
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Conwy (Llandudno a Chonwy) 2009.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2009.
(3) At bob diben arall, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2010, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Map A” (“Map A”), “Map B” (“Map B”), “Map C” (“Map C”) a “Map D” (“Map D”), yn ôl eu trefn, yw'r mapiau sydd wedi'u marcio ag A, B, C a D, sef mapiau o Orchymyn Conwy (Llandudno a Chonwy) 2009, a'r rheini wedi eu hadneuo'n unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976; acmae unrhyw gyfeiriad at adran etholiadol yn gyfeiriad at adran etholiadol ym Mwrdeistref Sirol Conwy.
3 
Mae newidiadau wedi eu gwneud yn ardal llywodraeth leol Bwrdeistref Sirol Conwy yn unol â darpariaethau canlynol y Gorchymyn hwn.
4 
Mae'r rhan o gymuned Conwy a ddangosir fel yr ardal resog ar Fap A—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Llandudno;
(b) yn rhan o ward Tudno cymuned Llandudno; ac
(c) yn rhan o adran etholiadol Tudno.
5 
Mae'r rhan o gymuned Conwy a ddangosir fel ardal “a” â chroeslinellau ar Fap B—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Llandudno;
(b) yn rhan o ward Craig y Don cymuned Llandudno; ac
(c) yn rhan o adran etholiadol Craig y Don.
6 
Mae'r rhan o ward Penrhyn cymuned Llandudno a ddangosir fel ardal resog “b” ar Fap B—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Craig y Don cymuned Llandudno; a
(b) yn rhan o adran etholiadol Craig y Don.
7 
Mae'r rhan o gymuned Conwy a ddangosir fel ardal resog “c” ar Fap B—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Llandudno;
(b) yn rhan o ward Penrhyn cymuned Llandudno; ac
(c) yn rhan o adran etholiadol Penrhyn.
8 
Mae'r rhan o gymuned Llandudno a ddangosir fel ardal “a” â chroeslinellau ar Fap C—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Conwy;
(b) yn rhan o ward Deganwy cymuned Conwy; ac
(c) yn rhan o adran etholiadol Deganwy.
9 
Mae'r rhan o gymuned Llandudno a ddangosir fel ardal resog “b” ar Fap C—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Conwy;
(b) yn rhan o ward Marl cymuned Conwy; ac
(c) yn rhan o adran etholiadol Marl.
10 
Mae'r rhan o ward Marl cymuned Conwy a ddangosir fel ardal resog “c” ar Fap C—
(a) wedi ei throsglwyddo i ward Deganwy cymuned Conwy; a
(b) yn rhan o adran etholiadol Deganwy.
11 
Mae'r rhan o gymuned Llandudno a ddangosir fel ardal resog “a” ar Fap D—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Conwy;
(b) yn rhan o ward Pen-sarn cymuned Conwy; ac
(c) yn rhan o adran etholiadol Pen-sarn.
12 
Mae'r rhan o gymuned Conwy a ddangosir fel ardal resog “b” ar Fap D—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Llandudno;
(b) yn rhan o ward Penrhyn cymuned Llandudno; ac
(c) yn rhan o adran etholiadol Penrhyn.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
4 Hydref 2009