
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant sy'n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 12 Ionawr 2010.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i'r ymadrodd “addysg ysgol annibynnol a ariennir” (“funded independent school education”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 3(b);
 mae i'r ymadrodd “anghenion addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational needs” gan adran 312 o Ddeddf 1996;
 ystyr “asesiad athrawon” (“teacher assessment”) yw asesiad gan athro neu athrawes o lefel cyrhaeddiad pwnc plentyn yn y pynciau a'r gweithgareddau sy'n rhan o'r cwricwlwm a addysgwyd i'r plentyn hwnnw;
 ystyr “awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority”) yw'r awdurdod addysg lleol yng Nghymru sy'n ariannu neu a fydd yn ariannu'r ddarpariaeth a ariennir;
 ystyr “canlyniad” (“result”) mewn perthynas ag unrhyw asesiad athrawon yw canlyniad yr asesu fel y mae wedi ei benderfynu a'i gofnodi gan athro neu athrawes;
 ystyr “cofnod presenoldeb” (“attendance record”) yw'r cofnod o bresenoldeb disgybl mewn ysgol yn ôl y gofrestr a gedwir yn unol ag adran 434 o Ddeddf 1996 a Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995;
 ystyr “cymhwyster allanol a gymeradwywyd” (“approved external qualification”) yw cymhwyster o fewn ystyr adrannau 96(5) a 97(5) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 a gymeradwywyd, ar yr adeg berthnasol, o dan adran 99 o'r Ddeddf honno at ddibenion adrannau 96 a 97 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000;
 mae i'r ymadrodd “darpariaeth a ariennir” (“funded provision”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 3;
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
 ystyr “gwybodaeth am unigolion” (“individual information”), o ran addysg ysgol annibynnol a ariennir ac unedau cyfeirio disgyblion, yw gwybodaeth am ddisgyblion unigol, ac o ran addysg a ariennir, yw gwybodaeth am blant unigol;
 ystyr “Rhif unigryw disgybl” (“unique pupil number”) yw cyfuniad o rifau sydd ynghyd â llythyren neu lythrennau yn cael eu dyrannu i ddisgybl ac sy'n unigryw i'r disgybl hwnnw, drwy ddefnyddio fformiwla a benderfynwyd gan Weinidogion Cymru; ac
 ystyr “uned neu gredyd” (“unit or credit”), mewn perthynas â chymhwyster, yw modiwl neu ran o gwrs sy'n arwain at y cymhwyster hwnnw y gellir, pan fo wedi ei gwblhau'n llwyddiannus, ei gyfrif neu ei chyfrif ynghyd â modiwlau neu rannau eraill tuag at ennill y cymhwyster hwnnw.
3 
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran—
(a) addysg a ariennir sy'n cael ei darparu o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol perthnasol;
(b) addysg sy'n cael ei darparu mewn ysgol annibynnol, ei threfnu a'i hariannu gan awdurdod addysg lleol yng Nghymru yn unol ag adran 19 o Ddeddf 1996 (addysg y cyfeirir ati yn y Rheoliadau hyn fel “addysg ysgol annibynnol a ariennir”); ac
(c) addysg sy'n cael ei darparu mewn uned cyfeirio disgyblion a'i hariannu gan awdurdod lleol perthnasol,ac yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at ddarpariaeth a ariennir yn gyfeiriad at y cyfryw addysg a ariennir, y cyfryw addysg ysgol annibynnol a ariennir a'r cyfryw addysg mewn uned cyfeirio disgyblion.
4 
Cyn pen 14 diwrnod o gael cais ysgrifenedig oddi wrth Weinidogion Cymru, rhaid i berson sy'n darparu darpariaeth a ariennir ddarparu i Weinidogion Cymru y cyfryw wybodaeth am unigolion y cyfeirir ati yn Atodlen 1 ag y gofynnir amdani.
5 

(1) At ddibenion adrannau 537A(2)(b) a 537B(2)(b), mae'r awdurdod lleol perthnasol yn berson rhagnodedig.
(2) Cyn pen 14 diwrnod o gael cais ysgrifenedig gan yr awdurdod lleol perthnasol, rhaid i berson sy'n darparu darpariaeth a ariennir ddarparu i'r awdurdod y cyfryw wybodaeth am unigolion y cyfeirir ati ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 1 ag y gofynnir amdani.
6 
At ddibenion adrannau 537A(3)(b) a 537(3)(b) o Ddeddf 1996, mae cwmnïau Gyrfa Cymru a sefydlwyd i ddarparu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru o dan adrannau 2, 8 a 10 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 yn berson rhagnodedig.
7 

(1) At ddibenion adrannau 537A(4)(b) a 537B(4)(b) o Ddeddf 1996, person rhagnodedig yw unrhyw un o'r canlynol—
(a) yr awdurdod lleol perthnasol;
(b) Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru neu Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales; ac
(c) y cwmnïau Gyrfa Cymru a sefydlwyd i ddarparu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru o dan adrannau 2, 8 a 10 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973.
(2) Categori rhagnodedig at ddibenion adrannau 537A(4)(c) a 537B(4)(c) o Ddeddf 1996 yw categori o bersonau sy'n ymchwilio i gyflawniadau addysgol plant ac y mae arnynt angen gwybodaeth am unigolion at y diben hwnnw.
8 

(1) At ddibenion adrannau 537A(5)(b)(i) a 537B(5)(b)(i) o Ddeddf 1996, person rhagnodedig yw—
(a) yr awdurdod lleol perthnasol;
(b) Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru neu Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales.
(2) Categori rhagnodedig at ddibenion adrannau 537A(5)(b)(ii) a 537B(5)(b)(ii) o Ddeddf 1996 yw categori o bersonau sy'n ymchwilio i gyflawniadau addysgol plant ac y mae arnynt angen gwybodaeth am unigolion at y diben hwnnw.
9 

(1) Rhaid i'r athro neu'r athrawes sydd â gofal dros uned cyfeirio disgyblion ac i berchennog ysgol annibynnol drefnu bod adroddiad ysgrifenedig sy'n cynnwys yr wybodaeth am unigolion a bennir yn Atodlen 2 ar gael bob blwyddyn ysgol i riant pob plentyn o oedran ysgol gorfodol y mae'n darparu darpariaeth a ariennir iddo.
(2) Mae rhiant pob plentyn o oedran ysgol gorfodol, y mae'r athro neu'r athrawes sydd â gofal dros uned cyfeirio disgyblion neu berchennog ysgol annibynnol yn darparu darpariaeth a ariennir iddo, yn berson rhagnodedig at ddibenion adran 537A(2)(b) o Ddeddf 1996.
(3) Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy'n atal yr wybodaeth am unigolion a bennir yn Atodlen 2 rhag cael ei chynnwys mewn mwy nag un adroddiad ar yr amod, yn ddarostyngedig i baragraff (5), bod yn rhaid i ddarparwr y ddarpariaeth a ariennir anfon bob blwyddyn ysgol yr wybodaeth honno drwy'r post neu fel arall cyn diwedd tymor yr haf.
(4) Rhaid i'r cyfnod y mae adroddiad sy'n cynnwys yr wybodaeth am unigolion yn Atodlen 2 yn ymwneud ag ef ddechrau ym mhob achos ar ba ddyddiad bynnag yw'r diweddaraf o'r canlynol—
(a) y dyddiad y dechreuodd y person sy'n darparu'r ddarpariaeth a ariennir ddarparu addysg o'r fath i'r plentyn; neu
(b) diwedd y cyfnod yr oedd yr adroddiad diwethaf ar y materion hynny a wnaed yn unol â'r Rheoliadau hyn yn ymwneud ag ef.
(5) Pan na fo unrhyw un neu rai o'r manylion sy'n angenrheidiol i ddarparu'r wybodaeth a bennir ym mharagraffau 6, 7 neu 8 o Atodlen 2 yn dod i law darparwr y ddarpariaeth a ariennir tan ar ôl diwedd tymor yr haf, rhaid iddo drefnu bod yr wybodaeth honno ar gael cyn gynted ag y bo'n ymarferol a sut bynnag erbyn y 30 Medi canlynol fan bellaf.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
17 Rhagfyr 2009
ATODLEN 1
rheoliadau 4 a 5
1 
Yr wybodaeth ganlynol am y plentyn—
(a) Rhif unigryw cyfredol y disgybl (os yw'n berthnasol);
(b) cyfenw;
(c) enw cyntaf y plentyn, neu bob enw cyntaf os oes mwy nag un;
(ch) enw canol y plentyn, neu bob enw canol os oes mwy nag un;
(d) rhyw;
(dd) dyddiad geni;
(e) grŵp ethnig a ffynhonnell yr wybodaeth hon;
(f) hunaniaeth genedlaethol a ffynhonnell yr wybodaeth hon; ac
(ff) grŵp blwyddyn y cwricwlwm cenedlaethol y câi'r plentyn ei addysgu ynddo petai'n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir.
2 
Cod post y cartref lle mae'r plentyn fel arfer yn preswylio.
3 
A yw'r plentyn, yn unol ag adran 512(3) a 512ZB o Ddeddf 1996, wedi gwneud cais am gael prydau am ddim yn yr ysgol ac a gafwyd ei fod yn gymwys i'w cael.
4 
A oes gan y plentyn anghenion addysgol arbennig ac, os felly, cadarnhad o—
(a) prif angen y plentyn ac unrhyw angen eilaidd a nodwyd; a
(b) pa lefel a pha fath o ddarpariaeth anghenion addysgol arbennig sy'n rhan o'r ymagwedd raddedig yn unol â “Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru”, a ddyroddwyd o dan adran 313 o Ddeddf 1996 ac a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2002, sy'n cael ei gwneud i'r plentyn.
5 
A yw'r plentyn yn blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol perthnasol.
6 
Y math o le a fynychir i gael darpariaeth a ariennir, hynny yw, a yw'r ddarpariaeth honno—
(a) mewn uned cyfeirio disgyblion;
(b) mewn ysgol annibynnol;
(c) mewn ysbyty (ac eithrio ysgol a sefydlwyd mewn ysbyty); neu
(ch) yn cael ei darparu mewn man nad yw'n un o'r rhai y cyfeiriwyd ato yn is-baragraffau (a) i (c), ac os felly, disgrifiad cryno o'r math o ddarpariaeth.
7 
Y math o le a fynychir gan y plentyn i gael darpariaeth a ariennir yn unol â pharagraff 6, a nifer yr oriau o ddarpariaeth a ariennir a gafodd y plentyn yn yr wythnos cyn bod cais yn dod gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 4.
ATODLEN 2
rheoliad 9
1 
Manylion cryno am gyflawniadau yn yr holl bynciau a gweithgareddau sy'n rhan o'r cwricwlwm.
2 
Sylwadau ar gynnydd cyffredinol y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol.
3 
Manylion y trefniadau y caniateir i'r adroddiad gael ei drafod odanynt gydag athro neu athrawes y plentyn.
4 
Crynodeb o gofnod presenoldeb y plentyn yn ystod y cyfnod y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef sy'n dangos nifer yr absenoldebau awdurdodedig a'r absenoldebau na chafodd eu hawdurdodi (o fewn ystyr Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995) a nifer y presenoldebau posibl.
5 
Canlyniadau unrhyw asesiad athrawon.
6 
Enw unrhyw bwnc y cofrestrwyd y plentyn ar ei gyfer mewn cysylltiad â chymhwyster allanol a gymeradwywyd a'r radd (os oedd un) a gafwyd.
7 
Nifer cyfartalog y pwyntiau a sgoriwyd gan y plentyn mewn arholiadau pwnc o'r fath yr ymgofrestrodd ar eu cyfer.
8 
Manylion unrhyw uned neu gredyd tuag at gymhwyster o'r fath a gafwyd gan y plentyn yn ystod y cyfnod y mae'r adroddiad yn ymwneud ag ef.