
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 15 Rhagfyr 2009.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru 2006 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y man priodol mewnosoder—“
 ystyr “tatws hadyd o amrywiaeth gadwriaethol” (“seed potatoes of a conservation variety”) yw unrhyw amrywiaeth o datws hadyd a dderbynnir gan unrhyw Aelod-wladwriaeth i'w gatalog cenedlaethol o amrywogaethau yn unol ag Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/62/EC sy'n darparu ar gyfer rhanddirymiadau penodol gogyfer â derbyn rhywogaethau ac amrywiadau tiriol amaethyddol sydd wedi'u haddasu'n naturiol i'r amodau lleol a rhanbarthol ac sydd dan fygythiad drwy erydiad genetig ac ar gyfer marchnata had a thatws hadyd o'r rhywogaethau ac amrywiadau tiriol hynny;”.
(3) Ar ôl rheoliad 4, mewnosoder—“
4A 

(1) Rhaid i berson beidio â marchnata tatws hadyd o amrywiaeth gadwriaethol oni bai—
(a) bod yr amrywiaeth wedi'i rhestru yn y Rhestr Genedlaethol o amrywiaethau o rywogaethau tatws a baratowyd ac a gyhoeddwyd yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywiaethau) 2001; a
(b) bod y tatws hadyd hynny wedi'u cynhyrchu yn y Deyrnas Unedig.
(2) Rhaid i berson sy'n bwriadu cynhyrchu tatws hadyd o amrywiaeth gadwriaethol roi i Weinidogion Cymru, cyn gwneud hynny, ac yn y ffurf a'r modd sy'n ofynnol gan Weinidogion Cymru, fanylion ysgrifenedig o faint a lleoliad yr ardal sydd i'w defnyddio i gynhyrchu'r had hwnnw.
(3) At ddibenion erthyglau 14 a 15(2) o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/62/EC caiff Gweinidogion Cymru ddynodi uchafswm y tatws hadyd o amrywiaeth gadwriaethol y gellir eu marchnata mewn unrhyw dymor cynhyrchu penodol; a gellir pennu gwahanol uchafsymiau ar gyfer gwahanol bersonau neu wahanol ddosbarthiadau o bersonau.
(4) Rhaid i swm y tatws hadyd o amrywiaeth gadwriaethol a gynhyrchir gan berson beidio â bod yn fwy nag unrhyw uchafswm a bennir ym mharagraff (3) mewn perthynas â'r person hwnnw.
(5) Rhaid i unrhyw berson sy'n marchnata tatws hadyd o amrywiaeth gadwriaethol roi i Weinidogion Cymru, os gofynnant yn ysgrifenedig am hynny, fanylion ysgrifenedig ynghylch swm ac amrywiaeth y tatws hadyd a roddwyd ar y farchnad yn ystod pob tymor cynhyrchu.”.
(4) Yn Rhan 1 o Atodlen 2, ar ôl paragraff 8, mewnosoder—“
8A 
Yn achos tatws hadyd o amrywiaeth gadwriaethol, yn ychwanegol at ofynion paragraffau 1 i 8, rhaid i label swyddogol gynnwys yr wybodaeth bellach sy'n ofynnol dan Erthygl 18 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/62/EC.”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
10 Tachwedd 2009