
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Wrecsam (Cymunedau) 2009.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), at unrhyw ddiben a osodir yn rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2009.
(3) Daw erthyglau 5, 6, 8, 9 a 12 i rym—
(a) at ddibenion gweithrediadau rhagarweiniol i unrhyw etholiad, neu sy'n ymwneud ag unrhyw etholiad, sydd i'w gynnal ar ddiwrnod cyffredin ethol cynghorwyr yn 2012, ar 15 Hydref 2011;
(b) at bob diben arall, ar ddiwrnod cyffredin ethol cynghorwyr yn 2012.
(4) At bob diben arall, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2010, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976;
 mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o'r saith map a farciwyd “Mapiau Gorchymyn Wrecsam (Cymunedau) 2009”, a labelwyd yn briodol “A” i “G” er mwyn cyfeirio atynt ac a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
 mae unrhyw gyfeiriad at adran etholiadol yn gyfeiriad at adran etholiadol o fewn Bwrdeistref Sirol Wrecsam; ac
 os dangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, llinell reilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol gyffelyb, mae i'w thrin fel un sy'n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.
3 
Mae'r rhan o gymuned Parc Caia a ddangosir â chroeslinellau ar Fap A—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Abenbury; ac
(b) yn rhan o adran etholiadol Holt.
4 
Mae'r rhan o gymuned Abenbury a ddangosir fel ardal “A” â chroeslinellau ar Fap B—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Parc Caia;
(b) yn rhan o ward Cartrefle yng nghymuned Parc Caia; ac
(c) yn dod yn rhan o adran etholiadol Cartrefle.
5 
Nifer y cynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer cymuned Abenbury yw 10.
6 
Yng nghymuned Parc Caia nifer y cynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer ward Cartrefle yw 3, ar gyfer ward Queensway yw 3, ar gyfer ward Smithfield yw 3, ar gyfer ward Whitegate yw 3 ac ar gyfer ward Wynnstay yw 2.
7 
Mae'r rhan o gymuned Holt a ddangosir fel ardal “B” â chroeslinellau ar Fap B a'r rhan o gymuned Parc Caia a ddangosir ar ardal “C” â chroeslinellau ar Fap B—
(a) yn cael eu trosglwyddo i gymuned Gwaunyterfyn;
(b) yn rhan o ward Rhosnesni yng nghymuned Gwaunyterfyn; ac
(c) yn dod yn rhan o adran etholiadol Rhosnesni.
8 
Yng nghymuned Gwaunyterfyn nifer y cynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer ward Acton Central yw 2, ar gyfer ward Acton Park yw 2, ar gyfer ward Parc Borras yw 3, ar gyfer ward Little Acton yw 3, ar gyfer ward Maes-y-dre yw 2 ac ar gyfer ward Rhosnesni yw 4.
9 
Nid yw cymuned Holt wedi ei rhannu'n wardiau a nifer y cynghorwyr i'w hethol ar gyfer cymuned Holt yw 10.
10 
Mae'r rhan o gymuned Mwynglawdd a ddangosir â chroeslinellau ar Fap C—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Coed-poeth;
(b) yn rhan o ward y De cymuned Coed-poeth; ac
(c) yn dod yn rhan o adran etholiadol Coed-poeth.
11 
Mae'r rhan o gymuned Brychdyn a ddangosir â chroeslinellau ar Fap D—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Brymbo;
(b) yn rhan o ward Brymbo cymuned Brymbo; ac
(c) yn dod yn rhan o adran etholiadol Brymbo.
12 
Yng nghymuned Brychdyn nifer y cynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer pob un o wardiau Bryn Cefn, Bryn-teg, Gwenfro a New Broughton yw 4.
13 
Mae'r rhannau o gymuned Gresffordd a ddangosir â chroeslinellau ar Fap E—
(a) yn cael eu trosglwyddo i gymuned Gwersyllt;
(b) yn rhan o ward y De cymuned Gwersyllt; ac
(c) yn dod yn rhan o adran etholiadol Dwyrain a De Gwersyllt.
14 
Mae'r ffin rhwng ward Gorllewin Gresffordd a ward Dwyrain Gresffordd yng nghymuned Gresffordd yn cael ei newid fel a ddangosir ar Fap E lle y'i marciwyd â'r geiriau “Ffin Newydd y Ward Gymuned”.
15 
Mae'r rhan o gymuned Marchwiail a ddangosir â chroeslinellau ar Fap F yn cael ei throsglwyddo i gymuned Sesswick.
16 
Mae'r rhan o gymuned Holt a ddangosir â chroeslinellau ar Fap G yn cael ei throsglwyddo i gymuned Is-y-coed.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
4 Hydref 2009