
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2009.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Mesur” yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.
2 
Mae'r darpariaethau yn y Mesur a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn dod i rym ar 1 Ionawr 2010.
3 

(1) Ac eithrio fel y darperir ym mharagraffau (2) i (5), mae'r darpariaethau yn y Mesur a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, yn dod i rym ar 1 Ebrill 2010.
(2) Tan 1 Ebrill 2011 mae'r darpariaethau a bennir ym mharagraff (3) yn dal yn effeithiol, at y diben y cyfeirir ato ym mharagraff (4), fel pe baent heb eu diwygio neu heb eu diddymu gan y Mesur.
(3) Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw'r adrannau canlynol yn Neddf Llywodraeth Leol 1999—
(a) 1(1)(k), (6) a (7) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adrannau 10A, 11, 12A, 13A, 15 a 25 o'r Ddeddf honno,
(b) 10A(1)(a),
(c) 25(2)(d),
(ch) 29(1A) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adrannau 10A, 12A, 13A, 15 a 25 o'r Ddeddf honno, a
(d) 29(2A) a (4).
(4) Y diben y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yw i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal arolygiadau o sut mae awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru yn cydymffurfio â gofynion Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 i'r graddau y mae'r gofynion hynny'n ymwneud â blwyddyn ariannol 2009-2010.
(5) Mae adrannau 15 a 29(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 yn dal yn effeithiol—
(a) 
(i) tan 1 Ebrill 2011; neu
(ii) hyd nes y daw unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddir o dan adran 15 cyn y dyddiad hwnnw i ben; neu
(iii) hyd nes y caiff unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddir o dan adran 15 ei dynnu'n ôl cyn y dyddiad hwnnw;p'un bynnag fydd olaf; neu
(b) pan fo cyfarwyddyd wedi'i ddyroddi o dan adran 15 cyn 1 Ebrill 2011 (y “cyfarwyddyd gwreiddiol”), o ran unrhyw gyfarwyddyd pellach a ddyroddir cyn i'r cyfarwyddyd gwreiddiol ddod i ben i'r un awdurdod gwerth gorau yng Nghymru a oedd yn destun y cyfarwyddyd gwreiddiol, hyd nes y daw'r cyfarwyddyd pellach hwnnw i ben.
4 
Mae'r darpariaethau yn y Mesur a bennir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, yn dod i rym ar 1 Ebrill 2011.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
9 Rhagfyr 2009
ATODLEN 1
Erthygl 2


 Adran 15(7) er mwyn rhoi ei effaith i'r pŵer i wneud Gorchmynion yn adran 15(7)(b);
 Adran 37;
 Adrannau 39 i 44;
 Adran 46;
 Adran 51(2) a (3) ac Atodlen 2 a 3; ac
 Adran 52 ac Atodlen 4 at ddibenion adran 4, is-adran (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

ATODLEN 2
Erthygl 3


 Adran 2(1);
 Adran 3;
 Adran 8(7);
 Adrannau 9 i 13;
 Adrannau 15(1), (6) a (7);
 Adran 17(1)(a) at ddibenion cynnal archwiliad i benderfynu a yw awdurdod gwella yng Nghymru wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15(6) a (7);
 Adran 18;
 Adran 19(1)(b) at ddibenion cyhoeddi adroddiad yn datgan a yw awdurdod gwella yng Nghymru wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15(6) a (7);
 Adran 19(1)(c) i (h), (2), (3) a (4);
 Adrannau 20 i 24;
 Adrannau 26 i 30;
 Adrannau 33 a 34;
 Adran 51(1) ac Atodlen 1; ac
 Adran 52 ac Atodlen 4 i'r graddau y mae'n ymwneud â Deddf y Comisiwn Archwilio 1998 a Deddf Llywodraeth Leol 1999.

ATODLEN 3
Erthygl 4


 Adran 14;
 Adran 15(2), (3), (4) a (5);
 Adran 17;
 Adran 19(1)(a);
 Adran 19(1)(b); ac
 Adran 24(2)(a).
