
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 2 Rhagfyr 2009.
2 
Diwygier Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2007 fel a ganlyn.
3 
Yn Rhan CH o Atodlen 1 (swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i fwrdd awdurdod), hepgorer paragraff 18.
4 
Yn Atodlen 2 (swyddogaethau y caniateir iddynt fod, ond nad oes angen iddynt fod, yn gyfrifoldeb bwrdd awdurdod)—
(a) yn lle paragraff 18 rhodder—“
18 
Unrhyw un neu unrhyw rai o'r swyddogaethau canlynol o ran priffyrdd—
(a) gwneud cytundebau ar gyfer gwneud gwaith priffyrdd;
(b) y swyddogaethau a geir yn narpariaethau canlynol Rhan III o Ddeddf Priffyrdd 1980 (creu priffyrdd)—
(i) adran 25 — creu llwybrau troed, llwybrau ceffylau neu gilffyrdd cyfyngedig drwy gytundeb;
(ii) adran 26 — pwerau gorfodol ar gyfer creu llwybrau troed, llwybrau ceffylau neu gilffyrdd cyfyngedig;
(c) y swyddogaethau a geir yn narpariaethau canlynol Rhan VIII o Ddeddf Priffyrdd 1980 (cau priffyrdd a gwyro priffyrdd etc)—
(i) adran 116 — pŵer llysoedd ynadon i awdurdodi cau priffordd neu wyro priffordd;
(ii) adran 117 — cais am orchymyn o dan adran 116 ar ran person arall;
(iii) adran 118 — cau llwybrau troed, llwybrau ceffylau a chilffyrdd cyfyngedig;
(iv) adran 118ZA — cais am orchymyn diddymu llwybr cyhoeddus;
(v) adran 118A — cau llwybrau troed, llwybrau ceffylau a chilffyrdd cyfyngedig sy'n croesi rheilffyrdd;
(vi) adran 118B — cau priffyrdd penodol at ddibenion atal troseddau etc;
(vii) adran 118C — cais gan berchennog ysgol am orchymyn diddymu arbennig;
(viii) adran 119 — gwyro llwybrau troed, llwybrau ceffylau a chilffyrdd cyfyngedig;
(ix) adran 119ZA — cais am orchymyn gwyro llwybr cyhoeddus;
(x) adran 119A — gwyro llwybrau troed, llwybrau ceffylau a chilffyrdd cyfyngedig sy'n croesi rheilffyrdd;
(xi) adran 119B — gwyro priffyrdd penodol at ddibenion atal troseddau etc;
(xii) adran 119C — cais gan berchennog ysgol am orchymyn gwyro arbennig;
(xiii) adran 119D — gwyro priffyrdd penodol ar gyfer gwarchod safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig;
(xiv) adran 120 — arfer pwerau i wneud gorchmynion diddymu a gwyro llwybrau cyhoeddus;
(xv) adran 121B — cofrestr ceisiadau;
(ch) y swyddogaethau a geir yn narpariaethau canlynol Rhan IX o Ddeddf Priffyrdd 1980 (ymyrraeth gyfreithlon ac anghyfreithlon â phriffyrdd a strydoedd)—
(i) adran 130 — amddiffyn hawliau cyhoeddus;
(ii) adran 139 — rheoli sgipiau adeiladwyr;
(iii) adran 140 — symud sgipiau adeiladwyr i ffwrdd;
(iv) adran 140A — sgipiau adeiladwyr: ffioedd am feddiannu'r briffordd;
(v) adran 142 — trwydded i blannu coed, llwyni etc mewn priffordd;
(vi) adran 147 — pŵer i awdurdodi codi camfeydd etc ar lwybrau troed neu lwybrau ceffylau;
(vii) adran 147ZA — cytundebau ynghylch gwelliannau er lles personau sydd â phroblemau symudedd;
(viii) adran 149 — symud pethau a adawyd ar briffyrdd sy'n peri niwsans etc;
(ix) adran 169 — rheoli sgaffaldiau ar briffyrdd;
(x) adran 171 — rheoli gosod deunyddiau adeiladu ar strydoedd a gwneud gwaith cloddio mewn strydoedd;
(xi) adran 171A a rheoliadau a wneir o dan yr adran honno — gwaith o dan adran 169 neu adran 171: tâl am feddiannu'r briffordd;
(xii) adran 172 — palisau sydd i'w codi yn ystod adeiladu etc;
(xiii) adran 173 — palisau i'w codi'n ddiogel;
(xiv) adran 178 — cyfyngu ar osod rheiliau, trawstiau etc dros briffyrdd;
(xv) adran 179 — rheoli adeiladu selerydd etc o dan strydoedd;
(xvi) adran 180 — rheoli mynedfeydd i selerydd etc o dan strydoedd, a goleuadau palmentydd ac awyryddion;
(d) arfer swyddogaethau o dan adran 34 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (gorchmynion calchbalmentydd); ac
(dd) arfer swyddogaethau o dan adran 53 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (dyletswydd i adolygu mapiau a datganiadau diffiniol yn barhaus).”;
(b) yn lle paragraff 24 rhodder—“
24 
Swyddogaethau o ran gamblo o dan ddarpariaethau canlynol Deddf Gamblo 2005—
(a) adran 29 — gwybodaeth gan awdurdod trwyddedu;
(b) adran 30 — cyfnewid arall o wybodaeth;
(c) adran 212 a rheoliadau a wneir o dan yr adran honno — ffioedd;
(ch) adran 284 — tynnu ymaith esemptiad;
(d) adran 304 — personau awdurdodedig;
(dd adran 346 — erlyniadau gan awdurdod trwyddedu;
(e) adran 350 — cyfnewid gwybodaeth;
(f) Rhan 5 o Atodlen 11— cofrestru gydag awdurdod lleol.”.
5 
Yn Atodlen 3 (swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i fwrdd awdurdod yn unig)—
(a) yng ngholofn (1) yn lle “Y Cynllun Addysg Sengl” rhodder “Y Cynllun Plant a Phobl Ifanc”;
(b) yng ngholofn (2) yn lle “Rheoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006 O.S. 2006/877 (Cy.82))” rhodder “Rheoliadau a wnaed o dan adran 26 o Ddeddf Plant 2004”;
(c) ar y diwedd—
(i) yng ngholofn (1), mewnosoder “Y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy”;
(ii) yng ngholofn (2) mewn perthynas â'r cofnod hwnnw yng ngholofn (1), mewnosoder “Adran 60 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.”.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
10 Tachwedd 2009