asesu a'r gallu i asesu perthnasedd a phwysigrwydd y sylwadau hynny wrth wneud asesiad.
6 
Mae person yn gymwys i wneud asesiad galluedd meddyliol neu asesiad cymhwystra os yw'n gymwys i gynnal—
(a) asesiad iechyd meddwl; neu
(b) asesiad lles pennaf.
RHAN 3
7 

(1) Dim ond os yw'r canlynol yn wir y caiff corff goruchwylio ddethol person i gynnal asesiad mewn unrhyw achos unigol—
(a) nad oes gan y person fuddiant ariannol yn y gwaith o ofalu am y person perthnasol;
(b) nad yw'r person yn berthynas i'r person perthnasol; ac
(c) nad yw'r person yn berthynas i berson sydd â buddiant ariannol yn y gwaith o ofalu am y person perthnasol.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “perthynas” (“relative”) yw:
(a) tad, mam, llystad, llysfam, mab, merch, nain (mam-gu), taid (tad-cu), ŵyr neu wyres y person hwnnw, neu o briod, cyn briod, partner sifil neu gyn bartner sifil y person hwnnw; neu
(b) brawd, chwaer, ewythr, modryb, nith, nai, neu gefnder cyfan (p'un ai o waed cyfan neu hanner gwaed neu drwy briodas neu bartneriaeth sifil) y person hwnnw neu briod, cyn briod, partner sifil neu gyn bartner sifil y person hwnnw.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a) mae “priod” (“spouse”) neu “partner sifil” (“civil partner”) yn cynnwys person nad yw'n briod â neu mewn partneriaeth sifil â'r person hwnnw ond sy'n byw gyda'r person hwnnw fel petai felly;
(b) mae gan berson fuddiant ariannol mewn cartref gofal neu ysbyty annibynnol os yw'r person hwnnw yn bartner, yn gyfarwyddwr, yn ddeiliaid swydd arall neu'n gyfranddaliwr sylweddol yn y cartref gofal neu'r ysbyty annibynnol sydd wedi gwneud y cais am awdurdodiad safonol;
(c) ystyr “cyfranddaliwr sylweddol” (“major shareholder”) yw—
(i) unrhyw berson sy'n dal y ddegfed ran neu fwy o'r cyfrannau a ddyroddwyd yn y cartref gofal neu'r ysbyty annibynnol, os yw'r cartref gofal neu'r ysbyty annibynnol yn gwmni cyfyngedig trwy gyfrannau, a
(ii) ym mhob achos arall, unrhyw berchen neu berchnogion ar y cartref gofal neu'r ysbyty annibynnol.
8 
Dim ond person nad yw'n ymwneud â gofal neu driniaeth, nac yn ymwneud â phenderfyniadau ynghylch gofal neu driniaeth, y person perthnasol y caiff corff goruchwylio ei ddethol i gynnal asesiad lles pennaf.
RHAN 4
9 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i reoliad 11, rhaid i asesydd gwblhau'r asesiad o fewn 21 niwrnod o'r dyddiad y caiff ei gyfarwyddo gan y corff goruchwylio.
(2) Pan fo'r awdurdod rheoli wedi rhoi awdurdodiad brys o dan baragraff 76 o Atodlen A1 i'r Ddeddf ac yn gwneud cais am awdurdodiad safonol, rhaid i'r asesydd gwblhau'r asesiad o fewn 5 niwrnod i'r dyddiad y mae'n cael ei gyfarwyddo gan y corff goruchwylio.
10 
Yn ddarostyngedig i baragraff 69(4) a (5) o Atodlen A1 i'r Ddeddf, rhaid i asesiad sy'n ofynnol o dan baragraff 69 o Atodlen A1 i'r Ddeddf gael ei gwblhau o fewn 5 niwrnod i'r dyddiad y mae'r asesydd yn cael ei gyfarwyddo gan y corff goruchwylio.
11 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan gaiff asesydd gyfarwyddyd gan y corff goruchwylio ar 30 Ebrill 2009 neu cyn hynny.
(2) Rhaid cwblhau'r asesiad o fewn 42 o ddiwrnodau o'r dyddiad y rhoddir y cyfarwyddyd.
12 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo unigolyn yn cael ei asesu ac nad yr un person yw'r asesydd cymhwystra a'r asesydd lles pennaf.
(2) Rhaid i'r asesydd cymhwystra ofyn i'r asesydd lles pennaf ddarparu iddo unrhyw wybodaeth berthnasol am gymhwystra a all fod ym meddiant yr asesydd lles pennaf.
(3) Rhaid i'r asesydd lles pennaf gydymffurfio ag unrhyw gais a wneir o dan y rheoliad hwn.
RHAN 5
13 

(1) Rhaid i gais am awdurdodiad safonol gynnwys yr wybodaeth ganlynol—
(a) enw'r person perthnasol a'r cyfeiriad lle mae'r person hwnnw'n preswylio ar y pryd;
(b) enw, cyfeiriad a Rhif ffôn yr awdurdod rheoli;
(c) y rhesymau pam mae'r awdurdod rheoli o'r farn bod y person perthnasol yn cael, neu yn mynd i gael, ei gadw'n gaeth dan amodau sy'n cyfateb i amddifadiad o ryddid.
(ch) y rhesymau pam mae'r awdurdod rheoli o'r farn bod y person perthnasol yn bodloni'r gofynion cymhwyso o dan baragraff 12 o Atodlen A1 i'r Ddeddf;
(d) manylion unrhyw awdurdodiad brys a roddwyd yn unol â pharagraff 76 o Atodlen A1 i'r Ddeddf;
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i gais am awdurdodiad safonol gynnwys yr wybodaeth ganlynol os yw ar gael neu os oes modd rhesymol ei sicrhau—
(a) unrhyw wybodaeth neu ddogfennau sy'n ategu'r rhesymau a roddwyd ym mharagraff (1) (ch);
(b) enw, cyfeiriad a Rhif ffôn unrhyw berson sydd â buddiant yn lles y person perthnasol;
(c) manylion unrhyw benderfyniad dilys a chymwys sy'n berthnasol ac a wnaed ymlaen llaw gan y person perthnasol.
(3) Pan fo—
(a) awdurdodiad safonol presennol mewn grym mewn perthynas â chadw'r person perthnasol yn gaeth, a
(b) yr awdurdod rheoli yn gwneud cais yn unol â pharagraff 29 o Atodlen A1 i'r Ddeddf am awdurdodiad safonol pellach mewn perthynas â'r un person perthnasol,
nid oes rhaid i'r cais gynnwys unrhyw un o'r eitemau gwybodaeth a grybwyllwyd ym mharagraff (2) os yw'r wybodaeth honno'n aros yr un fath â'r hyn a nodwyd yn y cais am yr awdurdodiad safonol presennol.
(4) Yn y rheoliad hwn mae i “awdurdodiad safonol presennol” yr un ystyr ag sydd i “existing standard authorisation” ym mharagraff 29 o Atodlen A1 i'r Ddeddf.
RHAN 6
14 
Mae'r Rhan hon yn gymwys pan fo—
(a) awdurdod lleol (“awdurdod lleol A”)  yn cael cais —
(i) gan gartref gofal am awdurdodiad safonol o dan baragraffau 24, 25 neu 30 o Atodlen A1 i'r Ddeddf;
(ii) o dan baragraff 68 o Atodlen A1 i'r Ddeddf gan berson cymwys i benderfynu a oes amddifadiad o ryddid heb ei awdurdodi mewn cartref gofal ai peidio.
(b) awdurdod lleol A yn dymuno herio honiad mai ef yw'r corff goruchwylio priodol; ac
(c) cwestiwn ynghylch preswyliaeth arferol y person perthnasol i'w benderfynu gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 183(3) o Atodlen A1 i'r Ddeddf.
15 

(1) Rhaid i awdurdod lleol A weithredu fel corff goruchwylio mewn perthynas ag unrhyw gais am awdurdodiad safonol hyd nes y penderfynir unrhyw gwestiwn ynghylch preswyliaeth arferol y person perthnasol.
(2) Ond os yw awdurdod lleol arall yn cytuno i weithredu fel corff goruchwylio yn lle awdurdod lleol A, yr awdurdod lleol hwnnw fydd y corff goruchwylio hyd nes y penderfynir unrhyw gwestiwn ynghylch preswyliaeth arferol y person perthnasol.
(3) Pan fydd y cwestiwn ynghylch preswyliaeth arferol y person perthnasol wedi'i benderfynu, yr awdurdod lleol (“awdurdod lleol B”) a ddynodwyd fel y corff goruchwylio fydd y corff goruchwylio.
16 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os yw awdurdod lleol B wedi cael ei ddynodi yn unol â rheoliad 14, ac mai'r awdurdod lleol hwnnw yw'r corff goruchwylio yn unol â rheoliad 15(3).
(2) Mae unrhyw beth a wnaed gan neu mewn perthynas ag awdurdod lleol A mewn cysylltiad â'r awdurdodiad neu'r cais, yn ôl y digwydd, yn cael effaith, cyn belled ag y bo'n angenrheidiol parhau ei effaith ar ôl y newid, fel petai wedi'i wneud gan neu mewn perthynas ag awdurdod lleol B.
(3) Caniateir i unrhyw beth sy'n ymwneud â'r awdurdodiad neu'r cais ac sydd wrthi'n cael ei wneud gan neu mewn perthynas ag awdurdod lleol A adeg y newid gael ei barhau gan neu mewn perthynas ag awdurdod lleol B.
(4) Ond—
(a) nid yw awdurdod lleol A, yn rhinwedd y rheoliad hwn, yn peidio â bod yn atebol am unrhyw beth a wnaed ganddo mewn cysylltiad â'r awdurdodiad neu'r cais cyn y newid; a
(a) nid yw awdurdod lleol B, yn rhinwedd y rheoliad hwn, yn dod yn atebol am unrhyw beth o'r fath.
(5) Caiff awdurdod lleol A adennill gwariant a dynnwyd mewn cysylltiad â'r awdurdodiad neu'r cais oddi wrth awdurdod lleol B.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Mawrth 2009