
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) (Cymru) 2009 a daw i rym ar 1 Hydref 2009.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Gorchymyn hwn onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—
 ystyr “Canolfan Iechyd Cymru gynt” (“the former Wales Centre for Health”) yw'r corff a elwid yn Ganolfan Iechyd Cymru neu the Wales Centre for Health a sefydlwyd gan adran 2 o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003 ac a ddiddymwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Canolfan Iechyd Cymru;
 ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw 1 Hydref 2009;
 ystyr “Gorchymyn Trosglwyddo Canolfan Iechyd Cymru” (“the Wales Centre for Health Transfer Order”) yw Gorchymyn Canolfan Iechyd Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2009;
 ystyr “yr Ymddiriedolaeth” (“the Trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009.
3 

(1) Mae'r eiddo a drosglwyddwyd i Weinidogion Cymru gan erthygl 4 ac Atodlen 1 i Orchymyn Trosglwyddo Canolfan Iechyd Cymru yn cael ei drosglwyddo, gydag effaith o'r dyddiad trosglwyddo, i'r Ymddiriedolaeth.
(2) Rhaid i'r Ymddiriedolaeth gadw at delerau'r lesoedd yr ymrwymodd Canolfan Iechyd Cymru gynt iddynt ac a gafodd eu trosglwyddo i'r Ymddiriedolaeth yn rhinwedd yr erthygl hon.
4 

(1) Mae pob hawl a drosglwyddwyd i Weinidogion Cymru gan erthygl 5(1) o Orchymyn Trosglwyddo Canolfan Iechyd Cymru yn cael ei throsglwyddo, gydag effaith o'r dyddiad trosglwyddo, i'r Ymddiriedolaeth.
(2) Mae pob rhwymedigaeth a drosglwyddwyd i Weinidogion Cymru gan erthygl 5(2) o Orchymyn Trosglwyddo Canolfan Iechyd Cymru yn cael ei throsglwyddo, gydag effaith o'r dyddiad trosglwyddo, i'r Ymddiriedolaeth.
5 

(1) Mae'n rhaid i'r Ymddiriedolaeth gymryd y fath gamau ag sy'n angenrheidiol i ddirwyn i ben faterion Canolfan Iechyd Cymru gynt gan gynnwys paratoi cyfrifon dyladwy'r Ganolfan.
(2) Rhaid i'r Ymddiriedolaeth anfon y datganiad o gyfrifon i Archwilydd Cyffredinol Cymru cyn 31 Rhagfyr 2009.
(3) Rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol—
(a) archwilio ac ardystio'r cyfrifon a gyflwynwyd o dan baragraff (2); a
(b) gosod copi ohonynt fel y'u hardystiwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd ag adroddiad arnynt.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Medi 2009