
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2009.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2009” (“the 2009 Act”) yw Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009.
2 
Daw adran 205 o Ddeddf 2009 ac Atodlen 14 iddi i rym ar 12 Ionawr 2010 o ran Cymru.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
16 Rhagfyr 2009