
1 

(1) Enw'r Rheoliadau yw Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) (Diwygio) 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru, a deuant i rym ar 1 Ionawr 2010.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006  yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a) Dileer diffiniad o “gweithrediad a gymeradwywyd”,
(b) Yn y man priodol mewnosoder y diffiniadau canlynol—“
 ystyr “gweithrediad a gymeradwywyd neu gost sefydlu a gymeradwywyd” (“approved operation or approved setting up cost”) yw gweithrediad neu gost sefydlu y mae Gweinidogion Cymru wedi'u cymeradwyo'n ysgrifenedig ar gyfer cael cymorth ariannol, ac mae “cymeradwyo” (“approve”) a “cymeradwyaeth” (“approval) i'w dehongli'n unol â hynny;
 ystyr “cost sefydlu” (“setting up cost”) yw gwariant a dynnir neu sydd i'w dynnu wrth sefydlu ffermwyr ifanc yn unol ag Erthygl 7 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1857/2006 ar 15 Rhagfyr 2006 ar gymhwysiad Erthyglau 87 ac 88 o'r Cytuniad i gymorth gwladwriaethol i fusnesau bach a chanolig sy'n weithgar ym maes cynhyrchu cynhyrchion amaethyddol ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 70/2001.”.
(3) Yn rheoliadau 3(1), 6(1), 7(1)(a), 7(1)(b), 7(2)(a), 7(7), 8(1) 9(1), 9(1)(ch), 9(1)(e), 9(1)(f), 9(1)(ff), 9(1)(h), 9(2)(b) ar ôl “gweithrediad a gymeradwywyd” mewnosoder “neu gost sefydlu a gymeradwywyd”.
(4) Yn rheoliadau 4(1) a 9(2)(a) ar ôl “gweithrediad” mewnosoder “neu gost sefydlu”.
(5) Yn lle rheoliad 4(2), rhodder—“
4 

(2) Caiff Gweinidogion Cymru,
(i) ar yr amod eu bod wedi'u bodloni bod gweithrediad y mae'r cais yn ymwneud ag ef yn gymwys i gael cymorth Cymunedol, gymeradwyo'r gweithrediad hwnnw, neu
(ii) gymeradwyo'r gost sefydlu ar gyfer cael cymorth ariannol, a chaniateir rhoi cymeradwyaeth o'r fath yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau ag y caiff Gweinidogion Cymru eu penderfynu.”.
(6) Yn rheoliad 8(1) yn lle “â'r gweithrediad hwnnw” mewnosoder “ â gweithrediad neu gost sefydlu”.
(7) Yn yr Atodlen—
(a) Ym mharagraff 4 disodler y cofnod gan y testun canlynol—“
4 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1120/2009 dyddiedig 29 Hydref 2009 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu'r cynllun taliad sengl y darperir ar ei gyfer yn Nheitl III o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr.”;
(b) Ym mharagraff 5 disodler y cofnod gan y testun canlynol—“
5 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1122/2009 dyddiedig 30 Tachwedd 2009 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 o ran trawsgydymffurfio, modiwleiddio a'r system integredig gweinyddu a rheoli, o dan y cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr y darperir ar eu cyfer yn Rheoliad hwnnw, yn ogystal â gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran trawsgydymffurfio o dan y cynllun cymorth a ddarperir i'r sector gwin.”;
(c) Ym mharagraff 6 disodler y cofnod gan y testun canlynol—“
6 
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 dyddiedig 19 Ionawr 2009 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr.”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
9 Rhagfyr 2009