
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig (Cymru) (Diwygio) 2009. Mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 22 Rhagfyr 2009
2 
Mae Gorchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig (Cymru) 2008 wedi ei ddiwygio fel y'i nodir yn y Gorchymyn hwn.
3 
Yn Rhan 1 o Atodlen 1 (Pathogenau anifeiliaid penodedig) ar ôl 34 (Feirws peste des petits ruminants) mewnosoder—“
34A 
genoteip feirws Syndrom Atgenhedlu ac Anadlu'r Moch”.
4 
Ym mharagraff 2 o Atodlen 2 (ymafael mewn pathogenau) ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—“
(3) Nid yw is-baragraffau (1) na (2) yn gymwys yn achos pathogen o'r enw genoteip feirws Syndrom Atgenhedlu ac Anadlu'r Moch 2.”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
7 Rhagfyr 2009