
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 20 Ionawr 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002 yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2(1) yn y diffiniad o “corff” (“organisation”) ar ôl “corff corfforaethol” ychwaneger “neu gymdeithas anghorfforedig”.
(3) Yn rheoliad 4(2)(b)(i) ar ôl “un o'i swyddogion eraill” ychwaneger “os corff corfforaethol neu swyddog neu aelod o gorff llywodraethu pan fo'r corff yn gymdeithas anghorfforedig yw'r corff hwnnw”.
(4) Ar ddiwedd Atodlen 3 ychwaneger—“
(14) Enw, cyfeiriad cartref a Rhif ffôn pob aelod cyfredol o bwyllgor neu gorff llywodraethu cymdeithas anghorfforedig.”
3 

(1) Diwygir Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2 yn y diffiniad o “organisation” ar ôl “corporate” ychwaneger “and, in the case of provision of day care only, a body corporate or unincorporated association”.
(3) Dirymir rheoliad 17(1)(e) a (2).
(4) Yn rheoliad 17(1)(d) dileer y geiriau “except where paragraph (2) applies,”.
(5) Yn Atodlen 7, paragraff 2(a), ar ôl “and” ychwaneger “, where the organisation is a body corporate,”;
(6) Yn Atodlen 8, paragraff 5, rhodder “a corporate body” yn lle “an organisation”.
4 
Mae Rheoliadau Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2009 wedi eu dirymu.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
9 Rhagfyr 2009