
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth Leol 2008 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2010 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Trafnidiaeth Leol 2008.
2 
31 Ionawr 2010 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym–
(a) Adran 13 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym).
(b) Adrannau 14—18.
(c) Adran 68(2).
(ch) Adran 131 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r canlynol —
 Rhan 1 o Atodlen 7,
 Yn Rhan 2 o Atodlen 7, y diddymiadau sy'n ymwneud ag adran 116(2) ac Atodlen 10 i Ddeddf Trafnidiaeth 2000,
 Yn Rhan 2 o Atodlen 7, y diddymiad sy'n ymwneud â Deddf Fenter 2002,
 Yn Rhan 3 o Atodlen 7, y diddymiadau sy'n ymwneud ag Adrannau 74, 75 a 79 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985,
 Yn Rhan 3 o Atodlen 7, y diddymiadau sy'n ymwneud â Deddf Trafnidiaeth 2000,
 Yn Rhan 5 o Atodlen 7, y diddymiadau sy'n ymwneud â Deddf Trafnidiaeth 2000,ac felly â'r diddymiadau hynny.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
14 Rhagfyr 2009