
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Strategaethau Troseddau ac Anhrefn (Disgrifiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2009.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 28 Rhagfyr 2009.
2 

(1) Mae'r erthygl hon yn rhagnodi, at ddibenion adran 5(2) o Ddeddf Troseddau ac Anhrefn 1998, y disgrifiadau o bersonau neu o gyrff y mae'n ofynnol i awdurdodau cyfrifol gydweithredu â hwy wrth iddynt arfer y swyddogaethau a roddwyd gan adran 6 o'r Ddeddf honno.
(2) Y personau neu'r cyrff hynny, o ran pob ardal llywodraeth leol yng Nghymru, yw—
(a) cyngor cymuned yn yr ardal honno;
(b) Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan Ran 1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 neu Ran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
(c) corff llywodraethu ysgol, o fewn ystyr adran 4(1) o Ddeddf Addysg 1996, yn yr ardal honno, a honno'n ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol;
(ch) perchennog ysgol annibynnol, o fewn ystyr adran 463 o'r Ddeddf honno, yn yr ardal honno;
(d) corff llywodraethu sefydliad o fewn y sector addysg bellach, fel y'i diffinnir yn adran 91 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, yn yr ardal honno;
(dd) Gweinidogion Cymru;
(e) landlord cymdeithasol, sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Tai 1996, sy'n landlord llety yn yr ardal honno.
3 

(1) Mae'r erthygl hon yn rhagnodi, at ddibenion adran 5(3) o Ddeddf Troseddau ac Anhrefn 1998, y disgrifiadau o bersonau neu o gyrff y mae'n rhaid i o leiaf un o bob disgrifiad ohonynt gael ei wahodd gan awdurdodau cyfrifol i gymryd rhan wrth iddynt arfer y swyddogaethau a roddwyd gan adran 6 o'r Ddeddf honno.
(2) Y personau neu'r cyrff hynny, o ran pob ardal llywodraeth leol yng Nghymru, yw—
(a) Asiantaeth yr Amgylchedd;
(b) sefydliad gwirfoddol sy'n gweithredu yn yr ardal honno a'i amcanion yw rhoi cymorth i bobl ifanc drwy waith ieuenctid neu addysg anffurfiol;
(c) Gwasanaeth Erlyn y Goron;
(ch) Rheolwr Llys yn Llys y Goron;
(d) yr Arglwydd Ganghellor;
(dd) cynrychiolydd Cynlluniau Gwarchod Cymdogaeth yn yr ardal honno;
(e) aelod o Gynllun Cymorth i Ddioddefwyr yn yr ardal honno sy'n gysylltiedig â Chymdeithas Genedlaethol Cynlluniau Cymorth i Ddioddefwyr;
(f) heddlu'r lluoedd fel y'i diffinnir ym mharagraff (3), os oes unrhyw sefydliad milwrol o fewn yr ardal honno;
(ff) heddlu'r Weinyddiaeth Amddiffyn, os oes unrhyw fan y mae adran 2(2) o Ddeddf Heddlu'r Weinyddiaeth Amddiffyn 1987 yn gymwys iddi o fewn yr ardal honno;
(g) corff sy'n darparu cludiant i'r ysgol o fewn yr ardal honno;
(ng) corff sy'n darparu neu'n gweithredu trafnidiaeth gyhoeddus o fewn yr ardal honno;
(h) o ran pob un o'r disgrifiadau a ganlyn, corff sy'n hybu buddiannau pobl o'r disgrifiad hwnnw o fewn yr ardal honno, neu sy'n darparu gwasanaethau iddynt—
(i) menywod;
(ii) yr ieuanc, gan gynnwys plant;
(iii) yr henoed;
(iv) y rheini ag anabledd corfforol a'r rheini ag anabledd meddyliol;
(v) y rheini o grwpiau hiliol gwahanol o fewn ystyr adran 3(1) o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976;
(vi) gwrywgydwyr;
(vii) preswylwyr;
(i) corff nad yw'n dod o fewn is-baragraff (h) uchod, ac y mae gostwng troseddau ac anhrefn yn yr ardal honno yn un o'i ddibenion;
(j) corff a sefydlwyd at ddibenion crefyddol o fewn yr ardal honno;
(l) cwmni neu bartneriaeth sydd â man busnes o fewn yr ardal honno;
(ll) corff a sefydlwyd i hybu busnesau manwerthu yn yr ardal honno;
(m) undeb llafur, o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992;
(n) ymarferydd meddygol cofrestredig—
(i) sy'n darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol yn yr ardal honno yn unol â threfniadau a wnaed o dan Ran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006; neu
(ii) sy'n cyflawni gwasanaethau meddygol sylfaenol yn yr ardal honno yn unol â threfniadau a wnaed o dan Ran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
(o) corff sy'n cynrychioli ymarferwyr meddygol cofrestredig—
(i) sy'n darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol yn yr ardal honno; neu
(ii) sy'n cyflawni gwasanaethau meddygol sylfaenol yn yr ardal honno;
(p) corff llywodraethu sefydliad o fewn y sector addysg uwch, fel y'i diffinnir yn adran 91 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, yn yr ardal honno;
(ph) prif swyddog y gwasanaeth tân ac achub y mae unrhyw ran o'i ardal o fewn yr ardal honno;
(r) Yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
(3) Ym mharagraff (2)(f) uchod, ystyr “heddlu'r lluoedd” yw Heddlu'r Llynges Frenhinol, Heddlu'r Fyddin Frenhinol, Heddlu'r Awyrlu Brenhinol neu Brofost Milwrol yr Awyrlu Brenhinol.
4 
Mae'r Gorchmynion a ganlyn wedi eu dirymu drwy hyn i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru—
(a) Gorchymyn Strategaethau Troseddau ac Anhrefn (Disgrifiadau Rhagnodedig) 1998;
(b) Gorchymyn Strategaethau Troseddau ac Anhrefn (Disgrifiadau Rhagnodedig) (Diwygio) 1998;
(c) Gorchymyn Strategaethau Troseddau ac Anhrefn (Disgrifiadau Rhagnodedig) (Diwygio) 1999; ac
(ch) Gorchymyn Strategaethau Troseddau ac Anhrefn (Disgrifiadau Rhagnodedig) (Diwygio) 2000.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
16 Tachwedd 2009