
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Yn yr Atodlen (Tanwyddau Awdurdodedig) i Reoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2008, ar ôl paragraff 8, mewnosoder—“
8A 
Brics glo Briteheat, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(a) wedi'u cyfansoddi o lo carreg (yn cyfateb i ryw 60% i 85% o gyfanswm eu pwysau), golosg petrolewm (yn cyfateb i ryw 30% o gyfanswm eu pwysau), glo rhwym (yn cyfateb i ryw 15% o gyfanswm eu pwysau), a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (yn cyfateb i weddill eu pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C;
(c) sy'n frics glo ar siâp clustogau a chanddynt linell wedi'i hindentio'n rhedeg o'u cwmpas ac sy'n pwyso 30 gram y fricsen ar gyfartaledd; ac
(ch) nad yw sylffwr yn cyfateb i fwy na 2% o gyfanswm eu pwysau.”
(2) Ar ôl paragraff 41 o'r Atodlen, mewnosoder—“
41A 
Brics glo Therma, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—
(a) wedi'u cyfansoddi o ronynnau glo caled (yn cyfateb i ryw 84% o gyfanswm eu pwysau), golosg petrolewm (yn cyfateb i ryw 12% o gyfanswm eu pwysau) a rhwymwr starts (yn cyfateb i weddill eu pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 250°C;
(c) sy'n frics glo hirgrwn/ar siâp deigryn a chanddynt linell drwy'r canol ac sy'n pwyso 26 gram y fricsen ar gyfartaledd; a
(ch) nad yw sylffwr yn cyfateb i fwy na 2% o gyfanswm eu pwysau.”
(3) Ar ôl paragraff 42 o'r Atodlen, mewnosoder—“
42A 
Boncyffion tân Tiger Tim, a weithgynhyrchir gan De Lange B V., Rustenburgerweg 3, 1646 WJ Ursem, yr Iseldiroedd—
(a) wedi'u cyfansoddi o gŵyr hydrin (yn cyfateb i ryw 50% o gyfanswm eu pwysau) a blawd llif (yn cyfateb i ryw 50% o gyfanswm eu pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;
(c) sy'n foncyffion tân rhyw 280 o filimetrau o hyd a 75 o filimetrau x 75 o filimetrau x 75 o filimetrau a chanddynt un rhigol yn rhedeg ar hyd pob un o'u pedwar wyneb sy'n 280 o filimetrau o hyd ac sy'n pwyso 1.1 kilogram y boncyff ar gyfartaledd; a
(ch) nad yw sylffwr yn cyfateb i fwy na 0.2% o gyfanswm eu pwysau.”.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
4 Rhagfyr 2009