
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Canolfan Iechyd Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2009 a daw i rym ar 1 Hydref 2009.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Canolfan Iechyd Cymru” (“Wales Centre for Health”) yw'r corff o'r enw Canolfan Iechyd Cymru neu Wales Centre for Health a sefydlwyd gan adran 2 o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003;
 ystyr “Deddf 2003” (“the 2003 Act”) yw Deddf Iechyd (Cymru) 2003;
 ystyr “dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yw 1 Hydref 2009.
3 
A hynny'n effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen, trosglwyddir holl swyddogaethau Canolfan Iechyd Cymru, fel y'u nodir yn adran 3 o Ddeddf 2003, i Weinidogion Cymru.
4 
A hynny'n effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen, trosglwyddir holl eiddo Canolfan Iechyd Cymru, gan gynnwys yr eiddo a restrir yn Atodlen 1, i Weinidogion Cymru.
5 

(1) Trosglwyddir i Weinidogion Cymru unrhyw hawl a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn orfodadwy gan neu yn erbyn Canolfan Iechyd Cymru.
(2) Trosglwyddir i Weinidogion Cymru unrhyw rwymedigaeth sy'n codi o arfer ei swyddogaethau a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn orfodadwy yn erbyn Canolfan Iechyd Cymru.
6 
Diddymir Canolfan Iechyd Cymru a hynny'n effeithiol o 1 Hydref 2009 ymlaen.
7 
Diddymir Rheoliadau Canolfan Iechyd Cymru (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) 2004 a hynny'n effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Medi 2009
ATODLEN 1
Erthygl 4


Eiddo Deiliadaeth
Y Llawr Cyntaf, 14 Heol y Gadeirlan Caerdydd, CF11 9LJ Lesddaliad
Llawr Daear, 14 Heol y Gadeirlan Caerdydd, CF11 9LJ Lesddaliad
Swyddfa yn Uned S5 Lesddaliad
Neuadd Croesnewydd 
Parc Technoleg Wrecsam 
Wrecsam , LL13 7YP 