
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2009, maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 1 Ionawr 2010.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr sydd i'r ymadrodd “food authority” yn rhinwedd adran 5(1A) o'r Ddeddf;
 ystyr “darpariaeth benodedig” (“specified provision”) yw unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad y Comisiwn a bennir yng Ngholofn 1 o'r Atodlen ac y disgrifir y pwnc y mae'n ymdrin ag ef yng Ngholofn 2 o'r Atodlen;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990; ac
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 953/2009 am sylweddau y caniateir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwydydd at ddefnydd maethol neilltuol.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio un a ddiffinnir ym mharagraff (1), ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Ddeddf.
(3) Mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn Rheoliad y Comisiwn yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad y Comisiwn.
(4) Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf yn cael eu priodoli—
(a) drwy orchymyn o dan adran 2 neu 7 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, i awdurdod iechyd porthladd; neu
(b) drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936, i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig,
dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y maent wedi eu priodoli felly iddo.
(5) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.
3 

(1) Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau penodedig yn euog o dramgwydd.
(2) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(3) Rhaid i bob awdurdod bwyd weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
4 
Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
(a) adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi ei fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl);
(b) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(c) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy), fel y bo'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15;
(ch) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(d) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(dd) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan baragraff (d);
(e) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (d);
(f) adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (dd);
(ff) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
(g) adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd); ac
(ng) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
5 

(1) Mae Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd (Cymru) 2005 wedi eu diwygio'n unol â'r paragraffau canlynol.
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle'r diffiniad o “Cyfarwyddeb 2001/15/EC”, rhodder y diffiniad canlynol—“
 ystyr “Rheoliad 953/2009” (“Regulation 953/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 953/2009 am sylweddau y caniateir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwydydd at ddefnydd maethol neilltuol;”.
(3) Yn rheoliad 5 (eithriadau rhag y gwaharddiadau), yn lle is-baragraff (c) o baragraff (2), rhodder yr is-baragraff canlynol—“
(c) tryptoffan chwithdroadol, ei halwynau sodiwm, potasiwm, calsiwm neu fagnesiwm neu ei hydroclorid a ychwanegwyd gan gydymffurfio â Rheoliad 953/2009 at unrhyw fwyd at ddefnydd maethol penodol y cyfeirir ato yn yr Atodiad i'r Rheoliad hwnnw;”.
6 
Mae Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002 wedi eu dirymu.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
8 Rhagfyr 2009
YR ATODLEN
Rheoliadau 2(1) a 3(1)


Y ddarpariaeth yn Rheoliad y Comisiwn Y pwnc
Erthygl 2(1) O ran y sylweddau sy'n perthyn i'r categorïau sy'n ymddangos yn yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn, gofyniad mai dim ond y rhai o blith y sylweddau hynny sydd wedi eu rhestru yn yr Atodiad hwnnw, ac sy'n cydymffurfio â'r manylebau perthnasol fel y bo'n angenrheidiol, sydd i'w hychwanegu at ddibenion maethol penodol wrth weithgynhyrchu bwydydd at ddefnydd maethol neilltuol a gwmpesir gan Gyfarwyddeb 2009/39 Senedd Ewrop a'r Cyngor am fwydydd sydd wedi eu bwriadu at ddefnydd maethol neilltuol.
Erthygl 3(1) Gofyniad y bydd y defnydd ar sylweddau a ychwanegir at ddibenion maethol penodol yn arwain at weithgynhyrchu cynhyrchion diogel sy'n bodloni anghenion maethol neilltuol y personau y maent wedi eu bwriadu ar eu cyfer, fel a gadarnheir drwy ddata gwyddonol a dderbynnir yn gyffredinol.
Erthygl 3(2) Gofyniad y bydd y gweithgynhyrchydd neu, pan fo'n briodol, y mewnforiwr, os gofynnir iddo wneud hynny gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yn dangos y gwaith gwyddonol a'r data sy'n cadarnhau bod y defnydd ar y sylweddau yn cydymffurfio ag Erthygl 3(1) o Reoliad y Comisiwn. Os yw gwaith a data o'r fath wedi eu cynnwys mewn cyhoeddiad sydd ar gael yn rhwydd, bydd cyfeiriad at y cyhoeddiad hwnnw yn ddigon.
Erthygl 4(2) Gofyniad y bydd y meini prawf ar burdeb, a bennwyd drwy ddeddfwriaeth Gymunedol ac sy'n gymwys i'r sylweddau a restrir yn yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn pan fônt yn cael eu defnyddio wrth weithgynhyrchu bwydydd at ddibenion nad ydynt yn rhai sy'n cael eu cwmpasu gan Reoliad y Comisiwn, yn gymwys hefyd i'r sylweddau hynny pan fônt yn cael eu defnyddio at ddibenion sy'n cael eu cwmpasu gan Reoliad y Comisiwn.
Erthygl 4(3) Gofyniad, yn achos sylweddau a restrir yn yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn ac nad oes meini prawf ar burdeb wedi eu pennu ar eu cyfer drwy ddeddfwriaeth Gymunedol, a hyd nes y bydd manylebau o'r fath wedi eu mabwysiadu, y bydd y meini prawf ar burdeb a dderbynnir yn gyffredinol ac a argymhellir gan gyrff rhyngwladol yn gymwys.