
1 

(1) O ran y Rheoliadau hyn—
(a) eu henw yw Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) (Diwygio) 2009;
(b) deuant i rym ar 9 Chwefror 2009; ac
(c) maent yn gymwys o ran Cymru.
2 
Diwygir Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 fel a ganlyn.
3 

(1) Diwygir rheoliad 2(2) (dehongli) fel a ganlyn:
(2) Yn y lle priodol yn y diffiniadau, mewnosoder “ystyr “map sŵn cyfunol” (“consolidated noise map”) yw map sŵn a lunnir yn unol â rheoliad 15(4);”;
(3) Yn y diffiniad o “Cyfarwyddeb”, ar ôl “25 Mehefin 2002” ac o flaen “sy'n ymwneud ag asesu a rheoli” mewnosoder “ac fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd;”;
(4) Yn y fersiwn Saesneg yn unig, yn lle “major airport” (“prif faes awyr”) rusuant to regulation 3” rhodder “major airport” (“prif faes awyr”) pursuant to regulation 3;”.
4 

(1) Diwygir rheoliad 3 (nodi ffynonellau sŵn) fel a ganlyn:
(2) Ym mharagraff (2) yn lle “Rhaid i'r Cynulliad nodi, a hynny ar ffurf rheoliadau a heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2011, yr holl” rhodder “Heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2011, rhaid i'r Cynulliad gyhoeddi mapiau'n nodi'r holl”;
(3) Ym mharagraff (4) yn lle “rhaid i'r Cynulliad nodi, a hynny ar ffurf rheoliadau” rhodder “rhaid i'r Cynulliad gyhoeddi mapiau'n nodi'r holl”.
(4) Ym mharagraff (3) yn lle “rheoliadau diweddaraf a gynhyrchir” rhodder “mapiau diweddaraf a gyhoeddir”.
5 
Yn lle rheoliad 13 (nodi ardaloedd tawel), rhodder—“
(1) Rhaid i ardaloedd tawel mewn crynodrefi cylch cyntaf gael eu nodi yn y cynlluniau gweithredu a lunnir o dan reoliad 17(1)(c).
(2) Rhaid i ardaloedd tawel mewn crynodrefi gael eu nodi yn y cynlluniau gweithredu a lunnir o dan reoliad 17(2)(c)”.
6 

(1) Diwygir rheoliad 15 (cynlluniau gweithredu: gofynion cyffredinol) fel a ganlyn:
(2) Yn lle paragraff (1)(ch) rhodder “nodi ac ystyried blaenoriaethau gan roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 30(1)”.
(3) Yn lle paragraff (4), rhodder—“
 Caiff Gweinidogion Cymru lunio mapiau sŵn cyfunol mewn cysylltiad ag unrhyw ardal a geir mewn unrhyw fapiau sŵn strategol—
(a) sy'n cael eu gwneud neu eu hadolygu yn unol â rheoliad 7, 11 neu 12 a'u mabwysiadu yn unol â rheoliad 23, a
(b) sy'n ymwneud ag unrhyw ran o'r ardal y rhoddir ystyriaeth iddi yn y cynllun gweithredu.”
7 
Yn lle rheoliad 30(canllawiau), rhodder—“
(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdod cymwys mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i awdurdod cymwys, wrth iddo arfer unrhyw un neu rai o'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 1.”.
8 
Dirymir rheoliad 14 o Reoliadau Swn Amgylcheddol (Cymru) 2006.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
15 Ionawr 2009