
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2009.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
6 Ebrill 2009 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym —
(a) adran 30 (symud y cyfyngiad ar wrando cais am ryddhau gorchymyn amddiffyn brys);
(b) adran 35 (estyn y cyfnod a ganiateir i wneud rheoliadau o dan adran 45 neu 46 o Ddeddf Plant 2004); ac
(c) adran 42 ac Atodlen 4 (diddymu) i'r graddau y maent yn ymwneud â diddymu adran 45(9) o Ddeddf Plant 1989.
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
18 Mawrth 2009