
RHAN 1
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 17 Rhagfyr 2009.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “aelod cyswllt” (“associate member”) yw person sy'n dal unrhyw swydd a nodir yn rheoliad 3(3);
 ystyr “aelod nad yw'n swyddog” (“non-officer member”) yw aelod o'r cyd-bwyllgor sy'n dal unrhyw swydd a nodir yn rheoliad 3(1)(c);
 ystyr “aelodau presennol o Fwrdd Iechyd Lleol nad ydynt yn swyddogion” (“existing non-officer members of a Local Health Board”) yw'r aelodau o Fwrdd Iechyd Lleol nad ydynt yn swyddogion ac sydd wedi eu penodi yn unol â Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009;
 ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlir yn unol ag adran 11(2) o'r Ddeddf;
 ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol cynhaliol” (“host Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf;
 ystyr “corff gwasanaeth iechyd” (“health service body”) yw Awdurdod Iechyd Arbennig, Awdurdod Iechyd Strategol, Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol;
 ystyr “y cyd-bwyllgor” (“the joint committee”) yw Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a sefydlwyd yn unol â Chyfarwyddiadau Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (Cymru) 2009 a wnaed ar 1 Hydref 2009;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
 ystyr “prif weithredwyr” (“chief executives”) yw prif weithredwr pob Bwrdd Iechyd Lleol; ac
 ystyr “swyddog-aelod” (“officer member”) yw aelod o'r cyd-bwyllgor sy'n dal unrhyw swydd a nodir yn rheoliad 3(2).
RHAN 2
3 

(1) Mae aelodau o'r cydbwyllgor yn cynnwys y prif weithredwyr ynghyd â'r canlynol—
(a) cadeirydd;
(b) is-gadeirydd a benodir gan y cyd-bwyllgor o blith aelodau Bwrdd Iechyd Lleol nad ydynt yn swyddogion;
(c) dau aelod nad ydynt yn swyddogion ac a benodir gan y cyd-bwyllgor o blith aelodau presennol Bwrdd Iechyd Lleol nad ydynt yn swyddogion; ac
(ch) swyddog-aelodau a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd Lleol cynhaliol.
(2) Mae'r swyddog-aelodau'n cynnwys—
(a) cyfarwyddwr gwasanaethau arbenigol a thrydyddol;
(b) cyfarwyddwr meddygol gwasanaethau arbenigol a thrydyddol;
(c) cyfarwyddwr cyllid gwasanaethau arbenigol a thrydyddol; ac
(ch) nyrs-gyfarwyddwr gwasanaethau arbenigol a thrydyddol.
(3) Yn ychwanegol, bydd tri aelod cyswllt, sef Prif Weithredwyr Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru.
4 

(1) Penodir y cadeirydd gan Weinidogion Cymru.
(2) Penodir yr is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion gan y cyd-bwyllgor.
(3) Penodir y swyddog-aelodau gan y cyd-bwyllgor.
(4) Rhaid i'r penodiadau a wneir yn unol â pharagraff (1) fod yn unol â'r darpariaethau yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
(5) Pan fo'r cyd-bwyllgor yn penodi'r is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion yn unol â pharagraff (2) a'r swyddog-aelodau yn unol â pharagraff (3), rhaid i'r penodiadau fod yn ddarostyngedig i reolau sefydlog sy'n ymwneud â'r cyd-bwyllgor.
(6) Pan fo cadeirydd yn cael ei benodi'n unol â pharagraff (1), rhaid rhoi sylw i'r angen i hyrwyddo amrywiaeth yn y rhychwant o bersonau y caniateir eu penodi.
5 

(1) Cyn y caniateir i unrhyw berson gael ei benodi'n gadeirydd y cyd-bwyllgor, rhaid iddo fodloni'r gofynion o ran cymhwystra yn Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn a pharhau i gyflawni'r gofynion tra bo'n dal y swydd honno.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), cyn y caniateir i unrhyw berson gael ei benodi'n swyddog-aelod o'r cyd-bwyllgor, rhaid iddo fodloni'r gofynion o ran cymhwystra yn Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn a pharhau i gyflawni'r gofynion tra bo'n dal y swydd honno.
(3) Yn ychwanegol at fodloni'r gofynion o ran cymhwystra yn Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, rhaid i swyddog-aelod sy'n gyfarwyddwr meddygol gwasanaethau arbenigol a thrydyddol neu sy'n nyrs-gyfarwyddwr gwasanaethau arbenigol a thrydyddol y cyd-bwyllgor fodloni hefyd y gofynion perthnasol o ran cymhwystra yn Rhan 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
(4) Caiff unrhyw berson a benodir yn unol â rheoliad 4(2) i fod yn is-gadeirydd neu'n aelod nad yw'n swyddog neu sy'n aelod cyswllt o'r cyd-bwyllgor neu'n brif weithredwr y cyd-bwyllgor ddim ond dal swydd ar y cyd-bwyllgor cyhyd â'i fod yn parhau i ddal y swydd honno fel y bo'n briodol fel aelod presennol o Fwrdd Iechyd Lleol nad yw'n swyddog neu fel Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru neu Fwrdd Iechyd Lleol.
6 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn gadeirydd y cyd-bwyllgor.
(2) Yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn, bydd cadeirydd yn dal ac yn gadael swydd yn unol â thelerau ei benodiad.
(3) Caniateir i gadeirydd gael ei benodi am gyfnod nad yw'n hwy na phedair blynedd.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caniateir i gadeirydd, pan fydd ei gyfnod yn ei swydd wedi dod i ben, gael ei ailbenodi'n unol â rheoliad 4(1).
(5) Ni chaiff person ddal swydd fel cadeirydd i'r cyd-bwyllgor am gyfnod cyfan o fwy nag wyth mlynedd.
7 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn is-gadeirydd y cyd-bwyllgor neu'n aelod o'r cyd-bwyllgor nad yw'n swyddog.
(2) Caniateir i is-gadeirydd ac aelod nad yw'n swyddog gael ei benodi am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd.
(3) Yn ddarostyngedig i reoliad 5(4) a pharagraff (4), caniateir i is-gadeirydd neu aelod nad yw'n swyddog, pan fydd ei gyfnod yn ei swydd wedi dod i ben, gael ei ailbenodi'n unol â rheoliad 4(2).
(4) Ni chaiff person ddal swydd fel is-gadeirydd y cyd-bwyllgor neu fel aelod o'r cyd-bwyllgor nad yw'n swyddog am gyfnod cyfan o fwy na phedair blynedd.
8 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru symud cadeirydd o'i swydd ar unwaith os byddant yn penderfynu—
(a) nad yw er budd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru; neu
(b) nad yw'n ffafriol i reoli da ar y cyd-bwyllgor,
i'r cadeirydd hwnnw barhau i ddal y swydd honno.
(2) Os daw i sylw Gweinidogion Cymru fod cadeirydd a benodwyd wedi dod yn anghymwys o dan Ran 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru symud y cadeirydd hwnnw o'i swydd.
(3) Rhaid i gadeirydd a benodwyd hysbysu'r cyd-bwyllgor ar unwaith os daw'n anghymwys o dan Ran 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
(4) Os yw cadeirydd a benodwyd wedi methu â bod yn bresennol mewn unrhyw un o gyfarfodydd y cyd-bwyllgor am gyfnod o chwe mis neu fwy, caiff Gweinidogion Cymru symud y cadeirydd hwnnw o'i swydd oni chânt eu bodloni —
(a) bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a
(b) y bydd y cadeirydd yn gallu bod yn bresennol yn unrhyw gyfarfodydd o fewn unrhyw gyfnod y bydd Gweinidogion Cymru yn credu sy'n rhesymol.
(5) Caiff cadeirydd ymddiswyddo ar unrhyw bryd o'i swydd drwy roi hysbysiad mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru a phob Bwrdd Iechyd Lleol ond bydd ei ymddiswyddiad yn ddarostyngedig i delerau ei benodiad.
9 

(1) Cyn penderfynu a ddylid symud cadeirydd o swydd o dan reoliad 8, caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro ddeiliadaeth swydd y cadeirydd hwnnw am unrhyw gyfnod y maent yn credu ei fod yn rhesymol.
(2) Pan fo cadeirydd wedi ei atal dros dro yn unol â pharagraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r cadeirydd hwnnw a phob Bwrdd Iechyd Lleol ar unwaith mewn ysgrifen, gan ddatgan y rhesymau dros ei atal dros dro.
(3) Ni chaiff cadeirydd y mae ei ddeiliadaeth swydd wedi ei atal dros dro o dan baragraff (1) gyflawni swyddogaethau cadeirydd.
10 

(1) Caiff y cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr symud swyddog-aelod o'i swydd ar unwaith—
(a) os ydynt o'r farn nad yw er budd y cyd-bwyllgor i berson sy'n swyddog-aelod barhau i ddal y swydd honno fel aelod; neu
(b) os ydynt, ar ôl cael eu hysbysu gan swyddog-aelodau yn unol â pharagraff (2), o'r farn nad yw er budd y cyd-bwyllgor i berson sy'n swyddog-aelod barhau i ddal ei swydd.
(2) Os yw'r holl swyddog-aelodau (ac eithrio swyddog-aelod sy'n destun hysbysiad o dan y paragraff hwn) o'r farn na ddylai person sy'n swyddog-aelod barhau i ddal swydd fel aelod, cânt hysbysu'r cyd-bwyllgor.
(3) Pan fo'r cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr yn symud person o swydd yn unol â pharagraff (1) neu, ar ôl iddynt gael eu hysbysu gan y swyddog-aelodau yn unol â pharagraff (2), yn penderfynu na ddylai person barhau i ddal swydd, rhaid iddynt hysbysu pob Bwrdd Iechyd Lleol a Gweinidogion Cymru ar unwaith mewn ysgrifen, gan ddatgan y rhesymau dros eu penderfyniad.
(4) Pan fo person wedi ei benodi i fod yn swyddog-aelod, os daw i sylw'r cadeirydd, yr is-gadeirydd, unrhyw un o'r aelodau nad ydynt yn swyddogion neu'r prif weithredwyr fod y person hwnnw—
(a) wedi dod yn anghymwys i'w benodi o dan Ran 1, a phan fo'n gymwys, o dan Ran 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn; neu
(b) adeg ei benodi, yn anghymwys i gael ei benodi o dan Ran 1, a phan fo'n gymwys, o dan Ran 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn,
rhaid iddo hysbysu'r cyd-bwyllgor ar unwaith a rhaid i'r cadeirydd hysbysu'r swyddog-aelod hwnnw, pob Bwrdd Iechyd Lleol a Gweinidogion Cymru ar unwaith mewn ysgrifen o'r anghymhwystra hwnnw.
(5) Rhaid i swyddog-aelod hysbysu'r cyd-bwyllgor ar unwaith os daw'r aelod hwnnw'n anghymwys o dan Ran 1, a phan fo'n gymwys, o dan Ran 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
(6) Pan fo hysbysiad wedi ei roi yn unol â pharagraff (4), rhaid i'r cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr symud y person hwnnw o'i swydd a bydd y person hwnnw'n peidio â gweithredu fel swyddog-aelod.
(7) Os yw'n ymddangos i'r cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr fod swyddog-aelod wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 17 o Reoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009 (anabledd aelodau oherwydd buddiant ariannol), caniateir iddynt symud y person hwnnw o'i swydd a bydd y person hwnnw'n peidio â gweithredu fel swyddog-aelod.
(8) Pan fo swyddog-aelod wedi ei symud o'i swydd yn unol â pharagraffau (6) a (7), rhaid i'r cadeirydd hysbysu pob Bwrdd Iechyd Lleol a Gweinidogion Cymru o hynny ar unwaith.
(9) Os bydd person sy'n swyddog-aelod wedi methu â bod yn bresennol mewn unrhyw un o gyfarfodydd y cyd-bwyllgor am gyfnod o chwe mis neu fwy, caiff y cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr symud y person hwnnw o'i swydd oni chânt eu bodloni—
(a) bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a
(b) y bydd y person yn gallu bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfodydd o fewn unrhyw gyfnod y bydd y cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr yn credu sy'n rhesymol.
11 

(1) Cyn penderfynu a ddylid symud person o'i swydd yn unol â rheoliad 10, caiff y cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr, os byddant yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny, atal dros dro ddeiliadaeth swydd swyddog-aelod am unrhyw gyfnod y maent yn credu ei fod yn rhesymol.
(2) Pan fo swyddog-aelod wedi ei atal dros dro yn unol â pharagraff (1), rhaid i'r cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr hysbysu'r aelod hwnnw, pob Bwrdd Iechyd Lleol a Gweinidogion Cymru ar unwaith mewn ysgrifen, gan ddatgan y rhesymau dros ei atal dros dro.
(3) Ni chaiff swyddog-aelod y mae ei ddeiliadaeth swydd wedi ei hatal dros dro gyflawni swyddogaethau unrhyw aelod o'r cyd-bwyllgor.
RHAN 3
12 

(1) Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol gytuno ar y rheolau sefydlog ar gyfer rheoleiddio cyfarfodydd a thrafodion y cyd-bwyllgor.
(2) Rhaid i gyfarfodydd a thrafodion y cyd-bwyllgor gael eu cynnal yn unol â'r rheolau sefydlog sy'n ymwneud â'r cyd-bwyllgor.
(3) Ni chaiff aelodau cyswllt bleidleisio yn unrhyw un o gyfarfodydd neu drafodion y cyd-bwyllgor.
13 
Pan fo cadeirydd yr is-bwyllgor—
(a) wedi marw;
(b) wedi peidio â dal ei swydd; neu
(c) yn analluog i gyflawni dyletswyddau'r cadeirydd oherwydd salwch, absenoldeb neu unrhyw achos arall,caiff yr is-gadeirydd weithredu fel cadeirydd hyd nes y caiff cadeirydd newydd ei benodi neu hyd nes y bydd y cadeirydd presennol yn ailafael yn ei ddyletswyddau fel cadeirydd, yn ôl y digwydd.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
25 Tachwedd 2009
ATODLEN 1
Rheoliad 4(1) a (4)
1 
Mae'r Atodlen hon yn gymwys i benodi cadeirydd y cyd-bwyllgor.
2 
Rhaid i Weinidogion Cymru'n sicrhau bod trefniadau priodol wedi eu gwneud ar gyfer penodi'r cadeirydd a bod y trefniadau hynny'n cymryd i ystyriaeth —
(a) yr egwyddorion a osodir o bryd i'w gilydd gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus;
(b) ei bod yn ofynnol i'r penodi fod yn agored a thryloyw;
(c) ei bod yn ofynnol penodi drwy gystadleuaeth deg ac agored; ac
(ch) yr angen i sicrhau bod ymgeiswyr llwyddiannus yn bodloni'r gofynion ynghylch cymhwystra a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
ATODLEN 2
Rheoliad 5(1), (2) a (3)
RHAN 1
1 

(1) Mae'r Rhan hon o'r Atodlen hon yn gymwys mewn perthynas â chymhwystra person i gael ei benodi'n gadeirydd a'n swyddog-aelod y cyd-bwyllgor.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5), (6) ac (8), ni fydd person yn gymwys i gael ei benodi'n gadeirydd neu'n swyddog-aelod os yw—
(a) yn ystod y pum mlynedd blaenorol wedi ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw o unrhyw dramgwydd ac wedi cael dedfryd o garchar (p'un a yw wedi ei hatal ai peidio) am gyfnod nad yw'n llai na thri mis heb yr opsiwn o ddirwy;
(b) yn destun gorchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn interim neu wedi gwneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr;
(c) wedi ei ddiswyddo, ac eithrio oherwydd anghyflogaeth, o gyflogaeth am dâl gyda chorff gwasanaeth iechyd; neu
(ch) os yw ei aelodaeth fel cadeirydd, aelod neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd, wedi ei therfynu am reswm ac eithrio anghyflogaeth, ymddiswyddiad gwirfoddol, ad-drefnu'r corff gwasanaeth iechyd, neu am fod cyfnod y swydd y penodwyd y person hwnnw iddi wedi dod i ben.
(3) At ddibenion paragraff (2)(a), bernir mai'r dyddiad collfarnu yw'r dyddiad y bydd y cyfnod a ganiateir yn gyffredinol ar gyfer gwneud apêl neu gais ynghylch y gollfarn yn dod i ben neu, os gwneir apêl neu gais o'r fath, y dyddiad y penderfynir yn derfynol ar yr apêl neu'r cais, neu'r dyddiad y rhoddir y gorau i'r naill neu'r llall, neu'r dyddiad y mae'r apêl yn methu am na chafodd ei dwyn yn ei blaen neu'r dyddiad y mae'r cais yn methu am na chafodd ei ddwyn yn ei flaen.
(4) At ddibenion paragraff (2)(c), nid yw person i'w drin fel un sydd wedi cael ei gyflogi am dâl a hynny ddim ond am ei fod wedi dal swydd aelod, aelod cyswllt neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd.
(5) Pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)(b)—
(a) os diddymir y methdaliad ar y sail na ddylai'r person fod wedi cael ei ddyfarnu'n fethdalwr neu ar y sail bod dyledion y person wedi cael eu talu'n llawn, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n gadeirydd neu'n swyddog-aelod ar ddyddiad y diddymiad;
(b) os caiff y person ei ryddhau o fethdaliad, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n gadeirydd neu'n swyddog-aelod ar ddyddiad y rhyddhau;
(c) os telir dyledion y person yn llawn, ac yntau wedi gwneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n gadeirydd neu'n swyddog-aelod ar y dyddiad y caiff y dyledion hynny eu talu'n llawn; ac
(ch) ar ôl gwneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr, bydd y person yn dod yn gymwys i gael ei benodi'n gadeirydd neu'n swyddog-aelod ar derfyn pum mlynedd o'r dyddiad y cyflawnwyd telerau gweithred y compownd neu'r trefniant.
(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)(c), caiff, ar derfyn dwy flynedd o ddyddiad y diswyddiad, wneud cais mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru i ddileu'r anghymhwystra, a chaiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod yr anghymhwystra'n dod i ben.
(7) Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais i ddileu anghymhwystra, ni chaiff y person hwnnw wneud cais pellach cyn pen dwy flynedd gan ddechrau ar ddyddiad y cais a bydd y paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gais wedyn.
(8) Pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2) (ch), daw'r person hwnnw yn gymwys i'w benodi'n gadeirydd neu'n swyddog-aelod ar derfyn dwy flynedd o ddyddiad terfynu'r aelodaeth neu derfyn unrhyw gyfnod hirach a bennwyd gan y corff a derfynodd yr aelodaeth, ond caiff Gweinidogion Cymru, pan wneir cais iddynt mewn ysgrifen gan y person hwnnw, leihau cyfnod yr anghymhwystra.
RHAN 2
2 
I fod yn gymwys i gael ei benodi'n gyfarwyddwr meddygol yn rheoliad 3(2)(b), rhaid i berson fod wedi ei restru yng Nghofrestr Ymarferwyr Cyffredinol neu yng Nghofrestr Arbenigwyr y Cyngor Meddygol Cyffredinol.
3 
I fod yn gymwys i gael ei benodi'n nyrs-gyfarwyddwr yn rheoliad 3(2)(ch), rhaid i berson fod wedi ei gynnwys ar y gofrestr a gedwir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.