
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Gwybodaeth Faethol) (Cymru) 2009, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 30 Hydref 2009.
2 

(1) Mae Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 wedi'u diwygio'n unol â pharagraffau (2) i (4) a rheoliad 3.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a) yn y diffiniad o Gyfarwyddeb 90/496, ar ôl y geiriau “Commission Directive 2003/120/EC” mewnosoder “and Commission Directive 2008/100/EC”; a
(b) ar ôl y diffiniad o “fat” mewnosoder y canlynol—“
 “fibre”, in the context of nutrition labelling, means carbohydrate polymers with three or more monomeric units, which are neither digested nor absorbed in the human small intestine and belong to the following categories:
— edible carbohydrate polymers naturally occurring in the food as consumed;
— edible carbohydrate polymers which have been obtained from food raw material by physical, enzymatic or chemical means and which have a beneficial physiological effect demonstrated by generally accepted scientific evidence; or
— edible synthetic carbohydrate polymers which have a beneficial physiological effect demonstrated by generally accepted scientific evidence;”.
(3) Yn Atodlen 6, Rhan II—
(a) yn lle'r cofnodion yn Nhabl A (fitaminau y caniateir i honiadau gael eu gwneud amdanynt) rhodder y cofnodion a welir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn; a
(b) yn lle'r cofnodion yn Nhabl B (mwynau y caniateir i honiadau gael eu gwneud amdanynt) rhodder y cofnodion a welir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
(4) Yn Atodlen 7, Rhan I, paragraff 5—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (g), yn lle'r atalnod llawn, rhodder hanner colon; a
(b) ar ôl is-baragraff (g), ychwaneger yr is-baragraffau a ganlyn—“
(h) 1 gram of fibre is deemed to contribute 8kJ (2 kcal);
(i) 1 gram of erythritol is deemed to contribute 0kJ (0kcal).”.
3 
Yn rheoliad 50 (darpariaeth drosiannol), ar ôl paragraff (15) ychwaneger y canlynol fel paragraff (16)—“
(16) In any proceedings for an offence under regulation 44(1)(b), it is a defence to prove that—
(a) the food concerned—
(i) if sold, was sold before 31 October 2012, and
(ii) if advertised for sale, was advertised for sale before 31 October 2012 but not on or after that date; and
(b) the matters constituting the alleged offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendments made by regulation 2 of the Food Labelling (Nutrition Information) (Wales) Regulations 2009 had not been in operation when the food was sold.”.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
4 Hydref 2009
ATODLEN 1
Rheoliad 2(3)(a)

Tabl o'r cofnodion i'w rhoi yn lle'r cofnodion presennol yn Nhabl A (fitaminau y caniateir i honiadau gael eu gwneud amdanynt) yn Atodlen 6, Rhan II, i Reoliadau Labelu Bwyd 1996

Column 1 Column 2
Vitamin Recommended Daily Allowance
Vitamin A 800 μg
Vitamin D 5 μg
Vitamin E 12 mg
Vitamin K 75 μg
Vitamin C 80 mg
Thiamin 1.1 mg
Riboflavin 1.4 mg
Niacin 16 mg
Vitamin B6 1.4 mg
Folic acid 200 μg
Vitamin B12 2.5 μg
Biotin 50 μg
Pantothenic acid 6 mg

ATODLEN 2
Rheoliad 2(3)(b)

Tabl o'r cofnodion i'w rhoi yn lle'r cofnodion presennol yn Nhabl B (mwynau y caniateir i honiadau gael eu gwneud amdanynt) yn Atodlen 6, Rhan II, i Reoliadau Labelu Bwyd 1996

Column 1 Column 2
Vitamin Recommended Daily Allowance
Potassium 200 mg
Chloride 800 mg
Calcium 800 mg
Phosphorus 700 mg
Magnesium 375 mg
Iron 14 mg
Zinc 10 mg
Copper 1 mg
Manganese 2 mg
Fluoride 3.5 mg
Selenium 55 μg
Chromium 40 μg
Molybdenum 50 μg
Iodine 150 μg
