
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 2 Tachwedd 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Dirymir rheoliad 5 o Reoliadau Addysg (Adolygu Strwythur Staffio) (Cymru) 2005.
3 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Deddf 2002” (“2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002.
4 
Ar ôl rheoliad 5 o Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006 mewnosoder y testun canlynol:“
5A 

(1) Rhaid i'r corff llywodraethu sicrhau bod y pennaeth yn yr ysgol—
(a) yn cydymffurfio â'r dyletswyddau a osodir ar y pennaeth; a
(b) yn elwa ar unrhyw hawlogaeth a roddir i'r pennaeth
drwy unrhyw orchymyn o dan adran 122 o Ddeddf 2002 (cyflog ac amodau athrawon).
(2) Wrth iddo gyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff (1)(a), rhaid i'r corff llywodraethu roi sylw i'r dymunoldeb bod y pennaeth yn gallu cael cydbwysedd boddhaol rhwng yr amser y mae ei angen arno i gyflawni ei ddyletswyddau proffesiynol a'r amser y mae ei angen arno i ddilyn ei ddiddordebau personol y tu allan i'r gwaith.”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
5 Hydref 2009