
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau sy'n ymwneud â Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Rheoliadau Optegol” (“the Optical Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997;
 ystyr “y Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986.
2 
Yn rheoliad 1(2) o'r Rheoliadau Optegol (enwi, cychwyn a dehongli), yn y diffiniad o “NHS sight test fee” —
(a) yn lle “£54.67” rhodder “£55.93”; a
(b) yn lle “£19.80” rhodder “£20.26”.
3 
Yn Rheoliad 8(3)(1)(ii) (cymhwystra — cyflenwi teclynnau optegol) yn lle “£15,050” rhodder “£15,276”.
4 
Diwygir Rheoliad 19 o'r Rheoliadau Optegol (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio) fel a ganlyn —
(a) ym mharagraff (1)(b), yn lle “£51.90” rhodder “£52.90”; a
(b) ym mharagraff (3), yn lle “£13.40” rhodder “£13.70”.
5 

(1) Diwygir Atodlenni 1 i 3 i'r Rheoliadau Optegol yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn Atodlen 1 (codau llythrennau talebau a gwerth taleb ar yr wyneb — i gyflenwi ac ailosod) yng ngholofn (3) o'r tabl (gwerth taleb ar yr wyneb), am bob swm a bennir yng ngholofn (1) o'r tabl isod rhodder y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (2) o'r tabl isod yn ei le:

(1) (2)
Swm blaenorol Swm newydd
£35.50 £36.20
£54.00 £55.10
£79.00 £80.60
£178.40 £182.00
£61.40 £62.70
£78.10 £79.70
£101.20 £103.30
£196.10 £200.10
£182.70 £186.40
£51.90 £52.90
(3) Yn Atodlen 2 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectol fach a sbectol arbennig a theclynnau cymhleth)—
(a) ym mharagraff 1(1)(a), yn lle “£11.60” rhodder “£11.80”;
(b) ym mharagraff (1)(1)(b), yn lle “£13.90” rhodder “£ 14.20”;
(c) ym mharagraff 1(1)(c), yn lle “£3.90” rhodder “£4.00”;
(ch) ym mharagraff 1(1)(d), yn lle “£4.40” rhodder “£4.50”;
(d) ym mharagraff 1(1)(e), yn lle “£58.50”, “£51.90” a “£28.00” rhodder “£59.70”, “£52.90” a “£28.60” yn eu trefn;
(dd) ym mharagraff 1(1)(g), yn lle “£58.50” rhodder “£59.70”;
(e) ym mharagraff 2(a), yn lle “£13.40” rhodder “£13.70”; ac
(f) ym mharagraff 2(b), yn lle “£33.90” rhodder “£34.60”.
(4) Yn lle Atodlen 3 (gwerthoedd talebau — trwsio), rhodder yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
6 
Dim ond o ran taleb a gafodd ei derbyn neu ei defnyddio yn unol â rheoliad 12 neu reoliad 17 o'r Rheoliadau Optegol ar 1 Ebrill 2009 neu ar ôl hynny y bydd y symiau a roddir yn eu lle gan reoliadau 4 a 5 yn gymwys.
7 
Yn rheoliad 13(2)(l)(ii) (cymhwystra ar gyfer profion golwg) yn lle “£15,050” rhodder “£15,276”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
10 Mawrth 2009
YR ATODLEN
Rheoliad 5(4)
“
SCHEDULE 3
Regulation 19(2) a (3)


(1) (2)
Nature of Repair Letter of Codes—Values
 A B C D E F G H I
 £ £ £ £ £ £ £ £ £
Repair or replacement of one lens 11.25 20.70 33.45 84.15 24.50 33.00 44.80 93.20 86.35
Repair or replacement of two lenses 22.50 41.40 66.90 168.30 49.00 66.00 89.60 186.40 172.70
Repair or replacement of:         
The front of a frame 11.60 11.60 11.60 11.60 11.60 11.60 11.60 11.60 11.60
A side of a frame 6.90 6.90 6.90 6.90 6.90 6.90 6.90 6.90 6.90
The whole frame 13.70 13.70 13.70 13.70 13.70 13.70 13.70 13.70 13.70”